CBHC / RCAHMW > Amdanom Ni > Gwybodaeth Gorfforaethol > Polisïau > Polisi Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus

Polisi Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus

Datganiad Tasg Cyhoeddus

1. Ein Cefndir

2. Ein Tasg Gyhoeddus

3. Cyrchu Gwybodaeth

4. Trwyddedu

5. Ymdrin â Cheisiadau am Ailddefnyddio Deunydd

6. Codi tâl

7. Y Drefn Gwyno

8. Adolygu


Datganiad Tasg Gyhoeddus

Mae Tasg Gyhoeddus Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (y Comisiwn Brenhinol) dan Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015 (‘y Rheoliadau’) yn cynnwys rhwymedigaethau’r Comisiwn a dyletswyddau ei swyddogion:

Mae’r Comisiwn Brenhinol yn cynhyrchu, yn cadw ac yn defnyddio dogfennau o fewn ei Dasg Gyhoeddus:

  • mewn unrhyw fformat a chyfrwng ac ym mhob fformat a chyfrwng
  • ar ffurf ffisegol a digidol, ar-lein ac fel arall
  • ar safle’r Comisiwn Brenhinol ac yn allanol.

Nôl i ben y dudalen

1. Ein Cefndir

Y Comisiwn Brenhinol yw’r corff ymchwilio a’r archif genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru.

Gallwch gael gwybod myw amdanom ar ein tudalennau Amdanom Ni.

Nôl i ben y dudalen

2. Ein Tasg Gyhoeddus

Caiff ein cyfrifoldebau eu nodi yn ein Gwarant Frenhinol.

Yn unol â’r Warant, rydym:

  • Yn ymchwilio i archaeoleg, adeiladau, tirweddau ac olion arforol o’r cyfnod cynhanesyddol hyd heddiw ac yn eu harolygu a’u cofnodi.
  • Yn curadu archif cyfoethog Cymru ynghylch yr amgylchedd hanesyddol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), sef adnodd diwylliannol pwysig sy’n cynnwys dros ddwy filiwn o ffotograffau, 125,000 o luniadau a channoedd ar filoedd o ddogfennau eraill a setiau data digidol.
  • Yn hwyluso mynediad i CHCC drwy gyfrwng gwasanaeth ymholiadau cyhoeddus cyflawn, ystafell chwilio gyhoeddus a llyfrgell.
  • Yn cynorthwyo pobl i ddysgu am ein treftadaeth gyfoethog drwy ddarparu gweithgareddau allgymorth, megis darlithoedd, diwrnodau agored, arddangosfeydd, a theithiau; a thrwy gyfrwng adnoddau ar-lein, a chyhoeddiadau.
  • Yn darpau cyngor diduedd a gwybodaeth er mwyn helpu pobl i reoli’r amgylchedd hanesyddol mewn ffordd gynaliadwy a moesegol, ac yn unol â statud, polisi a chonfensiynau cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Yn gosod safonau cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cofnodi ac ymchwilio yn y sector, ac yn hybu arloesi a dulliau creadigol at ddehongli’r amgylchedd hanesyddol.
  • Yn mynd ar drywydd cyfleoedd i gynhyrchu cyllid o’r tu allan ar gyfer ein gwaith ac yn datblygu ffyrdd o ennill incwm o’n hasedau ni ein hunain. Mae hynny’n cynnwys gwerthu cyhoeddiadau, setiau data, copïau o ddelweddau a chofnodion eraill.
  • Yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector ac mewn disgyblaethau cysylltiedig i ymchwilio i’r amgylchedd hanesyddol a’i gofnodi a’i ddehongli, mynd ar drywydd cyfleoedd o ran cyllid, a rhannu data, gwybodaeth a safonau.

I gyflawni ein tasg gyhoeddus rydym yn creu, yn casglu ac yn crynhoi’r mathau canlynol o ddeunydd ac yn sicrhau eu bod ar gael:

Setiau Data Digidol – data â chyfeirnodau daearyddol am safleoedd archaeolegol, pensaernïol, diwydiannol ac arforol, henebion, a thirweddau, data System Gwybodaeth Ddaearyddol a metadata catalog yn ymwneud ag archifau copi caled ac archifau digidol.

Cofnodion Archifol – caiff y categorïau o gofnodion archifol yr ydym yn ymrwymo i’w casglu eu nodi ym Mholisi Casglu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Llyfrgell Gyfeiriol – gweler ein Polisi Casglu Llyfrgell am fanylion.

Nôl i ben y dudalen

3. Cyrchu Gwybodaeth

Mae’r wybodaeth sa gedwir yn CHCC ar gael am ddim o dan Drwydded Anfasnachol Llywodraeth a gellir ei chyrchu mewn nifer o wahanol ffyrdd:

  • drwy Coflein, ein cronfa ddata a chatalog ar-lein o safleoedd
  • gwefan Casgliad y Werin Cymru a Phorth Cymru Hanesyddol
  • drwy gyrchu CHCC yn uniongyrchol yn ein hystafell chwilio
  • drwy ein cyhoeddiadau
  • drwy arddangosfeydd
  • drwy weithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd
  • ar gyfryngau cymdeithasol.

Nôl i ben y dudalen

4. Trwyddedu

Cofnodion CHCC

Mae’r cofnodion a gedwir yn CHCC yn tarddu o amryfal ffynonellau ac mae llawer un yn berchen ar yr hawlfreintiau. Mae llawer ohonynt yn eiddo i’r Goron sydd wedi dirprwyo awdurdod i’r Comisiwn Brenhinol reoli a gweinyddu’r hawlfraint ar ei rhan. Mae’r deunydd hwn ar gael drwy’r Drwydded Llywodraeth Anfasnachol ac mae ganddo statws gwerth-ychwanegol.

I ailddefnyddio’n fasnachol unrhyw ddeunydd â hawlfraint y Goron a gedwir yn CHCC, bydd angen gwneud cais am drwydded. Bydd y Comisiwn Brenhinol yn codi tâl masnachol am ddeunydd os yw’r sawl sy’n gwneud y cais yn bwriadu ei ailddefnyddio at ddibenion masnachol. Mewn achosion o’r fath, codir tâl am gais i’w ailddefnyddio, yn unol â’r gweithdrefnau a nodir isod. Caiff y taliadau eu hadolygu bob blwyddyn ar sail y Rheoliadau Ailddefnyddio a byddant yn cydymffurfio â nhw. Bydd y Comisiwn Brenhinol yn codi tâl sy’n uwch na’r gost ffiniol yn unol ag eithriadau 15 (3) (a) ac (c).

Mae data am safleoedd, a gedwir ar Coflein a phorth Cymru Hanesyddol, ar gael am ddim dan y Drwydded Llywodraeth Agored.
Nôl i ben y dudalen

5. Ymdrin â Cheisiadau am Ailddefnyddio Deunydd

Rhaid i bob cais i ailddefnyddio deunydd a gedwir yn CHCC gael ei gyflwyno ar y ffurflen archebu (LES08). Ar ôl cael ffurflen sydd wedi’i llenwi, rhoddir dyfynbris i’r sawl sy’n ymholi (yn unol â’r rhestr brisiau bresennol sydd wedi’i chyhoeddi (LES16)). Bydd y dyfynbris yn cynnwys cost y nwyddau, cost postio a phacio, a ffi’r drwydded (os yn briodol, yn unol â’r ffïoedd trwydded presennol sydd wedi’u cyhoeddi (LES17)). Ar ôl cael cadarnhad bydd anfoneb yn cael ei hanfon, a phan fydd wedi’i thalu bydd y nwyddau a’r cytundeb trwydded yn dilyn.

Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i ymdrin â phob cais cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Cynigir gwasanaeth chwilio â blaenoriaeth (yn amodol ar argaeledd) lle caiff chwiliadau am ddeunydd archifol eu cynnal a lle caiff y canlyniadau eu hanfon cyn pen dau ddiwrnod gwaith. Mae’r costau i’w gweld yn y rhestr brisiau (LES16).

6. Codi tâl

Fel aelod achrededig o’r Cynllun Masnachu Teg ym maes Gwybodaeth, mae’r Comisiwn Brenhinol yn cydymffurfio â’r safonau a nodir yn nogfen Llywodraeth Cymru ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’ (sy’n caniatáu i’r Comisiwn Brenhinol godi tâl am gopïau o wybodaeth ac am ddefnyddio gwybodaeth). Mae’r manylion i’w gweld yn y rhestr brisiau (LES16) a’r ffioedd trwydded (LES17).
Nôl i ben y dudalen

7. Y Drefn Gwyno

Mae gan y Comisiwn Brenhinol bolisi cwynion sy’n egluro’r weithdrefn ar gyfer cwyno ac yn egluro’r modd yr ymdrinnir â chwynion. Caiff y weithdrefn hon ei rhoi ar waith os bydd cwyn yn dod i law ynghylch ceisiadau i ailddefnyddio gwybodaeth y Comisiwn Brenhinol. Mae croeso i’r sawl sy’n ailddefnyddio gwybodaeth a’r sawl sydd â thrwydded gynnig sylwadau ar y datganiad ynghylch tasg gyhoeddus, a chaiff eu barn ei hystyried y tro nesaf y bydd y datganiad yn cael ei adolygu. Os na fydd y sawl sy’n ailddefnyddio gwybodaeth yn fodlon ar ôl cyflwyno cwyn, mae croeso iddynt gyfeirio’r gŵyn at y Comisiynydd Gwybodaeth dan y Rheoliadau Ailddefnyddio.
Nôl i ben y dudalen

8. Adolygu

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn adolygu’r polisi hwn bob pedair blynedd, a disgwylir y bydd y polisi’n cael ei ystyried eto yn 2027.

Gellir cyflwyno cwestiynau, sylwadau a chwynion drwy dudalen Cysylltu â ni y Comisiwn Brenhinol. Os na fydd y sawl sy’n ailddefnyddio gwybodaeth yn fodlon ar ôl gwneud cwyn, gallant gyfeirio’r gŵyn at y Comisiynydd Gwybodaeth dan y Rheoliadau Ailddefnyddio.

2023

Logo Trwydded Llywodraeth AgoredMae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Nôl i ben y dudalen

Tweets