Polisi Awyren Ddi-beilot (UAV)

Datganiad ar Adneuo Ffotograffiaeth a Fideograffiaeth Drôn Allanol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru

O fis Chwefror 2019 ni fydd archif y Comisiwn Brenhinol, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), yn gallu derbyn delweddau a gasglwyd gan ddrôn (awyren ddi-beilot / UAV) oni bai bod y sawl a oedd yn ei weithredu yn dal Caniatâd ar gyfer Gweithrediadau Masnachol (PfCO) dilys.

Dyfernir y dystysgrif hon gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), ac mae’n sicrhau bod gofynion penodol ar gyfer gweithredu dronau’n ddiogel yn y DU wedi’u bodloni, sef bod y peilot wedi’i gymhwyso’n addas i hedfan dronau yn ddiogel a chyfrifol, bod y drôn mewn cyflwr i’w hedfan a bod gan y peilot yswiriant trydydd parti priodol ar gyfer gweithrediadau hedfan. Mae’r gallu i ddangos bod delweddau o’r awyr wedi’u casglu’n ddiogel a chyfreithiol o’r pwys mwyaf er mwyn diogelu enw da CHCC a’i gasgliad. Nid yw delweddau o’r awyr a gasglwyd mewn modd peryglus ac anghyfreithlon yn addas i’w storio mewn archif cenedlaethol.

Rhaid ufuddhau i’r cyfreithiau tresmas, preifatrwydd a gofod awyr wrth ddefnyddio drôn i gasglu delweddau o’r awyr. Gall deiliaid Caniatâd ar gyfer Gweithrediadau Masnachol ddangos eu bod yn deall sut i weithredu drôn a chasglu delweddau o’r awyr o fewn y gyfraith gan eu bod wedi ymgymryd â’r hyfforddiant ac asesu perthnasol. Mae hyn yn sicrhau yr ymgymerwyd ag unrhyw waith ffotograffig yn ddiogel a chyfreithiol ac felly’n ardystio bod y delweddau’n addas i’w harchifo.

Rhaid cynnwys pob un o’r canlynol pan gyflwynir delweddau wedi’u casglu gan ddrôn i CHCC:

  • Copi o Dystysgrif PfCO gyfredol y CAA (yn ddilys adeg casglu’r delweddau);
  • Prawf bod y tirfeddiannwr wedi rhoi caniatâd i ddefnyddio’r ardal esgyn a glanio a ddefnyddiwyd yn ystod hediad (yn ddilys adeg casglu’r delweddau);
  • Tystiolaeth bod Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac Yswiriant Hedfan wedi’i godi ar gyfer y drôn a ddefnyddiwyd (yn ddilys adeg casglu’r delweddau);
  • Tystiolaeth bod yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi rhoi caniatâd mewn ysgrifen ar gyfer hediad drôn dros unrhyw eiddo yn perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol;
  • Tystiolaeth bod Cadw wedi rhoi caniatâd mewn ysgrifen ar gyfer hediad drôn dros y safleoedd y mae’n eu gwarchod. Ni fydd Cadw yn caniatáu hedfan dronau o neu dros y safleoedd y mae’n eu gwarchod ac eithrio gan gontractwyr a gomisiynwyd at bwrpas penodol, sy’n bodloni meini prawf llym y CAA, sy’n meddu ar yr yswiriannau cywir ac sy’n gweithredu o dan amodau rheoledig.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am weithredu dronau’n ddiogel yn y DU yma: https://dronesafe.uk/drone-code/

Gellir cael gwybodaeth am barthau gwahardd dronau yma: http://www.noflydrones.co.uk/

I gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio dronau ac adneuo delweddau o’r awyr yn yr archif, cysylltwch â Daniel Hunt: daniel.hunt@rcahmw.gov.uk


I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: CBHC Polisi Awyren Ddi-beilot (UAV)

Logo Trwydded Llywodraeth Agored Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

 

Tweets