1. Y Sefydliad
2. Statws Cyfreithio
3. Cwmpas
Perthnasedd
Categorïau
Tarddiadau
Gorgyffwrdd a Chydweithio â Chyrff Eraills
Dulliau Caffael
Amodau
Dad-Dderbyn a Dinistrio Cofnodion
Y Polisi Casglu hwn sy’n llywodraethu casgliadau archifol Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). CHCC yw archif cyhoeddus Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC), y corff sy’n ymchwilio i amgylchedd hanesyddol Cymru. Ganddo ef y mae’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol a’i deall, a chais hyrwyddo gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth honno yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Dyma’n cyfeiriad a’n manylion cysylltu:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Ffordd Penglais, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU
Ffôn: +44(0)1970 621200
Ffacs: +44(0)1970 627701
E-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk
Nôl i ben y dudalen
Mae CBHC wedi’i sefydlu o dan Warant Frenhinol sy’n rhoi iddo’i bwerau, yn nodi ei brif gyfrifoldebau ac yn gosod dyletswydd arno:
i arolygu a chofnodi henebion ac adeiladweithiau sydd yn gysylltiedig â diwylliant cyfoes, gwareiddiad ac amodau pobl Cymru o’r cyfnod cynharaf (gan gynnwys yr henebion a’r adeiladweithiau yng ngwely’r môr, arno neu oddi tano o fewn moroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig ger Cymru) neu sydd yn eu hegluro trwy gywain, cynnal a churadu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru fel y cofnod cenedlaethol sylfaenol o’r amgylchedd archeolegol a hanesyddol.
Yn unol â hynny, mae’r polisi hwn yn disgrifio’n nod, o dan y Warant Frenhinol, sef:
casglu a chadw cofnod cynhwysfawr o henebion archaeolegol, pensaernïol a hanesyddol Cymru, gan gynnwys ei dyfroedd tiriogaethol, o’r cyfnodau cynharaf hyd heddiw, a threfnu i’r cofnod hwnnw fod ar gael.
Perthnasedd
I ddaliadau archifol CHCC fod yn berthnasol i’w gylch gwaith, fe ddylent, o ran eu cynnwys, wneud hyn:
Categorïau
* Drwy gydol y testun, mae’r term “archaeolegol” yn cyfeirio at bob math o archaeoleg, gan gynnwys archaeoleg ddiwydiannol, archaeoleg arforol ac archaeoleg y dirwedd.
Gall y categorïau uchod o gofnodion fod ar ffurf copi caled neu’n ddigidol eu fformat. Os yw’r cofnodion gwreiddiol yn rhai digidol, yr ydym yn ymrwymo i gadw’r cofnodion yn y fformat hwnnw os bydd hynny’n bosibl.
Nôl i ben y dudalen
Tarddiadau
Yr ydym yn ymrwymo i gasglu cofnodion sydd wedi’u cynhyrchu gan CBHC, Cadw ac Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru. Byddwn ni hefyd yn casglu cofnodion cyrff cyhoeddus a sefydliadau academaidd eraill, megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Arolwg Ordnans ac adrannau prifysgolion. Yn ogystal, fe gymerwn ni gofnodion gan gyrff preifat a masnachol, yn enwedig contractwyr archaeolegol a phractisau pensaernïol neu bractisau peirianneg sifil. Mae gennym ni ddiddordeb hefyd mewn cofnodion sydd wedi’u cynhyrchu gan arbenigwyr unigol, gan gynnwys archaeolegwyr a haneswyr pensaernïol, ac aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cynhyrchu cofnodion drwy ymchwilio i bynciau perthnasol neu gasglu deunyddiau yn eu cylch.
Nôl i ben y dudalen
Gorgyffwrdd a Chydweithio â Chyrff Eraill
Yr ydym yn ymrwyno i gysylltu â chyrff archifol cenedlaethol priodol eraill yng Nghymru a’r DU, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Henebion Cenedlaethol yr Alban a Lloegr ac Amgueddfa Cymru, ynghylch caffael cofnodion. Byddwn ni’n cadw
mewn cysylltiad cyson â chyrff o’r fath i sicrhau mai hwy a gaiff y cynnig cyntaf os cynigir i ni gasgliadau sy’n fwy perthnasol i’w cylch gwaith hwy. Er enghraifft, os cawn ni gynnig archif y mae’r mwyafrif o’r cofnodion ynddo’n ymwneud â safleoedd yn Lloegr, fe gysylltwn â Chofnodion Henebion Cenedlaethol Lloegr; os yw casgliad yn cynnwys ar y mwyaf o ddeunydd sy’n fwy perthnasol i wleidyddiaeth Cymru, fe ymgynghorwn ni â’r Llyfrgell Genedlaethol. Drwy drafod a meithrin perthynas weithio dda â’r sefydliadau hynny, disgwyliwn gael yr un driniaeth ganddynt hwy.
Os oes casgliadau mawr y mae modd eu rhannu’n hwylus ar hyd llinellau daearyddol ac os oes deunydd sylweddol sy’n berthnasol i Gymru ynddynt, gallwn ni gytuno i rannu’r casgliadau hynny rhyngom ni a’n chwaer-sefydliadau yn yr Alban a Lloegr.
Yr ydym hefyd yn ymgymryd i gysylltu â sefydliadau lleol yng Nghymru, megis archifdai’r siroedd ac amgueddfeydd lleol, ynghylch caffael cofnodion a thynnu eu sylw at gasgliadau a all fod yn fwy perthnasol i’w daliadau hwy, neu gymryd archifau y gallant hwy eu cyfeirio atom ni. Mewn perthynas ag amgueddfeydd lleol yn benodol, byddwn ni’n casglu archifau cloddiadau archaeolegol os ydynt yn rhai cwbl ddogfennol, ond fe gyfeiriwn ni adneuwyr at amgueddfeydd lleol os yw’r archif yn cynnwys darganfyddiadau ac arteffactau eraill. Os yw’r archifau hynny’n cynnwys cofnodion papur yn bennaf ac ychydig o ddarganfyddiadau, fe gysylltwn ni â’r amgueddfa berthnasol a chynnig dal y gyfran ddogfennol o’r casgliad. Os nad yw amgueddfeydd lleol yn fodlon cymryd casgliadau archaeolegol cymysg o’r fath, fe gysylltwn ni ag Amgueddfa Cymru.
Nôl i ben y dudalen
Dulliau Caffael
Bydd CHCC yn chwilio’n weithgar am ddeunydd perthnasol fel rhoddion ac yn ymateb i gynigion ohonynt neu, os bydd angen, bydd yn prynu deunydd perthnasol. Gall CHCC lunio strategaethau caffael i reoli’r caffael gweithgar ar gofnodion. Gall y rheiny ddeillio o brosiectau CBHC mewn ardaloedd daearyddol penodol neu ar fathau penodol o safleoedd, neu o ganfod bylchau yn ein casgliadau neu’r meysydd yr ymddiddorwn ynddynt, e.e. cofnodion practisau pensaernïol yng Nghymru. Bydd y strategaethau hynny’n esgor ar fanylion pellach ynglŷn â’r mathau o gofnodion sydd i’w casglu, sut y dylid chwilio amdanynt, a’r adnoddau y bydd eu hangen i ymdrin â hwy. Yn yr un modd, gellir llunio canllawiau manwl ar gyfer rhoi fformatau neu fathau penodol o gofnodion, yn enwedig mewn perthynas â chofnodion digidol. Gall y canllawiau hynny fod yn dechnegol fanwl a rhagnodi sut y mae’n rhaid cyflwyno cofnodion penodol a’r metadata cysylltiedig i ni.
Os yw’n ymarferol, gall CHCC wneud cais i gyrff fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri am gymorth grant i brynu casgliadau mawr, neu weithio mewn partneriaeth â chwaer sefydliadau i ariannu, neu wneud cais am gyllid, i brynu casgliadau mawr y gellir eu rhannu rhwng y partneriaid.
Os bydd modd, fe lofnodir cytundebau parhaus â phrif adneuwyr rheolaidd deunydd. Er enghraifft, mae Memorandwm Cytundeb ar waith rhwng yr Archifau Gwladol, Cadw, Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Brenhinol i ymdrin â throsglwyddo cofnodion o Cadw i CHCC, ac fe anogir sefydliadau eraill i ddefnyddio cytundebau a rhaglenni tebyg.
Nôl i ben y dudalen
Amodau
Gyda phob rhodd i CHCC dylid cyflwyno ffurflen – wedi’i llenwi – i drosglwyddo’r rhodd yn swyddogol. Caiff unrhyw amod a gysylltir gan y rhoddwr ei hystyried yn ofalus cyn derbyn yr eitem, yn enwedig os bydd yn effeithio ar fynediad cyhoeddus i’r eitem neu’n rhwystro cynnwys yr eitem ar system we Coflein sydd â mynediad cyhoeddus iddi. Gall benthyciadau ac adneuon fod yn destun amodau penodol y byddwn ni wedi cytuno yn eu cylch.
Os caiff cofnodion eu caffael, fe geisir neu fe brynir rhodd yr hawlfraint, ond ni fydd cadw’r hawlfraint ar gasgliadau gan y perchnogion yn eu rhwystro rhag rhoi’r casgliadau. Caiff CHCC ei lywio gan egwyddorion mynediad-i’r-cyhoedd, ac fe gais sicrhau bod modd trefnu i dderbyniadau fod mor hygyrch â phosibl, gan gynnwys mynediad iddynt drwy Coflein. Efallai y byddwn ni’n caffael cofnodion y bydd yn rhaid peidio â’u rhyddhau am gyfnod rhesymol, ond wnawn ni ddim dal cofnodion na ellir trefnu iddynt fod yn hygyrch i’r cyhoedd o fewn amserlen realistig.
Nod CHCC yw cydymffurfio â Safon yr Archifau Gwladol (y TNA) ar gyfer Storfeydd Cofnodion (2004), ac mae’n addo cydymffurfio â’r Ddeddf Cofnodion Cyhoeddus a cheisio arweiniad gan y TNA wrth gaffael cofnodion cyhoeddus. Ni fydd CHCC yn ceisio caffael unrhyw eitem na chasgliad onid yw wedi’i fodloni bod modd iddo gaffael teitl dilys i’r deunydd ac nad yw’r deunydd hwnnw wedi’i gaffael o wlad ei darddiad, nac wedi’i allforio ohoni, yn groes i gyfreithiau’r wlad honno.
Nôl i ben y dudalen
Dad-Dderbyn a Dinistrio Cofnodion
Mae’r casgliadau a ddelir yn CHCC wedi’u dynodi’n rhai i’w diogelu’n barhaol a cheir rhagdybiaeth gref yn erbyn cael gwared ar unrhyw ddeunydd sydd wedi’i gasglu o dan delerau’r Polisi Casglu, wedi’i dderbyn ac y trefnwyd iddo fod ar gael i’r cyhoedd. Er hynny, mae’r Comisiwn Brenhinol yn addo adolygu casgliadau ac fe all, o dan rai amgylchiadau, ystyried dad-dderbyn casgliad neu eitemau unigol. Enghraifft bosibl o hynny yw set o gopïau mecanyddol unfath o luniad penodol. Bydd y Comisiwn Brenhinol yn trosglwyddo eitemau neu gasgliad i storfa addas arall os yw hynny’n bosibl ac yn briodol. Ni chynigir unrhyw gasgliad neu gofnod archifol unigol i’w werthu.
Fe ystyrir dinistrio deunydd os yw ef mewn cyflwr mor wael nes nad oes unrhyw ragolwg, heddiw neu yn y dyfodol rhagweladwy, o adfer y wybodaeth wreiddiol a oedd ynddo. Rhoir blaenoriaeth i’w ddinistrio os oes gofyn ei storio ar ei ben ei hun oherwydd y risg posibl i ddeunydd archifol arall. Gellir hefyd ddinistrio eitemau sydd wedi’u copïo a’u dyblygu’n fecanyddol os nad yw’n bosibl neu’n briodol eu trosglwyddo i sefydliadau eraill.
![]() |
Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. |