Polisi Diogelu Data

 

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cydymffurfio â’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC) wrth gasglu, prosesu a throsglwyddo gwybodaeth bersonol, ac mae wedi ymrwymo i ddilyn arfer da. Felly bydd y Comisiwn Brenhinol yn bodloni’r gofynion canlynol mewn perthynas â gwybodaeth bersonol:

• Caiff ei phrosesu’n deg a chyfreithlon.
• Caiff ei phrosesu at ddibenion cyfyngedig ac nid mewn unrhyw ffordd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny.
• Bydd yn ddigonol, perthnasol a heb fod yn ormodol.
• Bydd yn gywir.
• Ni chaiff ei chadw am fwy o amser nag sy’n angenrheidiol.
• Caiff ei phrosesu yn unol â hawliau’r testun data.
• Bydd yn ddiogel.
• Ni chaiff ei throsglwyddo i wledydd nad oes ganddynt ddiogelwch digonol.

Felly, bydd y Comisiwn Brenhinol bob amser yn sefydlu sail gyfreithiol dros gasglu gwybodaeth bersonol ac yn hysbysu’r cyhoedd yn glir, mewn Hysbysiad Preifatrwydd, o’r canlynol:

• Pa ddata personol yr ydym yn ei rheoli a’i phrosesu
• Pam y mae angen y data hwn arnom
• Sut a ble y caiff y data hwn ei brosesu a’i storio, ac i bwy y gwneir unrhyw drosglwyddiadau data
• Pa mor hir y cadwn y data a pham

Ni fydd yn casglu ond y wybodaeth bersonol honno sydd ei hangen er mwyn cyflawni’n briodol ei ddyletswyddau cyhoeddus, a bydd yn cadw’r wybodaeth honno cyhyd ag y bo’i hangen yn unig. Ni fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio ond at y dibenion y cafodd ei chasglu, rhoddir ystyriaeth briodol i hawliau testunau data wrth ei phrosesu, a chaiff ei gwarchod gan y lefelau angenrheidiol o ddiogelwch.

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn sicrhau bod ei staff yn gwybod am eu cyfrifoldebau o dan y RhDDC, a bydd yn rhoi iddynt y cyngor, arweiniad a hyfforddiant angenrheidiol mewn perthynas â thrin data personol.

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn cydymffurfio â cheisiadau mynediad gan destunau data hyd eithaf ei allu, a bydd yn gwneud hawliau testunau data yn y cyswllt hwn, ac mewn perthynas â chywiro neu ddileu eu data personol, yn glir yn ei Hysbysiad Preifatrwydd. Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd yn enwi’r Swyddog Diogelu Data ac yn darparu manylion cysylltu.

Bydd y Comisiwn Brenhinol yn hysbysu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth os bydd yn torri’r Rheoliad ei hun, yn unol â’r RhDDC.


I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Polisi Diogelu Data

Logo Trwydded Llywodraeth Agored Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

 

Tweets