Polisi Gweithgareddau Ymgysylltu â’r Cyhoedd

1. Cyflwyniad

2. Nodau

3. Ffit strategol

4. Rolau a chyfrifoldebau

5. Cyflawni

6. Dulliau ymgysylltu

7. Monitro ac adolygu


1. Cyflwyniad

Y Comisiwn Brenhinol yw corff ymchwilio ac archif cenedlaethol amgylchedd hanesyddol Cymru. Ef sydd â’r rôl arweiniol o ran sicrhau y caiff treftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru ei chofnodi’n awdurdodol, a bydd yn ceisio hyrwyddo deall a gwerthfawrogi’r dreftadaeth honno’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Nôl i ben y dudalen

2. Nodau

Mae gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd y Comisiwn yn canolbwyntio ar gynyddu gwerthfawrogiad, dealltwriaeth a mwynhad o amgylchedd hanesyddol Cymru.

Mae’n dangos mor berthnasol yw Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru i bob cymuned yng Nghymru, ac yn cyflwyno i’r byd ganlyniadau cyffrous ac arloesol ein rhaglenni cofnodi a darganfod.

Ymdrechir drwy amrywiaeth o weithgareddau i gyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl, i ddarparu gwybodaeth sy’n ddiddorol a pherthnasol, ac i gynnig cyfleoedd ar gyfer cymryd rhan ac ar gyfer ymgysylltu â’r sefydliad a’r sector ar lefel ddyfnach.
Nôl i ben y dudalen

3. Ffit strategol

Mae’r Polisi Gweithgareddau Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn gweithredu o fewn cyd-destun Gwarant Frenhinol y Comisiwn Brenhinol ac mae’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a pholisïau ehangach y sector cyfan.
Nôl i ben y dudalen

4. Rolau a chyfrifoldebau

Bydd gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd a gwaith hyrwyddo’r Comisiwn Brenhinol yn cael ei wneud gan ein holl staff ar draws y Comisiwn fel rhan o’u dyletswyddau craidd. Mae ymroddiad, brwdfrydedd ac arbenigedd ein staff yn gaffaeliad mawr wrth i ni ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu.

Bydd ein Comisiynwyr yn hyrwyddo swyddogaethau a gwasanaethau’r Comisiwn Brenhinol ac yn ystyried materion strategol, yn asesu cynigion, yn goruchwylio gweithredu ac yn adolygu canlyniadau.

Prif rôl y Tîm Ymgysylltu â’r Cyhoedd yw cynllunio a goruchwylio gweithredu’r rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd o ddydd i ddydd ar draws y sefydliad cyfan, yn ogystal ag arwain, cydlynu a chefnogi amrywiaeth o weithgareddau.
Nôl i ben y dudalen

5. Cyflawni

Mae ystyriaethau ymgysylltu â’r cyhoedd wrth wraidd ein Cynlluniau Gweithredol blynyddol a’n gwaith cynllunio prosiectau. Dyrannwn adnoddau sy’n targedu ystod eang o ardaloedd daearyddol ac amrywiaeth o gymunedau, ac adlewyrchwn waith y Comisiwn yn ei gyfanrwydd.

Pryd bynnag y bo modd, byddwn yn ceisio cyfleoedd i ddatblygu prosiectau mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Mae profiad wedi dangos bod partneriaethau cynhyrchiol yn arwain at ganlyniadau cryfach.

Yn ein Polisi Iaith Gymraeg (2017-19) nodwn ein hymrwymiad i drin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal, a sut y byddwn yn cydymffurfio â’n Hysbysiad Cydymffurfio mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg. Byddwn yn parhau i geisio cyfleoedd i gynyddu ymgysylltu â’r gymuned Gymraeg ei hiaith, ac i helpu i ddatblygu adnoddau i gyflwyno terminoleg arbenigol yn y Gymraeg i gynulleidfa ehangach. Caiff gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd eu llywio gan ein Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i sicrhau bod gweithgareddau a gwybodaeth yn hygyrch i bob unigolyn a chymuned. Byddwn yn parhau i geisio cyfleoedd i’n gwneud ein hunain yn fwy perthnasol i wahanol gymunedau yng Nghymru.
Nôl i ben y dudalen

6. Dulliau ymgysylltu

Cydnabyddwn fod ymgysylltu’n effeithiol â chynulleidfa yn dibynnu ar ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gwahanol ond cydategol. Rhaid i weithgareddau a ffrwyth ein gwaith, ym mha ffurf bynnag, gyrraedd y safonau uchaf a rhaid iddynt fod yn raddadwy i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau.
Nôl i ben y dudalen

i) Gweithgareddau estyn-allan

Byddwn yn dangos perthnasedd gwaith a chasgliadau’r Comisiwn i unigolion a chymunedau ar draws Cymru, a byddwn yn ceisio cynnwys deunydd sy’n berthnasol yn lleol pryd bynnag y bo modd. Bydd gweithgareddau estyn-allan fel rheol yn fentrau tymor-byr o fewn cymuned, er enghraifft, stondin mewn digwyddiad, arddangosfa, neu sgwrs â chymdeithas leol.

ii) Ymgysylltu â’r gymuned

Os byddwn yn ymgysylltu ar raddfa ehangach, gan weithio gyda chymuned dros gyfnod o amser, byddwn yn ceisio ymgymryd â’r gweithgareddau ymgysylltu drwy gyfrwng gwaith prosiect wedi’i gyllido gan eu bod yn gofyn am fwy o adnoddau.

iii) Gweithgareddau addysgol

Rydym wedi ymrwymo i helpu i feithrin sgiliau pawb sy’n dysgu. Byddwn yn parhau i ddwyn ein hadnoddau a’n gwasanaethau i sylw’r sector addysg ffurfiol, gan weithio mewn partneriaeth pryd bynnag y bo modd i gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i godi cyflawniad addysgol, er enghraifft, drwy greu adnoddau ar gyfer Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru.

iv) Cyfryngau electronig

Byddwn yn casglu’r rhan fwyaf o’n gwybodaeth ar ffurf electronig erbyn hyn, ac mae’r technegau a ddefnyddiwn, gan gynnwys modelu 3D a synhwyro o bell, yn ddefnyddiol ar gyfer ymgysylltu. Byddwn yn ceisio defnyddio ffrwyth y gwaith hwn yn uniongyrchol i ymgysylltu â’r cyhoedd bob cyfle a gawn.

v) Adnoddau ar-lein

Byddwn yn trefnu i’n deunydd a’n gwybodaeth fod ar gael am ddim ar-lein, gan ddefnyddio ein gwefan, Coflein, a sianelau cyfryngau cymdeithasol. Rydym hefyd yn un o bartneriaid arweiniol y prosiect Casgliad y Werin Cymru.

vi) Cyhoeddiadau

Mae gennym enw da am gynhyrchu cyhoeddiadau awdurdodol llawn lluniau. Nod ein rhaglen gyhoeddi yw lledaenu gwybodaeth awdurdodol am ein prosiectau a’n casgliadau.

vii) Darlledu a’r cyfryngau

Bydd ein gwaith yn aml yn datgelu storïau sy’n werth eu lledaenu. Byddwn yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg ac yn anfon gwahoddiadau i ddigwyddiadau, a byddwn yn defnyddio blogiau a chyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw’r cyfryngau at ein gwaith.
Nôl i ben y dudalen

7. Monitro ac adolygu

Byddwn yn darganfod ffyrdd o wella’n gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd drwy geisio barn ein defnyddwyr a gweithredu ar eu sylwadau. Gwnawn hyn drwy arolygon ar-lein, arolygon defnyddwyr wedi’u targedu, a ffurflenni adborth yn dilyn digwyddiadau. Byddwn hefyd yn dadansoddi pa agweddau ar ein gwaith ymgysylltu sy’n gweithio’n dda, pa feysydd y gallwn eu gwella, a sut mae ein gweithgareddau’n cwrdd â disgwyliadau ein defnyddwyr.

Byddwn yn adolygu’r dechnoleg a thechnegau cyfathrebu diweddaraf wrth iddynt ddatblygu i sicrhau ymgysylltu effeithiol â’n defnyddwyr.

Amlinellir Dangosyddion Perfformiad Allweddol a gweithredoedd ar gyfer ein gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd bob blwyddyn yng Nghynllun Gweithredol y Comisiwn, sydd ar gael ar wefan y Comisiwn.

Adolygir y polisi hwn bob dwy flynedd. Bydd yr adolygiad nesaf yn 2020.

Logo Trwydded Llywodraeth Agored
Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Nôl i ben y dudalen

Tweets