1.1. Hysbysiad cydymffurfio
1.2. Fformat yr Adroddiad Blynyddol hwn
2.1. Nifer y staff sy’n gwella eu sgiliau Cymraeg yn parhau’n uchel
2.2. Cynnydd eto mewn ymholiadau Cymraeg
2.3. Lansio ein siop ar-lein ddwyieithog
2.4. Hyrwyddo’r Gymraeg yn llwyddiannus yn ein cynadleddau
2.5. Hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg yn llwyddiannus
3. Blaenoriaethau ar gyfer 2019-20
3.1. Parhau i gefnogi’r staff i’w galluogi i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
3.2. Parhau i ddarparu hyfforddiant yn y Gymraeg i’r staff
3.3. Hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg ar draws y sector treftadaeth
4.1. Darparu Gwasanaethau (Safonau 1-9; 11-14; 16-17; 19-22; 24-34; 36; 43-48; 51-55; 57-60; 63-66; 72-73A; 75-80; 82)
4.2. Llunio Polisi (Safonau 84-89; 91-93)
4.3. Gweithredol (Safonau 94-108; 110-12; 114-17; 120-33; 135-39)
4.4. Cadw Cofnodion (Safonau 141-48)
4.5. Atodol (Safonau 149-68)
5.1. Cwynion
5.2. Sgiliau Cymraeg y staff
5.3. Hyfforddiant a ddarparwyd yn y Gymraeg
5.4. Recriwtio
6. Blaenoriaethau ar gyfer 2020-21
6.1. Monitro ac adolygu ffyrdd o weithio
6.2. Parhau i gefnogi’r staff
6.3. Parhau i ddarparu hyfforddiant Cymraeg i’r staff
6.4. Hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg ar draws y sector treftadaeth
Atodiad 1: Rhestr wirio hunanreoleiddio
Cynhyrchir yr Adroddiad Blynyddol hwn o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.
Derbyniodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (‘y Comisiwn’) ei Hysbysiad Cydymffurfio ar gyfer Safonau’r Gymraeg ym mis Gorffennaf 2016. Daeth y rhan fwyaf o’r safonau i rym ar 25 Ionawr 2017. Y dyddiad gosod ar gyfer gweddill y safonau (2, 3, 21, 48, 52 a 101-07) oedd 25 Gorffennaf 2017.
Ym mis Ebrill 2018, darparodd Comisiynydd yr Iaith dempled ar gyfer hunanreoleiddio. Defnyddiwyd y templed hwn gan Grŵp Monitro Iaith Gymraeg y Comisiwn yn sail i Adroddiad Blynyddol y llynedd, a byddwn yn parhau â’r arfer hwn. (Gweler Atodiad 1 am restr wirio ac atebion 2019-20.)
Nôl i ben y dudalen
Y cyfnod adrodd 1 Ebrill 2019 hyd 31 Mawrth 2020 oedd y drydedd flwyddyn lawn i’r Comisiwn o ran cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Rydym wedi canolbwyntio ar gyfnerthu’r gwaith a wnaed wrth baratoi ar gyfer cydymffurfio ac wedi parhau i helpu’r staff i wreiddio’r Safonau yn eu gwaith pob dydd.
Mae llawer o’n staff wedi ymrwymo i wella eu sgiliau Cymraeg ac, yn ystod 2019-20, manteisiodd 38% o’n staff ar y cyfle i fynychu gwahanol gyrsiau Cymraeg yn ystod amser gwaith. Llwyddodd un aelod staff yn yr arholiad Mynediad, a phasiodd un arall yr arholiad Canolradd gyda chlod. Mae’r ymrwymiad hwn yn talu ar ei ganfed, ac rydym yn falch o’r aelodau staff hynny sy’n defnyddio’r Gymraeg fwyfwy yn y gweithle. Uchafbwynt arbennig oedd gweld un o’n dysgwyr yn cymryd rhan yn y rhaglen deledu Waliau’n Siarad ar S4C.
Eleni eto rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer blynyddol yr ymholiadau Cymraeg a dderbyniwn. Mae wedi codi o ryw 1.2% yn 2015-16 i 11% yn 2018-19 ac 20% yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn. Cafodd y Gymraeg ei defnyddio gan 16% o’r bobl a ymwelodd â’n Llyfrgell a chan 14% o’r rheiny a ddefnyddiodd ein harchif yn ystod 2019-20 (11% a 9%, yn y drefn honno, yn 2018-19).
Ym mis Rhagfyr 2019 roeddem yn falch o lansio ein siop ar-lein lwyr ddwyieithog newydd (siop.cbhc.gov.uk). Bydd ein defnyddwyr yn gallu dewis eu hiaith a siopa drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg (mae hyn yn cynnwys y tudalennau talu); byddant yn gallu cyrchu ein catalog cyfan o gyhoeddiadau, gan gynnwys teitlau allan o brint sydd ar gael fel eLyfrau.
Pryd bynnag y bo modd, bydd y Comisiwn yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y sector treftadaeth yng Nghymru a thu hwnt. Mewn dwy gynhadledd bwysig a drefnwyd gan y Comisiwn yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn, aethom ati i annog defnydd o’r Gymraeg a gwahoddwyd y siaradwyr i gyflwyno eu papurau yn Gymraeg. Roedd yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd yn ein cynhadledd flynyddol Gorffennol Digidol yn cynnwys y sylw “Fe fwynheais glywed y Gymraeg yn cael ei siarad mewn amgylchedd proffesiynol – fe ges i fy ysbrydoli i ddysgu mwy!” Bydd siaradwyr a chynrychiolwyr o wledydd tramor yn mynychu’r gynhadledd hon ac mae clywed y Gymraeg yn helpu i godi proffil yr iaith a gwybodaeth amdani y tu hwnt i Gymru yn ogystal ag ysgogi diddordeb yn y defnydd a wneir ohoni.
Ymgymerwyd â dau brif weithgaredd yn ystod y flwyddyn i ymgysylltu â’n defnyddwyr Cymraeg eu hiaith a hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg, sef mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol (a rhoi sgwrs ym Mhabell y Cymdeithasau) a chefnogi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg ar 6 Rhagfyr 2019. Fel rhan o’r ymgyrch #Maegenihawl buom yn postio negeseuon ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ystod y dydd, a chyrhaeddodd un postiad Facebook bron 800 o ddarllenwyr, a chafodd y staff eu hatgoffa o’u hawliau yn y gweithle.
Gan adeiladu ar arferion sydd eisoes wedi’u gwreiddio, rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o safon uchel yn ystod y flwyddyn.
Parhaodd y Grŵp Monitro i gyfarfod bob tri mis a llwyddodd i gwblhau’r gweithgareddau cyfredol yn ei gynllun gweithredu, a gawsai ei gymeradwyo gan y Tîm Gweithredol a’r Comisiynwyr. Bydd gwaith pellach ar rai nodau strategol yn parhau i 2020-21.
Yn ystod 2019-20 fe ganolbwyntiodd y Comisiwn ar y blaenoriaethau a ganlyn:
Rydym wedi parhau i ddarparu cefnogaeth, gan gyhoeddi canllawiau neu ddiweddariadau i’r staff, er enghraifft ar 6 Rhagfyr 2019 i gefnogi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg a drefnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg. Rhoddwyd gwybod am Safonau’r Gymraeg i bob aelod staff newydd yn ystod eu rhaglen sefydlu. Rhoddwyd cyfle i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg gyda chynulleidfaoedd allanol, er enghraifft yn Eisteddfod Genedlaethol 2019.
Cynigiwyd rhaglen lawn o hyfforddiant i’r staff, ar wahanol lefelau o rugledd, yn ystod amser gwaith ac am ddim (naill ai drwy’r cynllun Cymraeg Gwaith neu hyfforddiant wedi’i deilwra’n unigol).
Pryd bynnag y bo modd, fe fydd y Comisiwn yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg o fewn ein sector. Mae hyn yn cynnwys mewn cynadleddau proffesiynol (gweler 2.4 uchod). Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd y rhestr dermau ddwyieithog a grëwyd gan y Comisiwn a pharatowyd ar gyfer Archwiliad Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) 2020. Bydd yr Archwiliad CAH yn cynnwys cwestiynau am faint o ddeunydd Cymraeg sydd ar gael yn y CAHion a nifer yr ymholiadau Cymraeg a atebwyd. Defnyddir y canlyniadau’n feincnod ar gyfer archwiliadau yn y dyfodol.
Nôl i ben y dudalen
Ar ôl tair flynedd o gydymffurfio â’r safonau, mae ein staff wedi gwreiddio’r gofynion yn eu gweithgareddau pob dydd ym mhob agwedd ar eu gwaith.
Bydd y Comisiwn yn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaeth cyfartal drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Os oedd angen, cafodd arferion gwaith newydd eu sefydlu wrth roi’r Safonau ar waith yn 2017. Ni chyflwynwyd unrhyw arferion gwaith newydd yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn.
Manylir ymhellach ar ein harferion gwaith arferol a’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith yn ein Polisi Iaith Gymraeg.
Yn y paragraffau sy’n dilyn (4.1.1 – 4.1.3), rhoddir enghreifftiau o sut y bydd y Comisiwn yn cydymffurfio â’r safonau ac yn hyrwyddo ei wasanaethau Cymraeg.
Pan dderbyniwn ohebiaeth yn y Gymraeg, byddwn yn ateb, os oes angen ateb, o fewn yr un amser targed ag yr atebwn ohebiaeth a dderbynnir yn y Saesneg. Bydd gohebiaeth gennym yn nodi ein bod ni’n croesawu derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg a bydd ein llofnodion electronig dwyieithog yn nodi a yw’r aelod staff yn siarad Cymraeg.
Er mwyn sicrhau y gall ein staff ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog, cynigir hyfforddiant i staff y mae angen cymorth arnynt. Mae system awtomataidd y Comisiwn ar gyfer ei brif rif ffôn yn rhoi dewis i alwyr siarad ag aelod staff yn y Gymraeg ac mae gan ein holl ffonau ateb negeseuon wedi’u recordio dwyieithog.
Roedd yn dda gennym nodi i nifer y galwadau ffôn Cymraeg a dderbyniwyd yn ystod 2019-20 bron â dyblu (o 8% i 15%) o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Bydd staff y Comisiwn sy’n siarad Cymraeg yn parhau i wisgo bathodyn a/neu gortyn i ddangos eu bod hwy’n gallu darparu gwasanaeth Cymraeg. Bydd nifer o’n dysgwyr hefyd yn gwisgo cortyn ‘Dysgwr’. Mae hyn yn rhoi mwy o gyfleoedd iddynt ddefnyddio ac ymarfer eu sgiliau iaith yn y gweithle.
Bydd y Comisiwn yn hyrwyddo ei holl ddigwyddiadau’n ddwyieithog ac yn paratoi gwybodaeth a deunydd hyrwyddo dwyieithog, e.e. paneli arddangos, ar gyfer y cyhoedd. Bydd taflenni gwybodaeth diwygiedig sy’n cael eu paratoi ar hyn o bryd yn cynnwys y symbol Iaith Gwaith (‘Cymraeg’) er mwyn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg. Caiff newyddlenni ein prosiect CHERISH Iwerddon-Cymru a ariennir gan yr UE eu cynhyrchu’n ddwyieithog, yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â’r Wyddeleg a’r Saesneg.
Fel rhan o’n rhaglen estyn-allan, rydym wedi parhau i ddarparu gweithgareddau dwyieithog ar gyfer plant yn ein digwyddiadau ac i groesawu ymweliadau i’n Hystafell Ymchwil gan grwpiau. Roedd ymweliadau gan grwpiau yn ystod y cyfnod adrodd yn cynnwys Panel Ieuenctid Haneswyr Ceredigion a myfyrwyr o’r Adran Gymraeg.
Roedd holl weithgareddau’r Cloddiad Cymunedol a drefnwyd gan CHERISH ym mis Awst 2019 yn ddwyieithog. Ar y Diwrnod Agored, cynhaliwyd teithiau tywys yn y Gymraeg a’r Saesneg, a dewisodd mwy na hanner yr ymwelwyr (56% neu 157 o bobl) y teithiau Cymraeg a 44% (122 o bobl) y teithiau Saesneg. Cafodd y cloddiad sylw ar raglen Heno S4C (drwy Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd).
Yn olaf, cydymffurfiodd Prosiect Llongau-U Cymru 1914-18: Coffáu’r Rhyfel ar y Môr (wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol) yn llawn â’n Safonau Cymraeg. Cafodd y Gymraeg ei hyrwyddo’n egnïol drwy gydol cyfnod y prosiect, er enghraifft, mewn cynadleddau a digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, ac ymhlith ein partneriaid niferus a greodd arddangosfeydd dwyieithog. Ymddangosodd Swyddogion y Prosiect, gan gynnwys dysgwr, ar raglenni S4C a rhoddasant gyfweliadau ar Radio Cymru. Mae gwefan y prosiect, yr adnoddau addysgol ar Hwb, y llyfryn printiedig, a’r cynnwys a gyhoeddwyd ar wefan Casgliad y Werin Cymru i gyd yn llwyr ddwyieithog.
Yn ystod 2019-20, mae’r Comisiwn wedi parhau â’i bresenoldeb dwyieithog cryf ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook a Twitter) ac mae ein gwefan gorfforaethol yn llwyr ddwyieithog. Yn yr un modd, yn achos CHERISH, mae’r holl negeseuon cyfryngau cymdeithasol gan y partneriaid Cymreig (y Comisiwn a Phrifysgol Aberystwyth) yn parhau i gael eu postio’n ddwyieithog.
Ar hyn o bryd mae tua 3% o’n dilynwyr wedi dewis derbyn y fersiwn Cymraeg o flog y Comisiwn, sef nifer tebyg i’r llynedd. Oherwydd y ffordd y mae ein cyfrifon dadansoddeg ar-lein yn gweithio, mae’n anodd i ni wahanu traffig Cymraeg a Saesneg ar ein gwefannau ar hyn o bryd. Er mwyn cael peth gwybodaeth am ddewisiadau iaith ein cynulleidfaoedd, rydym wedi edrych ar y wybodaeth a gesglir gan Google Analytics am osodiad iaith y porwyr sy’n cael eu defnyddio gan bobl sy’n cyrchu ein gwefannau. O gymharu â ffigurau’r llynedd, yn 2019-20 fe ddyblodd canran y defnyddwyr yr oedd eu porwyr wedi’u gosod ar ‘Cymraeg’ a gyrchodd wefan gorfforaethol y Comisiwn (cbhc.gov.uk / rcahmw.gov.uk), o 0.5% i 1.03%. O ran cyrchu gwefan Coflein (coflein.gov.uk), roedd cynnydd o 34% yn nifer y porwyr a oedd wedi’u gosod ar ‘Cymraeg’ o gymharu â 2018-19.
Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i’r iaith Cymraeg yn ei holl bolisïau a gweithgareddau.
Y Tîm Gweithredol (uwch reolwyr) sy’n gyfrifol am fesur a phwyso polisïau, mentrau a gwasanaethau newydd neu ddiwygiedig cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan ein Bwrdd Comisiynwyr.
I sicrhau y bydd polisïau, mentrau a gwasanaethau newydd yn gyson â gofynion Safonau’r Gymraeg, bydd y Comisiwn, wrth lunio, adolygu neu ddiwygio polisi, yn ystyried yr effeithiau, os oes rhai (cadarnhau neu negyddol), ar gyfleoedd i unigolion ddefnyddio’r Gymraeg. Byddwn yn ystyried sut y gallwn wneud penderfyniad polisi a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a byddwn yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cafodd Fframwaith Asesiadau o Effaith ar yr Iaith Gymraeg ei sefydlu wrth roi’r Safonau ar waith. Yn ystod cyfnod yr adroddiad, gwnaed asesiadau o’r fath o brosiect Darpariaeth Ddigidol y Comisiwn a rhoddwyd y gweithredoedd a argymhellwyd ar waith. Bydd y prosiect hwn, sy’n datblygu platfform technegol newydd ar gyfer Coflein (cronfa ddata ar-lein y Comisiwn), yn cynnig mwy o gyfleoedd i gyrchu gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod y gwasanaethau’n cael eu darparu yng nghyd-destun ein heithrio o Safon 48, byddwn yn ei gwneud hi’n bosibl i ychwanegu mwy o gynnwys disgrifiadol dwyieithog at y gronfa ddata ac i ganiatáu i’r cyhoedd ei adalw. Rydym hefyd yn gweithio gyda chyflenwr allanol, iBase, i ymchwilio i ddulliau o wreiddio dwyieithrwydd ym meysydd e-fasnach a thrwyddedu.
I sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r safonau gweithredol, bu’r Comisiwn yn adolygu ac yn diwygio sawl dogfen a pholisi mewnol, ac yn diweddaru gweithdrefnau, cyn y dyddiadau gosod yn ein Hysbysiad Cydymffurfio.
Cafodd yr holl ddogfennau sydd wedi’u rhestru yn y Safonau perthnasol eu diwygio, ac roeddynt ar gael i’r staff yn Gymraeg a Saesneg, a hynny erbyn y dyddiadau gosod yn ein Hysbysiad Cydymffurfio. Yn ystod cyfnod yr adroddiad, rhoddwyd dewis i’r ddau aelod staff newydd eu penodi dderbyn eu dogfennau cyflogaeth yn Gymraeg.
Cafodd archwiliad sgiliau Cymraeg ei wneud yn ystod y cyfnod adrodd. Gweler adran 5.2 am fanylion pellach.
O ran gofynion swyddi, mae gan 26 aelod staff (70%) y lefel leiaf o Gymraeg sydd ei hangen ar gyfer eu swydd. Mae hyn 1 (3%) yn llai na’r llynedd. Sut bynnag, mae’n cymharu â 14 (44%) yn unig yn 2017.
Bydd y Comisiwn yn annog staff yn gryf i ddysgu Cymraeg ac yn eu helpu i feithrin eu sgiliau iaith. Yn ystod y cyfnod adrodd:
Llwyddodd un aelod staff yn yr arholiad Mynediad, ac enillodd un arall glod yn yr arholiad Canolradd.
Parheir i ddefnyddio system ffeilio gofrestrfa gyfredol y Comisiwn i gadw’r holl gofnodion ynghylch yr iaith Gymraeg y mae ein Hysbysiad Cydymffurfio yn gofyn i ni eu cadw.
Hysbysiad Cydymffurfio, ac mae copi ar gael yn y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil i hysbysu’r cyhoedd (149, 155, 161, 167).
Dogfen Gydymffurfio, sy’n esbonio sut y mae’r Comisiwn yn bwriadu cydymffurfio â’r holl safonau y mae dyletswydd arno i gydymffurfio â hwy (153, 159, 165).
Polisi Cwyno, sy’n esbonio sut y gellir cysylltu â ni i fynegi pryder neu wneud cwyn, a’r drefn y bydd y Comisiwn yn ei dilyn wrth ystyried cwynion (150, 156, 162).
Polisi Iaith Gymraeg (151).
Yr Adroddiad Blynyddol hwn (152, 158, 164).
ydd monitro’n cael ei wneud yn anffurfiol, gan aelodau unigol y Grŵp Monitro, ac yn ffurfiol mewn cyfarfodydd a gynhelir bob tri mis. Adroddir i’r Tîm Gweithredol a’r Comisiynwyr. Hefyd mae’r Grŵp Monitro wedi paratoi cynllun gweithredu i’w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau.
Nôl i ben y dudalen
Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol yn ystod y cyfnod adrodd.
Cynhaliwyd archwiliad sgiliau Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd. Gofynnwyd i’r staff hunanasesu eu sgiliau iaith mewn perthynas â gwrando/siarad, darllen/deall ac ysgrifennu (lefel 0 = dim sgiliau Cymraeg, 5 = hyfedr) gan ddefnyddio’r datganiadau ‘Gallu Gwneud’ ar y Fframwaith ALTE.
Roedd y canlyniadau fel a ganlyn: allan o 38 staff a oedd yn cael eu cyflogi ar y pryd:
Yn ystod y cyfnod adrodd, ni ddarparwyd unrhyw gyrsiau hyfforddi (yn y Gymraeg na’r Saesneg) ar y topigau sydd wedi’u rhestru yn Safonau 124 a 125.
Cafodd pedair swydd wag eu llenwi yn ystod y cyfnod adrodd. Roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer pob swydd, i lefel 4 o leiaf yn achos tair ohonynt.
Rhoddwyd dewis i bob aelod staff newydd dderbyn eu dogfennau cyflogaeth yn Gymraeg a derbyniodd pob un ohonynt hyfforddiant sefydlu a oedd yn amlinellu eu dyletswyddau a chyfrifoldebau o dan Safonau’r Gymraeg.
Mae’r Comisiwn yn y broses o recriwtio dau Gomisiynydd newydd (mae hyn wedi’i atal am y tro oherwydd yr argyfwng COVID-19). Yn yr hysbysebion ar gyfer y ddwy swydd, nodwyd bod sgiliau Cymraeg yn ddymunol hyd at lefel 2 o leiaf.
Nôl i ben y dudalen
Bydd y blaenoriaethau ar gyfer 2020-21 yn cynnwys y canlynol:
Byddwn yn sicrhau bod y Comisiwn yn parhau i gydymffurfio’n llawn â Safonau’r Gymraeg yn ystod cyfnod o newid o ganlyniad i COVID-19.
Byddwn yn parhau i roi cymorth i’r staff i’w galluogi i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg wrth weithio gartref ar yr adeg anodd hon, ac i helpu aelodau staff newydd eu penodi i wreiddio’r Safonau.
Byddwn yn parhau i ddarparu amrywiaeth o ddewisiadau hyfforddi i wella sgiliau Cymraeg ein staff (gan gynnwys sefydlu rhaglen dysgu o bell). Darperir sesiwn ynganu hefyd. (Mae’r rhan fwyaf o’n staff a fu’n mynychu gwersi Cymraeg wythnosol am y tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn gwneud hynny fel rhan o’r cynllun Cymraeg Gwaith a ariennir gan Lywodraeth Cymru, felly pan ddaeth y cynllun i ben yn sydyn ar ddiwedd Mawrth 2020, roedd gwneud trefniadau eraill ar fyr rybudd yn flaenoriaeth.)
Byddwn yn parhau i gynnig arweinyddiaeth mewn perthynas â hybu defnyddio’r Gymraeg ar draws sector yr amgylchedd hanesyddol drwy annog defnydd o’r derminoleg Gymraeg a baratowyd wrth ddatblygu safonau ar gyfer y sector. Byddwn yn defnyddio canlyniadau Archwiliad Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (CAH) 2020, a fydd yn cynnwys cwestiynau am faint o ddeunydd Cymraeg sydd ar gael yn y Cofnodion ac am nifer yr ymholiadau yn y Gymraeg y maen nhw wedi’u hateb, yn feincnod ar gyfer archwiliadau yn y dyfodol.
Nôl i ben y dudalen
CADW COFNODION | Ydyw / Nac ydyw | Sylwadau / Angen gweithredu |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) yn: | ||
Cadw cofnod o nifer y cwynion y mae’n eu cael ynghylch cydymffurfio â’r safonau; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. Gweler yr Adroddiad Blynyddol. |
Cadw copi o bob cwyn ysgrifenedig y mae’n ei chael ynghylch cydymffurfio â’r safonau; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. Gweler yr Adroddiad Blynyddol. |
Cadw copi o bob cwyn ysgrifenedig y mae’n ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. Gweler yr Adroddiad Blynyddol. |
Cadw cofnod o’r camau a gymerodd i gydymffurfio â’r safonau llunio polisi. | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/dogfen-cydymffurfio/ |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) yn: | ||
Cadw cofnod o nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg, a lefel y sgiliau hynny os yw’r wybodaeth ar gael; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. |
Cadw cofnod o bob asesiad o’r sgiliau Cymraeg sy’n angenrheidiol ar gyfer swyddi newydd a gwag; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. |
Cadw cofnod o nifer y swyddi newydd a gwag a aseswyd fel bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, ddim yn angenrheidiol, a bod angen dysgu Cymraeg; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. |
Cadw cofnod o nifer (a chanran os yn berthnasol) y staff wnaeth fynychu hyfforddiant penodol sy’n ofynnol ei ddarparu yn Gymraeg os yw ar gael yn Saesneg (sef hyfforddiant recriwtio a chyfweld, rheoli perfformiad, gweithdrefnau cwyno a disgyblu, ymsefydlu, delio â’r cyhoedd, ac iechyd a diogelwch). | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. |
HYRWYDDO TREFNIADAU | Ydyw / Nac ydyw | Sylwadau / Angen gweithredu |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi: | ||
Cyhoeddi dogfen ar ei wefan yn cofnodi’r holl safonau y mae dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy (e.e. drwy gyhoeddi copi o’i hysbysiad cydymffurfio); | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/ |
Cyhoeddi gweithdrefn gwyno ar ei wefan. | Ydyw | Cafodd ei diweddaru yn ystod 2018-19. https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/polisiau/polisi-cwynion/ |
Mae’r weithdrefn gwyno’n nodi sut y bydd CBHC yn: | ||
Delio â chwynion ynghylch sut y mae’n cydymffurfio â’r safonau; | Ydyw | |
Hyfforddi staff i ddelio â’r cwynion. | Ydyw | |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi sefydlu trefniadau ar gyfer: | ||
Goruchwylio’i gydymffurfiaeth â’r safonau y mae dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy; | Ydyw | Y Grŵp Monitro Iaith Gymraeg |
Hybu’r gwasanaethau Cymraeg y mae’n eu cynnig yn unol â’r safonau; | Ydyw | |
Hwyluso defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg y mae’n eu cynnig yn unol â’r safonau. | Ydyw | |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi: | ||
Cyhoeddi dogfen ar ei wefan sy’n cofnodi ei drefniadau ar gyfer goruchwylio, hybu a hwyluso; | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/polisi-iaith-gymraeg-2020-22/ |
Cyhoeddi dogfen ar ei wefan sy’n esbonio sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’r safonau y mae dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/dogfen-cydymffurfio/ |
ADRODDIAD BLYNYDDOL | Ydyw / Nac ydyw | Sylwadau / Angen gweithredu |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi: | ||
Cyhoeddi adroddiad blynyddol safonau’r Gymraeg ar ei wefan erbyn 30 Medi (dim hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol); | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/cydymffurfio-a-safonaur-gymraeg-adroddiad-blynyddol-2019-20/ |
Rhoi cyhoeddusrwydd i’r adroddiad blynyddol. | Ydyw | Hysbysiad ar Twitter, Facebook a’r rhwydwaith Cyfeillion. |
Mae adroddiad blynyddol CBHC yn: | ||
Delio â’r modd y gwnaeth gydymffurfio â’r gwahanol ddosbarthiadau o safonau a osodwyd arno; | Ydyw | |
Cynnwys nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg; | Ydyw | |
Cynnwys nifer (a chanran os yn berthnasol) y staff wnaeth fynychu hyfforddiant penodol sy’n ofynnol ei ddarparu yn Gymraeg os yw ar gael yn Saesneg (sef hyfforddiant recriwtio a chyfweld, rheoli perfformiad, gweithdrefnau cwyno a disgyblu, ymsefydlu, delio â’r cyhoedd, ac iechyd a diogelwch); | Ydyw | |
Cynnwys nifer y swyddi newydd a gwag a aseswyd fel bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, ddim yn angenrheidiol, a bod angen dysgu Cymraeg; | Ydyw | |
Cynnwys nifer y cwynion a gafodd y sefydliad ynghylch pob dosbarth gwahanol o safonau. | Ydyw |
I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Cydymffurfio â Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2019-20
![]() | Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. |