1.1. Hysbysiad cydymffurfio
1.2. Fformat yr Adroddiad Blynyddol hwn
2.1. Ailagorodd ein gwasanaeth ymholiadau dwyieithog wyneb yn wyneb
2.2. Gwnaethom gyhoeddi ein llyfr dwyieithog ar furluniau
2.3. Buom yn hyrwyddo ein gwaith trwy’r cyfryngau Cymraeg
2.4. Buom yn hyrwyddo Cymraeg yn y gweithle i ddisgyblion ysgol uwchradd
2.5. Defnyddiwyd ein hadnoddau ar gyfer cyfres ‘Hewlfa Drysor’ S4C
2.6. Parhaodd y staff i wella eu sgiliau Cymraeg
2.7. Gwnaethom barhau i hyrwyddo Diwrnod Hawliau’r Gymraeg
3. Blaenoriaethau ar gyfer 2021-22
3.1. Parhau i gefnogi’r staff i’w galluogi i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
3.2. Parhau i ddarparu hyfforddiant yn y Gymraeg i’r staff
3.3. Adolygu ein gwasanaethau cyfieithu
3.4. Hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg ar draws y sector treftadaeth
4.1. Darparu Gwasanaethau (Safonau 1-9; 11-14; 16-17; 19-22; 24-34; 36; 43-48; 51-55; 57-60; 63-66; 72-73A; 75-80; 82)
4.2. Llunio Polisi (Safonau 84-89; 91-93)
4.3. Gweithredol (Safonau 94-108; 110-12; 114-17; 120-33; 135-39)
4.4. Cadw Cofnodion (Safonau 141-48)
4.5. Atodol (Safonau 149-68)
5.1. Cwynion
5.2. Sgiliau Cymraeg y staff
5.3. Hyfforddiant a ddarparwyd yn y Gymraeg
5.4. Recriwtio
6. Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23
6.1. Parhau i gefnogi’r staff
6.2. Parhau i ddarparu hyfforddiant yn y Gymraeg i’r staff
6.3. Parhau i hwyluso a hybu defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn fewnol
Atodiad 1: Rhestr wirio hunanreoleiddio
Cynhyrchir yr Adroddiad Blynyddol hwn o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.
Derbyniodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (‘y Comisiwn’) ei Hysbysiad Cydymffurfio ar gyfer Safonau’r Gymraeg ym mis Gorffennaf 2016. Daeth y rhan fwyaf o’r safonau i rym ar 25 Ionawr 2017. Y dyddiad gosod ar gyfer gweddill y safonau (2, 3, 21, 48, 52 a 101-07) oedd 25 Gorffennaf 2017.
Ym mis Ebrill 2018, darparodd Comisiynydd yr Iaith dempled ar gyfer hunanreoleiddio. Defnyddiwyd y templed hwn gan Grŵp Monitro Iaith Gymraeg y Comisiwn yn sail i Adroddiad Blynyddol y tair blynedd ddiwethaf, ac rydym wedi parhau â’r arfer hwn. (Gweler Atodiad 1 am y rhestr wirio a gwblhawyd gennym ar gyfer 2020-21.)
Nôl i ben y dudalen
Y cyfnod adrodd 1 Ebrill 2021 hyd 31 Mawrth 2022 oedd y bumed flwyddyn lawn i’r Comisiwn o ran cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Prif nodweddion y flwyddyn o hyd oedd y pandemig COVID-19 a gweithio gartref. Yn yr adroddiad hwn nodwn sut y bu i ni sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, hyrwyddo’r Gymraeg, a helpu’r staff i gydymffurfio â’r Safonau.
Wedi i’r cyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio, ailagorodd ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio a adnewyddwyd, a hynny am un diwrnod yr wythnos, trwy apwyntiad, o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen. Rydym yn parhau i ymateb i ymholiadau o bell hefyd. Eleni gwelwyd mai 5.7% o’r bobl a gysylltodd â’r Comisiwn Brenhinol gyda chais am wybodaeth a wnaeth hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hyn tua 1.2% yn uwch nag yn 2015-16 ond yn is na’r 20% o ymholiadau Cymraeg a dderbyniwyd yn 2019-20. Gobeithiwn weld y ganran yn codi eto pan fydd pethau’n ôl fel yr oeddynt.
Ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddwyd ein llyfr newydd, Temlau Peintiedig: Murluniau a Chroglenni yn Eglwysi Cymru, 1200-1800 / Painted Temples: Wallpaintings and Rood-screens in Welsh Churches, 1200–1800 gan Richard Suggett (Uwch Ymchwilydd – Hanesydd Pensaernïol). Caiff rhai o’n llyfrau eu cyhoeddi mewn dau argraffiad ar wahân, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg, ond penderfynwyd cyhoeddi Temlau Peintiedig yn ddwyieithog. Mae hyn yn rhoi’r un amlygrwydd i’r Gymraeg a’r Saesneg ac yn helpu dysgwyr neu’r sawl nad ydynt yn teimlo’n ddigon hyderus i ddewis y fersiwn sydd wedi’i gyhoeddi yn Gymraeg yn unig. Yn dilyn y profiad hwn, rydym bellach yn rhoi cyngor i Historic Scotland ynghylch yr arfer gorau o ran cynhyrchu cyhoeddiadau dwyieithog.
Cafodd dau aelod o staff eu cyfweld ar Radio Cymru yn ystod y flwyddyn: bu Dr Ywain Tomos (Cynorthwy-ydd Ymholiadau a Llyfrgell) yn sôn am y cysylltiadau rhwng treftadaeth Cymru a ffilmiau o Japan, a bu Marisa Morgan (Cynorthwy-ydd Ymgysylltu â’r Cyhoedd) yn cyflwyno ein prosiect ieuenctid Treftadaeth Ddisylw.
Ym mis Gorffennaf 2021, buom yn cymryd rhan yn yr Wythnos Darganfod Gyrfa ar-lein a drefnwyd gan Gyrfa Cymru. Bu Rhodri Lewis (Cynorthwy-ydd Ymholiadau a Llyfrgell) a Marisa Morgan yn siarad â disgyblion ym mlynyddoedd 8, 9 a 10, gan drafod sut brofiad yw gweithio ym maes y dyniaethau a pha mor bwysig yw’r Gymraeg yn y gweithle.
Unwaith eto, roedd gennym broffil amlwg yn yr Eisteddfod AmGen, yr Eisteddfod rithwir, lle buom yn gweithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Lechi Cymru. Gwnaethom ddarparu arddangosfa ar-lein ddwyieithog am furluniau (www.facebook.com/media/set/?set=a.4380578332000172&type=3) yn ogystal â dwy sgwrs Gymraeg: bu Dr Meilyr Powel yn trafod “Ugain Adeilad yr Ugeinfed Ganrif” / “Twenty Twentieth Century Buildings” (www.youtube.com/watch?v=PJik7hzaFZo) a bu Gerallt D. Nash yn trafod “Murluniau Eglwys Sant Teilo, Llandeilo Tal-y-bont” / “The Murals of St Teilo’s Church, Llandeilo Tal-y-bont” (www.youtube.com/watch?v=OuajgaoRaPw).
Er eu bod yn gweithio gartref, parhaodd dros chwarter (26.5%) ein staff i fynychu cyrsiau Cymraeg ar-lein yn ystod oriau gwaith yn 2021-22. At hynny, cafodd chwe chydweithiwr sy’n aelodau o Undeb Prospect aelodaeth blwyddyn i Say Something in Welsh, y talwyd amdani trwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru, er mwyn cefnogi eu gwaith dysgu yn y dosbarth â gwaith dysgu gartref.
Aethom ati i gyhoeddi blog a chreu cyfres o fideos i hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg, lansio ein Polisi Cymraeg yn y Gweithle, a dathlu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg (7 Rhagfyr 2021). Gallwch wylio’r fideos canlynol i weld Rhodri Lewis a Marisa Morgan yn sgwrsio ynghylch sut mae defnyddio’r Gymraeg gyda’r Comisiwn Brenhinol: www.youtube.com/playlist?list=PLbKw_Ere5rvS3a89IrtDR5_OvaR4NdGrx
Gan adeiladu ar arferion sydd eisoes wedi’u gwreiddio, rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o safon uchel yn ystod y flwyddyn.
Parhaodd y Grŵp Monitro i weithredu, gan ddosbarthu canllawiau a rhoi gwybod i’r staff am weithgareddau. Llwyddwyd i gwblhau’r gweithgareddau cyfredol yn ein cynllun gweithredu, a gawsai ei gymeradwyo gan y Tîm Gweithredol a’r Comisiynwyr. Bydd gwaith pellach ar rai o’r nodau strategol yn cael ei gario ymlaen i 2022-23.
Yn ystod 2021-22 fe ganolbwyntiodd y Comisiwn ar y blaenoriaethau a ganlyn:
Rydym wedi parhau i ddarparu cefnogaeth. Darparwyd arweiniad ar weithdrefnau i’w dilyn wrth weithio gartref. Hefyd cynhaliwyd ein sesiwn Holi ac Ateb flynyddol i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, esbonio sut i weithredu yn unol â’r Safonau, a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Rhoddwyd gwybod am Safonau’r Gymraeg i bob aelod staff newydd yn ystod eu rhaglen sefydlu. Yn 2021–22, aethom ati hefyd i gyhoeddi ein Polisi Cymraeg yn y Gweithle, a lansiwyd ar Ddiwrnod Hawliau’r Gymraeg. Mae’r ddogfen hon yn egluro polisi’r Comisiwn ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol er mwyn hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r iaith.
Cynigiwyd rhaglen ar-lein lawn o hyfforddiant i’r staff, ar wahanol lefelau o rugledd, yn ystod amser gwaith ac am ddim. Hefyd ymatebwyd i awgrym a wnaed yn ystod ein sesiwn Holi ac Ateb flynyddol gyda’r staff drwy gyflwyno sgyrsiau staff drwy gyfrwng y Gymraeg. Er eu bod wedi’u hanelu at ddysgwyr sy’n dymuno dechrau defnyddio’r Gymraeg fel iaith gwaith, mae siaradwyr Cymraeg wedi cael budd hefyd gan eu bod yn cael cyfle i ddefnyddio amrywiaeth ehangach o dermau wrth drafod gwaith.
Yn dilyn ymddeoliad ein prif gyfieithydd, aethom ati i adolygu ein defnydd o wasanaethau cyfieithu. Crëwyd cronfa ehangach o gyfieithwyr a sefydlwyd contract newydd ar gyfer gwasanaethau cyfieithu o ddydd i ddydd.
Pryd bynnag y bo modd, fe fydd y Comisiwn yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg o fewn ein sector, gan gynnwys mewn cynadleddau a digwyddiadau.
Nôl i ben y dudalen
Bydd y Comisiwn yn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd a pharhaodd i wneud hynny er gwaethaf y pandemig COVID-19 yn parhau. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaeth cyfartal drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.
Manylir ymhellach ar ein harferion gwaith arferol a’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith yn ein Polisi Iaith Gymraeg.
Yn y paragraffau sy’n dilyn (4.1.1 – 4.1.3), rhoddir enghreifftiau o sut y bydd y Comisiwn yn cydymffurfio â’r safonau ac yn hyrwyddo ei wasanaethau Cymraeg.
Pan dderbyniwn ohebiaeth yn y Gymraeg, byddwn yn ateb, os oes angen ateb, o fewn yr un amser targed ag yr atebwn ohebiaeth a dderbynnir yn y Saesneg. Bydd gohebiaeth gennym yn nodi ein bod ni’n croesawu derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg a bydd ein llofnodion electronig dwyieithog yn nodi a yw’r aelod staff yn siarad Cymraeg.
Er mwyn sicrhau y gall ein staff ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog, cynigir hyfforddiant i staff y mae angen cymorth arnynt. Mae system awtomataidd y Comisiwn ar gyfer ei brif rif ffôn yn rhoi dewis i alwyr siarad ag aelod staff yn y Gymraeg ac mae gan ein holl ffonau ateb negeseuon wedi’u recordio dwyieithog. Gwnaethom newid darparwr gwasanaethau ffôn yn ystod y flwyddyn, felly nid oes gennym ddata ar gyfer y flwyddyn gyfan. Fodd bynnag, rhwng 1 Chwefror a 31 Mawrth 2022, roedd 16% o ymholiadau dros y ffôn yn ymholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. (Mae hyn yn uwch na’r 14.5% a gofnodwyd yn 2020-21.)
Oherwydd COVID-19, nid oedd unrhyw gyfarfodydd personol, ymweliadau na digwyddiadau cyhoeddus eleni. Yn hytrach, parhawyd i gynnal y cyfan ar-lein. Roedd ein cyfres o ddarlithoedd misol yn boblogaidd tu hwnt ac roedd yn cynnwys anerchiad Cymraeg gan Dr James January-McCann, sef “Pedair Blynedd o’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru”. Wedi hynny, ychwanegwyd is-deitlau at yr anerchiad a’i roi ar ein sianel YouTube (https://www.youtube.com/watch?v=HJccnH93BA0) ac mae wedi cael ei wylio 173 o weithiau ers mis Gorffennaf 2021.
Buom hefyd yn cefnogi’r ymgyrch Archwilio eich Archif (22-26 Tachwedd 2021) â chyfres o ddarlithoedd dros gyfnod o wythnos, a oedd yn cynnwys tri anerchiad Cymraeg gan Lucie Hobson (Y Llyfrgell Genedlaethol), Dafydd Gwyn (Archifau Rheilffordd Ffestiniog) a Dr Meilyr Powel (Sefydliad Cofrestr Lloyd’s). (I gael mwy o wybodaeth am ein cyfraniadau at yr Eisteddfod AmGen, gan gynnwys arddangosfa a sgyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, gweler 2.5 yn yr adran Uchafbwyntiau uchod.)
Bydd y Comisiwn yn hyrwyddo ei holl ddigwyddiadau ar-lein yn ddwyieithog. Mae newyddlenni ein prosiect CHERISH Iwerddon-Cymru ar newid hinsawdd a ariennir gan yr UE yn parhau i gael eu cynhyrchu’n ddwyieithog, yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â’r Wyddeleg a’r Saesneg.
Gwnaethom barhau i gynhyrchu llawer o ddeunydd ar gyfer ein cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol, a oedd yn cynnwys cyhoeddi 70 o erthyglau blog dwyieithog yn ystod y flwyddyn. Arweiniodd rhai o’r rhain at sylw gan y cyfryngau, gan gynnwys Radio Cymru a fu’n cyfweld cydweithwyr ynghylch y cysylltiadau rhwng treftadaeth Cymru a ffilmiau o Japan ac ynghylch ein prosiect ieuenctid Treftadaeth Ddisylw.
Hefyd fe gyhoeddwyd 36 o fideos newydd ar ein sianel YouTube, 10 yn Gymraeg a 26 yn Saesneg. Roedd y rhain yn amrywio o daith rithwir o amgylch ein Llyfrgell a’n Hystafell Chwilio a fideos yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg i ddarparu recordiadau o ffrwd fyw ein cynhadledd Gorffennol Digidol a’n darlithoedd cyhoeddus. Cafodd y rhain eu gwylio 18, 700 o weithiau i gyd (o’i gymharu ag 13,900 yn 2020–21). Gwelwyd cynnydd yn nifer y menywod a’r bobl ifanc a fu’n gwylio, ac roedd y gwylwyr yn dod o ystod ehangach o wledydd.
Gwnaethom barhau i gynnal ymgyrchoedd ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio hashnodau Cymraeg fel #LlunDyddLlun a #MeddwlMawrth ar draws ein cyfrifon Cymraeg a Saesneg. Postiwyd 644 o bostiadau dwyieithog ar Facebook, ac fe wnaethom drydaru ac ateb fwy na 3,000 o weithiau ar draws ein pedwar cyfrif Twitter dwyieithog. Drwy ganolbwyntio ar gyfathrebu â’n cynulleidfaoedd ar y platfformau y dewisant eu defnyddio, fe welwyd cynnydd cyson eto yn nifer ein dilynwyr: 17% yn fwy ar Facebook (9,514 i 11,141), a 18% yn fwy ar Twitter (11,338 i 13,369).
Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i’r iaith Cymraeg yn ei holl bolisïau a gweithgareddau.
Y Tîm Gweithredol (uwch reolwyr) sy’n gyfrifol am fesur a phwyso polisïau, mentrau a gwasanaethau newydd neu ddiwygiedig cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan ein Bwrdd Comisiynwyr.
I sicrhau y bydd polisïau, mentrau a gwasanaethau newydd yn gyson â gofynion Safonau’r Gymraeg, bydd y Comisiwn, wrth lunio, adolygu neu ddiwygio polisi, yn ystyried yr effeithiau, os oes rhai (cadarnhau neu negyddol), ar gyfleoedd i unigolion ddefnyddio’r Gymraeg.
Byddwn yn ystyried sut y gallwn wneud penderfyniad polisi a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a byddwn yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Cafodd Fframwaith Asesiadau o Effaith ar yr Iaith Gymraeg ei sefydlu wrth roi’r Safonau ar waith. Yn ystod cyfnod yr adroddiad, gwnaed asesiad o’r fath o Bolisi Cymraeg yn y Gweithle newydd y Comisiwn.
I sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Safonau gweithredol, mae’r Comisiwn yn parhau i adolygu ei ddogfennau a’i bolisïau mewnol. Eleni gwnaethom gyhoeddi ein Polisi Cymraeg yn y Gweithle 2021–23 (Safon 94).
Eleni, gwnaethom ddatblygu mewnrwyd am y tro cyntaf. Mae pob tudalen ar gael yn Gymraeg a Saesneg, mae pob tudalen Gymraeg yn gwbl weithredol, nid yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac mae gennym dudalen benodol sy’n darparu gwasanaethau a deunydd cymorth i hyrwyddo’r Gymraeg a chynorthwyo ein staff i ddefnyddio’r Gymraeg.
Roedd yr holl ddogfennau sydd wedi’u rhestru yn y Safonau perthnasol ar gael i’r staff yn Gymraeg a Saesneg. Yn ystod cyfnod yr adroddiad, rhoddwyd dewis i’r holl aelodau o staff a benodwyd yn allanol dderbyn dogfennau cyflogaeth yn Gymraeg. (Gweler hefyd 5.4. Recriwtio.)
Ymgymerwyd ag archwiliad sgiliau Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd. Gweler adran 5.2 am fanylion pellach.
O ran gofynion swyddi, mae gan 25 aelod staff (69%) y lefel leiaf o Gymraeg sydd ei hangen ar gyfer eu swydd. Mae hyn 2% yn llai na’r llynedd. Sut bynnag, mae’n cymharu â 14 (44%) yn unig yn 2017.
Bydd y Comisiwn yn annog staff yn gryf i ddysgu Cymraeg ac yn eu helpu i feithrin eu sgiliau iaith. Yn ystod y cyfnod adrodd:
Mae’r staff hefyd yn defnyddio adnoddau ar-lein megis Duolingo a Say Something in Welsh er mwyn dysgu y tu allan i’r gwaith. Y record bresennol ymhlith y staff yw un wers Duolingo y dydd am dros 500 o ddiwrnodau!
Mewn egwyddor, parheir i ddefnyddio system ffeilio gofrestrfa gyfredol y Comisiwn i gadw’r holl gofnodion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg fel y nodir yn ein Hysbysiad Cydymffurfio. Sut bynnag, gan fod y staff yn gweithio gartref, ni ddigwyddodd hyn tan fis Chwefror 2022, ond mae systemau ar-lein yn cael eu diweddaru i ganiatáu cyrchu o bell.
Hysbysiad Cydymffurfio, ac mae copi ar gael yn y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil i hysbysu’r cyhoedd (149, 155, 161, 167).
Dogfen Gydymffurfio, sy’n esbonio sut y mae’r Comisiwn yn bwriadu cydymffurfio â’r holl safonau y mae dyletswydd arno i gydymffurfio â hwy (153, 159, 165).
Polisi Cwyno, sy’n esbonio sut y gellir cysylltu â ni i fynegi pryder neu wneud cwyn, a’r drefn y bydd y Comisiwn yn ei dilyn wrth ystyried cwynion (150, 156, 162).
Polisi Iaith Gymraeg (151).
Yr Adroddiad Blynyddol hwn (152, 158, 164).
Bydd monitro’n cael ei wneud yn anffurfiol, gan aelodau unigol y Grŵp Monitro, ac yn ffurfiol mewn cyfarfodydd a gynhelir bob tri mis. Adroddir i’r Tîm Gweithredol a’r Comisiynwyr. Hefyd mae’r Grŵp Monitro wedi paratoi cynllun gweithredu i’w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau. Yn ystod blwyddyn yr adroddiad, roedd yn anos ymgymryd â monitro anffurfiol gan fod y staff yn gweithio gartref. Sut bynnag, o fewn y cyfyngiadau hynny, buom yn monitro cystal ag y gallem ac rydym yn hyderus ein bod wedi cydymffurfio.
Gwnaethom barhau i fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau a drefnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ogystal â chyfarfodydd â chyd-Swyddogion y Gymraeg.
Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Comisiynydd y Gymraeg ynghylch y Cod Ymarfer drafft a chyflwyno holiadur hunanasesu i ddarparu tystiolaeth fwy cadarn ynghylch lefelau cydymffurfio.
Nôl i ben y dudalen
Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol yn ystod y cyfnod adrodd.
Cynhaliwyd archwiliad sgiliau Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd. Gofynnwyd i’r staff hunanasesu eu sgiliau iaith mewn perthynas â gwrando/siarad, darllen/deall ac ysgrifennu (lefel 0 = dim sgiliau Cymraeg, 5 = hyfedr) gan ddefnyddio’r datganiadau ‘Gallu Gwneud’ ar y Fframwaith ALTE.
Roedd y canlyniadau fel a ganlyn: allan o 36 staff a oedd yn cael eu cyflogi ar y pryd:
Yn ystod y cyfnod adrodd, ni ddarparwyd unrhyw gyrsiau hyfforddi (yn y Gymraeg na’r Saesneg) ar y pynciau sydd wedi’u rhestru yn Safonau 124 a 125.
Cafodd deg swydd wag eu hysbysebu yn ystod y cyfnod adrodd. Un ohonynt a hysbysebwyd yn fewnol yn unig. Cafodd saith swydd eu hysbysebu fel swyddi lle’r oedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol (dwy ar lefel 1, dwy ar lefel 3 a thair ar lefel 4). Cafodd tair swydd eu hysbysebu fel swyddi lle’r oedd sgiliau Cymraeg yn ddymunol (y tair ar lefel 3). Penodwyd pum siaradwr Cymraeg rhugl ac un dysgwr da iawn.
Rhoddwyd dewis i bob aelod staff newydd dderbyn eu dogfennau cyflogaeth yn Gymraeg a derbyniodd pob un ohonynt hyfforddiant sefydlu a oedd yn amlinellu eu dyletswyddau a chyfrifoldebau o dan Safonau’r Gymraeg.
Nôl i ben y dudalen
Bydd y blaenoriaethau ar gyfer 2022-23 yn cynnwys y canlynol:
Byddwn yn parhau i roi cymorth i’r staff i’w galluogi i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg wrth weithio gartref ar yr adeg anodd hon, ac i helpu aelodau staff newydd eu penodi i wreiddio’r Safonau.
Byddwn yn parhau i ddarparu amrywiaeth o ddewisiadau hyfforddi i wella sgiliau Cymraeg ein staff (gan ddefnyddio dysgu o bell hyd nes bod y staff yn gallu mynychu dosbarthiadau eto).
Byddwn yn ymgorffori’r ymrwymiadau a nodir yn ein Polisi Cymraeg yn y Gweithle trwy ddarparu cyfleoedd i’r staff ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol ac annog amgylchedd gweithio dwyieithog.
Nôl i ben y dudalen
CADW COFNODION | Ydyw / Nac ydyw | Sylwadau / Angen gweithredu |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) yn: | ||
Cadw cofnod o nifer y cwynion y mae’n ei chael ynghylch cydymffurfio â’r safonau; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. Gweler yr Adroddiad Blynyddol. |
Cadw copi o bob cwyn ysgrifenedig y mae’n ei chael ynghylch cydymffurfio â’r safonau; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. Gweler yr Adroddiad Blynyddol. |
Cadw copi o bob cwyn ysgrifenedig y mae’n ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. Gweler yr Adroddiad Blynyddol. |
Cadw cofnod o’r camau a gymerodd i gydymffurfio â’r safonau llunio polisi. | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/dogfen-cydymffurfio/ |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) yn: | ||
Cadw cofnod o nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg, a lefel y sgiliau hynny os yw’r wybodaeth ar gael; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. |
Cadw cofnod o bob asesiad o’r sgiliau Cymraeg sy’n angenrheidiol ar gyfer swyddi newydd a gwag; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. |
Cadw cofnod o nifer y swyddi newydd a gwag a aseswyd fel bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, ddim yn angenrheidiol, a bod angen dysgu Cymraeg; | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. |
Cadw cofnod o nifer (a chanran os yn berthnasol) y staff wnaeth fynychu hyfforddiant penodol sy’n ofynnol ei ddarparu yn Gymraeg os yw ar gael yn Saesneg (sef hyfforddiant recriwtio a chyfweld, rheoli perfformiad, gweithdrefnau cwyno a disgyblu, ymsefydlu, delio â’r cyhoedd, ac iechyd a diogelwch). | Ydyw | Fe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig. |
HYRWYDDO TREFNIADAU | Ydyw / Nac ydyw | Sylwadau / Angen gweithredu |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi: | ||
Cyhoeddi dogfen ar ei wefan yn cofnodi’r holl safonau y mae dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy (e.e. drwy gyhoeddi copi o’i hysbysiad cydymffurfio); | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/ |
Cyhoeddi gweithdrefn gwyno ar ei wefan. | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/polisiau/polisi-cwynion/ |
Mae’r weithdrefn gwyno’n nodi sut y bydd CBHC yn: | ||
Delio â chwynion ynghylch sut y mae’n cydymffurfio â’r safonau; | Ydyw | |
Hyfforddi staff i ddelio â’r cwynion. | Ydyw | |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi sefydlu trefniadau ar gyfer: | ||
Goruchwylio’i gydymffurfiaeth â’r safonau y mae dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy; | Ydyw | Y Grŵp Monitro Iaith Gymraeg |
Hybu’r gwasanaethau Cymraeg y mae’n eu cynnig yn unol â’r safonau; | Ydyw | |
Hwyluso defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg y mae’n eu cynnig yn unol â’r safonau. | Ydyw | |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi: | ||
Cyhoeddi dogfen ar ei wefan sy’n cofnodi ei threfniadau ar gyfer goruchwylio, hybu a hwyluso; | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/polisi-iaith-gymraeg-2020-22/ |
Cyhoeddi dogfen ar ei wefan sy’n esbonio sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’r safonau y mae dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/dogfen-cydymffurfio/ |
ADRODDIAD BLYNYDDOL | Ydyw / Nac ydyw | Sylwadau / Angen gweithredu |
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi: | ||
Cyhoeddi adroddiad blynyddol safonau’r Gymraeg ar ei wefan erbyn 30 Medi (dim hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol); | Ydyw | https://cbhc.gov.uk/cydymffurfio-a-safonaur-gymraeg-adroddiad-blynyddol-2021-22/ |
Rhoi cyhoeddusrwydd i’r adroddiad blynyddol. | Ydyw | Hysbysiad ar Twitter, Facebook a’r rhwydwaith Cyfeillion. |
Mae adroddiad blynyddol CBHC yn: | ||
Delio â’r modd y gwnaeth gydymffurfio â’r gwahanol ddosbarthiadau o safonau a osodwyd arno; | Ydyw | |
Cynnwys nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg; | Ydyw | |
Cynnwys nifer (a chanran os yn berthnasol) y staff wnaeth fynychu hyfforddiant penodol sy’n ofynnol ei ddarparu yn Gymraeg os yw ar gael yn Saesneg (sef hyfforddiant recriwtio a chyfweld, rheoli perfformiad, gweithdrefnau cwyno a disgyblu, ymsefydlu, delio â’r cyhoedd, ac iechyd a diogelwch); | Ydyw | |
Cynnwys nifer y swyddi newydd a gwag a aseswyd fel bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, ddim yn angenrheidiol, a bod angen dysgu Cymraeg; | Ydyw | |
Cynnwys nifer y cwynion a gafodd y sefydliad ynghylch pob dosbarth gwahanol o safonau. | Ydyw |
I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Cydymffurfio â Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2021-22
![]() | Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. |