Cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2022-23

1. Cyflwyniad

1.1. Hysbysiad cydymffurfio
1.2. Fformat yr Adroddiad Blynyddol hwn

2. Uchafbwyntiau

2.1. Ailagorodd ein gwasanaeth ymholiadau dwyieithog yn llawn wyneb yn wyneb
2.2. Penodwyd Rheolwr AD Cymraeg ei iaith gennym
2.3. Sefydlwyd Fforwm Defnydd y Gymraeg newydd gennym
2.4. Cymerwyd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol
2.5. Buom yn hyrwyddo ein gwaith drwy’r cyfryngau Cymraeg
2.6. Cyflwynwyd y Gymraeg i waith y Gymdeithas C20 gennym
2.7. Buom yn cofnodi Ysgol Bro Preseli, Sir Benfro
2.8. Cyfieithwyd 937 o enwau casgliadau archif gennym
2.9. Gwnaethom barhau i hyrwyddo Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

3. Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23

3.1. Parhau i gefnogi’r staff i’w galluogi i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
3.2. Parhau i ddarparu hyfforddiant yn y Gymraeg i’r staff
3.3. Parhau i hwyluso a hybu defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn fewnol

4. Cydymffurfio a hyrwyddo

4.1. Darparu Gwasanaethau (Safonau 1-9; 11-14; 16-17; 19-22; 24-34; 36; 43-48; 51-55; 57-60; 63-66; 72-73A; 75-80; 82)
4.2. Llunio Polisi (Safonau 84-89; 91-93)
4.3. Gweithredol (Safonau 94-108; 110-12; 114-17; 120-33; 135-39)
4.4. Cadw Cofnodion (Safonau 141-48)
4.5. Atodol (Safonau 149-68)

5. Adrodd statudol

5.1. Cwynion
5.2. Sgiliau Cymraeg y staff
5.3. Hyfforddiant a ddarparwyd yn y Gymraeg
5.4. Recriwtio

6. Blaenoriaethau ar gyfer 2023-24

6.1. Parhau i ddarparu hyfforddiant yn y Gymraeg i’r staff
6.2. Parhau i hwyluso a hybu defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn fewnol
6.3. Cynyddu a hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd

Atodiad 1: Rhestr wirio hunanreoleiddio


1. Cyflwyniad

Cynhyrchir yr Adroddiad Blynyddol hwn o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016.

1.1. Hysbysiad cydymffurfio

Derbyniodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (‘y Comisiwn’) ei Hysbysiad Cydymffurfio ar gyfer Safonau’r Gymraeg ym mis Gorffennaf 2016. Daeth y rhan fwyaf o’r safonau i rym ar 25 Ionawr 2017. Y dyddiad gosod ar gyfer gweddill y safonau (2, 3, 21, 48, 52 a 101-07) oedd 25 Gorffennaf 2017.

1.2. Fformat yr Adroddiad Blynyddol hwn

Ym mis Ebrill 2018, darparodd Comisiynydd yr Iaith dempled ar gyfer hunanreoleiddio. Defnyddiwyd y templed hwn gan Grŵp Monitro Iaith Gymraeg y Comisiwn yn sail i Adroddiad Blynyddol y tair blynedd ddiwethaf, ac rydym wedi parhau â’r arfer hwn. (Gweler Atodiad 1 am y rhestr wirio a gwblhawyd gennym ar gyfer 2022-23.)
Nôl i ben y dudalen

2. Uchafbwyntiau

Y cyfnod adrodd 1 Ebrill 2022 hyd 31 Mawrth 2023 oedd y chweched flwyddyn lawn i’r Comisiwn o ran cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Yn yr adroddiad hwn nodwn sut y bu i ni sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaeth dwyieithog, hyrwyddo’r Gymraeg, helpu’r staff i gydymffurfio â’r Safonau, a cheisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Comisiwn drwy recriwtio, parhau i fuddsoddi mewn hyfforddiant, a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.              

2.1. Ailagorodd ein gwasanaeth ymholidau dwyieithog yn llawn wyneb yn wyneb

O fis Ebrill 2022 ymlaen, agorwyd y Llyfrgell a’r Ystafell Chwilio i’r cyhoedd heb apwyntiadau am y tro cyntaf ers dechrau pandemig COVID-19 a chau oherwydd adnewyddu’r to. Rydym yn parhau i ymateb i ymholiadau o bell hefyd. Eleni gwelwyd mai 6.7% o’r bobl a gysylltodd â’r Comisiwn Brenhinol gyda chais am wybodaeth a wnaeth hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hyn tua 1.2% yn uwch nag yn 2015–16 ond yn is na’r 20% o ymholiadau Cymraeg a dderbyniwyd yn 2019–20. Gobeithiwn weld y ganran yn codi eto.

2.2. Penodwyd Rheolwr AD Cymraeg ei iaith gennym

Ar ymddeoliad ein Rheolwr AD blaenorol, roedd yn bleser gennym benodi ymgeisydd sy’n siarad Cymraeg i’r swydd ym mis Mai 2022. Mae hyn yn golygu y gall ein staff sy’n siarad Cymraeg nawr drafod yr holl gwestiynau a materion sy’n ymwneud â chyflogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg heb fod angen cyfieithu ar y pryd. Ar ôl ymgartrefu yn ei swydd, cymerodd y Rheolwr AD rôl Swyddog Iaith Gymraeg y Comisiwn hefyd.

2.3. Sefydlwyd Fforwm Defnydd y Gymraeg newydd gennym

Gyda phenodiad y Swyddog Iaith Gymraeg newydd, llwyddwyd i sefydlu Fforwm Defnydd y Gymraeg a chynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn y Comisiwn yn gyfan gwbl ac yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg. Ei nod yw dod â chydweithwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg a dysgwyr uwch at ei gilydd gyda’r nod o hybu ac annog y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol, fel y cyfeirir ato ym Mholisi Cymraeg yn y Gweithle’r Comisiwn.   

2.4. Cymerwyd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mewn partneriaeth â Cadw, Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, roedd gennym bresenoldeb cryf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, 30 Gorffennaf – 6 Awst 2022. Cynhaliwyd gweithdai gweithgarwch drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys creu teils clai gyda chynlluniau canoloesol a phrofiadau Realiti Rhithwir o Abaty Ystrad Fflur. Croesawyd mwy na 4,000 o ymwelwyr, gan gynnwys llawer o blant a phobl ifanc, i’r stondin a buont yn cymryd rhan mewn gweithgareddau.

Cafwyd sgwrs Gymraeg gan Dr James January-McCann (Swyddog Enwau Lleoedd) ym Mhabell y Cymdeithasau ar “Pum Mlynedd o’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol” a chymerodd ran mewn panel trafodaeth a drefnwyd gan Senedd Cymru ar hanes, esblygiad a pherthnasedd diwylliannol enwau lleoedd Cymru.

2.5. Buom yn hyrwyddo ein gwaith drwy’r cyfryngau Cymraeg

Cafodd Dr James January-McCann ei gyfweld ar Raglen Dei Tomos ar Radio Cymru, yn trafod enwau lleoedd yn Nyffryn Dyfi a’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol yn ehangach. Cyhoeddwyd cyfweliad gydag Ysgrifennydd y Comisiwn (PSG), Christopher Catling, am brosiect Bryngaer Pendinas, yn Golwg (https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2104292-trio-datrys-dirgelwch-bryngaerau). Ysgrifennodd Dr Meilyr Powel erthygl ar ysgolion yr ugeinfed ganrif yng Nghymru, “O’r Hen i’r Newydd: Treftadaeth dan Fygythiad”, ar gyfer rhifyn Tachwedd 2002 o Barn. Yn olaf, cysylltodd S4C â ni i ddefnyddio ein delweddau Awyrffilmiau ar gyfer eu rhaglen ‘Am dro’.

2.6. Cyflwynwyd y Gymraeg i waith y Gymdeithas C20 gennym

Wedi’i ffurfio yn 2020 a’i chadeirio gan Susan Fielding (Uwch Ymchwilydd – Adeiladau Hanesyddol) o’r Comisiwn Brenhinol, mae Cymdeithas C20 Cymru (C20 Cymru) yn cwmpasu treftadaeth adeiledig gyfoethog ac unigryw Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Gyda llawer o adeiladau pwysig (fel Canolfan Ddarlledu’r BBC yn Llandaf) eisoes wedi’u colli ac ychydig â diogelwch statudol, mae C20 Cymru yn cefnogi Cymdeithas C20 (yr elusen genedlaethol sy’n ymgyrchu dros bensaernïaeth a dyluniad yr ugeinfed ganrif) gyda gwybodaeth am adeiladau nodedig a gwaith achos posibl ledled Cymru.

Mae ei holl gyfathrebu yn ddwyieithog, gan gynnwys hyrwyddo ei rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ddwyieithog.

Mae Cymdeithas C20 wedi cofleidio’r Gymraeg yn llwyr, gyda darnau yn y Gymraeg i’w gweld ar ei gwefan ac yn ei chyfnodolyn, a thrwy hynny hi yw’r gymdeithas amwynder gyntaf a’r unig un yn y DU i gynnwys y Gymraeg yn ei hallbynnau.

2.7. Buom yn cofnodi Ysgol Bro Preseli, Sir Benfro  

Mae gan y Comisiwn Brenhinol arbenigedd penodol mewn arolygu, dehongli ac ailadeiladu adeiladau hanesyddol a safleoedd archaeolegol. Eleni, fel rhan o’n rhaglen ysgolion yr ugeinfed ganrif, fe wnaethom gynnal arolwg ffotograffig o Ysgol Bro Preseli, Sir Benfro (Ysgol Uwchradd Fodern Crymych yn wreiddiol). Adeiladwyd yr ysgol cyfrwng Cymraeg hon yn y 1950au yn unol â dyluniad Pensaer Sirol Sir Benfro, yr Is-gyrnol Walter Barrett. Mae ein harolwg yn sicrhau y bydd cofnod o’r ysgol yn cael ei gadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol: https://coflein.gov.uk/cy/safle/402828/?term=ysgol%20bro%20preseli

2.8. Cyfieithwyd 937 o enwau casgliadau archif gennym  

Mae ein harchif gyhoeddus gyfoethog, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), wedi’i llunio gan y Comisiwn Brenhinol ers ei sefydlu o dan Warant Frenhinol yn 1908 i ymchwilio i dreftadaeth archaeolegol ac adeiledig Cymru a’i chofnodi. Mae gan CHCC 937 o gasgliadau wedi’u henwi, nifer sy’n cynyddu bob mis wrth i’n tîm arolygu ac ymchwilio fwydo deunydd o’u gwaith i mewn ac rydym yn parhau i dderbyn cyfraniadau gan ystod eang o sefydliadau treftadaeth ac aelodau’r cyhoedd.

Er gwaethaf yr eithriad yn ein hysbysiad cydymffurfio ar gyfer testun disgrifiadol o CHCC, eleni cyfieithwyd yr holl enwau casgliadau cyfredol i’r Gymraeg gyda’r nod o integreiddio’r rhain i’n cronfa ddata ar-lein gyhoeddus, Coflein.

2.9. Gwnaethom barhau i hyrwyddo Diwrnod Hawliau’r Gymraeg

Gwnaethom hyrwyddo Diwrnod Hawliau’r Gymraeg (7 Rhagfyr 2022) i’r cyhoedd gyda graffeg gwybodaeth am ein gwasanaethau Cymraeg.

Cymraeg yn y gwaith feithllun

Yn fewnol, atgoffwyd y staff gennym am eu hawliau a hyrwyddo’r Polisi Cymraeg yn y Gweithle.

Nôl i ben y dudalen

3.  Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23

Gan adeiladu ar arferion sydd eisoes wedi’u gwreiddio, rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o safon uchel yn ystod y flwyddyn. Nododd 99% o’r ymwelwyr a gwblhaodd ein ffurflen Datganiad Ymwelwyr bod y gwasanaeth yn ‘Ardderchog’.

Parhaodd y Grŵp Monitro i weithredu, gan ddosbarthu canllawiau a rhoi gwybod i’r staff am weithgareddau. Llwyddwyd i gwblhau’r gweithgareddau cyfredol yn ein cynllun gweithredu, a gawsai ei gymeradwyo gan y Tîm Gweithredol a’r Comisiynwyr. Bydd gwaith pellach ar rai o’r nodau strategol yn cael ei gario ymlaen i 2023-24.

Yn ystod 2022-23 fe ganolbwyntiodd y Comisiwn ar y blaenoriaethau a ganlyn:

3.1. Parhau i gefnogi’r staff i’w galluogi i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg

Rydym wedi parhau i ddarparu cefnogaeth. Eleni, dosbarthwyd arweiniad i staff ar gyflwyniadau PowerPoint dwyieithog, gan gynnwys templed newydd a sleidiau enghreifftiol. Gwnaethom hefyd ddarparu sgript wedi’i diweddaru ar gyfer ateb y ffôn yn ddwyieithog. Darparwyd arweiniad ar weithdrefnau i’w dilyn wrth weithio gartref. Hefyd cynhaliwyd ein sesiwn Holi ac Ateb flynyddol i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg, esbonio sut i weithredu yn unol â’r Safonau, a hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Rhoddwyd gwybod am Safonau’r Gymraeg i bob aelod staff newydd yn ystod eu rhaglen sefydlu.

Dangosodd Arolwg Staff 2022 bod 89% o’r staff yn teimlo bod y Comisiwn yn cymryd camau i gefnogi’r Gymraeg i ffynnu.

3.2. Parhau i ddarparu hyfforddiant yn y Gymraeg i’r staff

Cynigiwyd rhaglen lawn o hyfforddiant i’r staff, ar wahanol lefelau o rugledd, yn ystod amser gwaith ac am ddim.

Yn ystod 2022–23 parhaodd mwy na thraean (36%) o’n staff i fynychu amrywiol gyrsiau Cymraeg wythnosol. Gwnaethom hefyd fanteisio ar y cynllun Cymraeg Gwaith sy’n cael ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Nant Gwrtheyrn. Mynychodd pedwar aelod o staff gyrsiau Cymraeg ar-lein neu breswyl 5 diwrnod, yn amrywio o Lefel Mynediad i siaradwyr Cymraeg sy’n awyddus i wella eu hyder mewn Cymraeg ysgrifenedig.

3.3. Parhau i hwyluso a hybu defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn fewnol

Yn dilyn ei gyhoeddi yn 2021–22, rydym wedi dechrau ymgorffori’r ymrwymiadau a nodir yn ein Polisi Cymraeg yn y Gweithle drwy ddarparu cyfleoedd i’r staff ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol ac annog amgylchedd gwaith dwyieithog:

  • Rydym bellach yn annog y staff sy’n siarad Cymraeg i ysgrifennu yn y Gymraeg yn gyntaf, gyda gwasanaethau cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg yn cael eu darparu lle bo angen er mwyn osgoi cynnydd sylweddol mewn baich gwaith.
  • Er mwyn helpu dysgwyr Cymraeg i fagu hyder a sgiliau ac i normaleiddio ysgrifennu yn y Gymraeg, rydym wedi sefydlu cronfa o staff Cymraeg eu hiaith y gellir cysylltu â hwy i brawfddarllen darnau llai o destun fel negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Parhawyd i gynnal Sgwrs dros Baned wythnosol ar-lein er mwyn i’r siaradwyr Cymraeg a’r dysgwyr ddefnyddio / ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Bydd y Fforwm Defnydd y Gymraeg newydd, sy’n fenter ei hun sy’n galluogi’r staff i ddefnyddio’r Gymraeg fel eu hiaith yn y gwaith, yn sbarduno cynnydd yn y maes hwn.   

Nôl i ben y dudalen

4. Cydymffurfio a hyrwyddo

4.1. Darparu Gwasanaethau (Safonau 1-9; 11-14; 16-17; 19-22; 24-34; 36; 43-48; 51-55; 57-60; 63-66; 72-73A; 75-80; 82)

Bydd y Comisiwn yn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaeth cyfartal drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Bydd staff y Comisiwn sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn a/neu gortyn i ddangos eu bod nhw’n gallu darparu gwasanaeth Cymraeg. Bydd nifer o’n dysgwyr hefyd yn gwisgo cortyn ‘Dysgwr’. Mae hyn yn rhoi mwy o gyfleoedd iddynt ddefnyddio ac ymarfer eu sgiliau iaith yn y gweithle.

Manylir ymhellach ar ein harferion gwaith arferol a’r gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer ein cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith yn ein Polisi Iaith Gymraeg.

Yn y paragraffau sy’n dilyn (4.1.1 – 4.1.3), rhoddir enghreifftiau o sut y bydd y Comisiwn yn cydymffurfio â’r Safonau ac yn hyrwyddo ei wasanaethau Cymraeg.

4.1.1. Gohebiaeth a galwadau ffôn

Pan dderbyniwn ohebiaeth yn y Gymraeg, byddwn yn ateb, os oes angen ateb, o fewn yr un amser targed ag yr atebwn ohebiaeth a dderbynnir yn y Saesneg. Bydd gohebiaeth gennym yn nodi ein bod ni’n croesawu derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg a bydd ein llofnodion electronig dwyieithog yn nodi a yw’r aelod staff yn siarad Cymraeg.

Er mwyn sicrhau y gall ein staff ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog, cynigir hyfforddiant i staff y mae angen cymorth arnynt. Mae system awtomataidd y Comisiwn ar gyfer ei brif rif ffôn yn rhoi dewis i alwyr siarad ag aelod staff yn y Gymraeg ac mae gan ein holl ffonau ateb negeseuon wedi’u recordio dwyieithog. Yn ystod cyfnod yr adroddiad, roedd 9% o ymholiadau dros y ffôn yn ymholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. (Mae hyn yn is na’r 16% a gofnodwyd yn 2021–22.)

4.1.2. Cyfarfodydd, ymweliadau, a digwyddiadau i’r cyhoedd

Fel y crybwyllwyd yn 2.4. uchod, traddododd Dr James January-McCann (Swyddog Enwau Lleoedd) sgwrs Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar “Pum Mlynedd o’r Rhestr Enwau Lleoedd Hanesyddol” a chymerodd ran mewn trafodaeth banel a drefnwyd gan Senedd Cymru ar hanes, esblygiad a pherthnasedd diwylliannol enwau lleoedd Cymru. Yn ystod yr un mis, bu James hefyd yn rhoi sgwrs Gymraeg ar y Rhestr i Grŵp Probus Llanisien.

Fel rhan o’n rhaglen estyn-allan, rydym wedi parhau i ddarparu gweithgareddau dwyieithog ar gyfer plant yn ein digwyddiadau ac i groesawu ymweliadau i’n Hystafell Ymchwil gan grwpiau. Yn benodol cynhaliwyd ymweliadau grŵp Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd ar gyfer staff curadurol Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac, ar y cyd â thîm addysgiadol y Llyfrgell, ar gyfer 25 o ddisgyblion o Ysgol Pontrhydyfendigaid. Gwnaethom hefyd ddarparu taith dywys Gymraeg o’n straeon archif ar gyfer ymgyrch Archwilio Eich Archifau ym mis Tachwedd.

Bydd y Comisiwn yn hyrwyddo ei holl ddigwyddiadau yn ddwyieithog ac mae’n paratoi deunydd hyrwyddo a gwybodaeth ddwyieithog i’r cyhoedd. Eleni, dangoswyd arddangosfa ddwyieithog am ein prosiect newid hinsawdd Iwerddon-Cymru, CHERISH, sy’n cael ei gyllido gan yr UE, yn y Senedd (Mehefin-Gorffennaf 2022, 5,854 o ymwelwyr) ac yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth (Chwefror/Mawrth 2023, 8,658 o ymwelwyr), yn cynnwys Barddoniaeth Gymraeg gan aelod o dîm CHERISH, Dr Hywel Griffiths (Prifysgol Aberystwyth). Hefyd, mae newyddlenni CHERISH yn parhau i gael eu cynhyrchu’n ddwyieithog, yn y Gymraeg a’r Saesneg yn ogystal â’r Wyddeleg a’r Saesneg.

4.1.3. Gwasanaethau ar-lein

Gwnaethom barhau i gynhyrchu llawer o ddeunydd ar gyfer ein cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol, a oedd yn cynnwys cyhoeddi 56 o erthyglau blog dwyieithog yn ystod y flwyddyn. Mae’r e-byst blog wythnosol newydd wedi bod yn ennill tanysgrifwyr yn gyson, gydag 83 wedi cofrestru i dderbyn y blogiau yn y Gymraeg a 170 yn eu derbyn yn Saesneg.

Fe gyhoeddwyd 16 o fideos newydd ar ein sianel YouTube, 1 yn y Gymraeg, 10 yn Saesneg a 5 graffeg yn unig. Cafodd y rhain eu gwylio 15,700 o weithiau i gyd (o gymharu ag 18,700 yn 2021–22).

Ar y cyfryngau cymdeithasol gwnaethom barhau i gynnal ymgyrchoedd gan ddefnyddio hashnodau Cymraeg amserol, fel #MisBalchder, #MisAwyrAgored, ac #AddoldaiDyddGwener. Postiwyd 620 o bostiadau dwyieithog ar Facebook, 163 ar Instagram, ac fe wnaethom drydaru ac ateb mwy na 3,000 o weithiau ar draws ein pedwar cyfrif Twitter dwyieithog. Drwy ganolbwyntio ar gyfathrebu â’n cynulleidfaoedd ar y platfformau maent yn dewis eu defnyddio, fe welwyd cynnydd cyson eto yn nifer ein dilynwyr: 13% yn fwy ar Facebook (10,223 i 11,553), 271% yn fwy ar Instagram (0 i 271), a 10% yn fwy ar Twitter (12,966 i 14,232).

4.2. Llunio Polisi (Safonau 84-89; 91-93)

Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i’r iaith Cymraeg yn ei holl bolisïau a gweithgareddau.

4.2.1. Cyfrifoldeb

Y Tîm Gweithredol (uwch reolwyr) sy’n gyfrifol am fesur a phwyso polisïau, mentrau a gwasanaethau newydd neu ddiwygiedig cyn iddynt gael eu cymeradwyo gan ein Bwrdd Comisiynwyr. 

4.2.2. Llunio, adolygu neu ddiwygio polisi

I sicrhau y bydd polisïau, mentrau a gwasanaethau newydd yn gyson â gofynion Safonau’r Gymraeg, bydd y Comisiwn, wrth lunio, adolygu neu ddiwygio polisi, yn ystyried yr effeithiau, os oes rhai (cadarnhau neu negyddol), ar gyfleoedd i unigolion ddefnyddio’r Gymraeg.

Byddwn yn ystyried sut y gallwn wneud penderfyniad polisi a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a byddwn yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Cafodd Fframwaith Asesiadau o Effaith ar yr Iaith Gymraeg ei sefydlu wrth roi’r Safonau ar waith.

Yn ystod 2022–23 gwnaethom adolygu ein ffurflen Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg i’w gwneud yn fwy ystyrlon ac yn haws ei defnyddio. Fel sail i’r newidiadau hyn, aethom i weithdy arfer gorau a drefnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar y Safonau Polisi a sut i gynnal Asesiadau llwyddiannus o’r Effaith ar y Gymraeg. Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ar ei newydd wedd ar Strategaeth Gyfathrebu’r Comisiwn.

4.3. Gweithredol (Safonau 94-108; 110-12; 114-17; 120-33; 135-39)

I sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Safonau gweithredol, mae’r Comisiwn yn parhau i adolygu ei ddogfennau a’i bolisïau mewnol. Eleni gwnaethom gyhoeddi ein Polisi Cymraeg yn y Gweithle 2021–23 (Safon 94).

4.3.1. Mewnrwyd (Safonau 117-22)

Eleni, gwnaethom ddatblygu mewnrwyd am y tro cyntaf. Mae pob tudalen ar gael yn Gymraeg a Saesneg, mae pob tudalen Gymraeg yn gwbl weithredol, nid yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac mae gennym dudalen benodol sy’n darparu gwasanaethau a deunydd cymorth i hyrwyddo’r Gymraeg a chynorthwyo ein staff i ddefnyddio’r Gymraeg.

4.3.2. Darparu dogfennau dwyieithog at ddefnydd ein staff

Roedd yr holl ddogfennau sydd wedi’u rhestru yn y Safonau perthnasol ar gael i’r staff yn Gymraeg a Saesneg. Yn ystod cyfnod yr adroddiad, rhoddwyd dewis i’r holl aelodau o staff a benodwyd yn allanol dderbyn dogfennau cyflogaeth yn Gymraeg. (Gweler hefyd 5.4. Recriwtio.)

4.3.3. Sgiliau Cymraeg y staff

Ymgymerwyd ag archwiliad sgiliau Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd. Gweler adran 5.2 am fanylion pellach.

4.3.4. Hyfforddiant iaith Gymraeg (Safonau 126-27)

Bydd y Comisiwn yn annog staff yn gryf i ddysgu Cymraeg ac yn eu helpu i feithrin eu sgiliau iaith. Yn ystod y cyfnod adrodd:

  • Mynychodd 12 aelod staff (36%) wersi Cymraeg wythnosol yn ystod oriau gwaith, 10% yn fwy na’r llynedd.
  • Mynychodd pedwar aelod o staff gyrsiau Cymraeg 5 diwrnod dwys ar-lein neu breswyl a ddarparwyd gan Nant Gwrtheyrn, yn amrywio o Lefel Mynediad i siaradwyr Cymraeg sy’n awyddus i wella eu hyder mewn Cymraeg ysgrifenedig. 

Mae’r staff hefyd yn defnyddio adnoddau ar-lein megis Duolingo a Say Something in Welsh er mwyn dysgu y tu allan i’r gwaith. Y record bresennol ymhlith y staff yw un wers Duolingo y dydd am dros 800 o ddiwrnodau!

4.4. Cadw Cofnodion (Safonau 141-48)

Mewn egwyddor, parheir i ddefnyddio system ffeilio gofrestrfa gyfredol y Comisiwn i gadw’r holl gofnodion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg fel y nodir yn ein Hysbysiad Cydymffurfio.

4.5. Atodol (Safonau 149-68)

4.5.1. Mae’r dogfennau a ganlyn ar gael ar wefan y Comisiwn:

Hysbysiad Cydymffurfio, ac mae copi ar gael yn y Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil i hysbysu’r cyhoedd (149, 155, 161, 167).

Dogfen Gydymffurfio, sy’n esbonio sut y mae’r Comisiwn yn bwriadu cydymffurfio â’r holl safonau y mae dyletswydd arno i gydymffurfio â hwy (153, 159, 165).

Polisi Cwyno, sy’n esbonio sut y gellir cysylltu â ni i fynegi pryder neu wneud cwyn, a’r drefn y bydd y Comisiwn yn ei dilyn wrth ystyried cwynion (150, 156, 162).

Polisi Iaith Gymraeg (151).

Yr Adroddiad Blynyddol hwn (152, 158, 164).

4.5.2. Sicrhau bod Safonau’r Gymraeg yn cael eu monitro’n effeithiol

Bydd monitro’n cael ei wneud yn anffurfiol, gan aelodau unigol y Grŵp Monitro, ac yn ffurfiol mewn cyfarfodydd a gynhelir bob tri mis. Adroddir i’r Tîm Gweithredol a’r Comisiynwyr. Hefyd mae’r Grŵp Monitro wedi paratoi cynllun gweithredu i’w helpu i gyflawni ei flaenoriaethau.  

Mynychwyd gweithdai arfer gorau a drefnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg yn fewnol ac yn allanol, ac ar y Safonau Polisi a sut i gynnal Asesiadau Effaith ar y Gymraeg llwyddiannus. Gwnaethom hefyd fynychu cwrs a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfryngau cymdeithasol dwyieithog llwyddiannus. Yn olaf, aethom i gyfarfodydd gyda Swyddogion y Gymraeg eraill ledled Cymru i rannu gwybodaeth ac arfer gorau.

4.5.3. Darparu gwybodaeth y gofynnwyd amdani gan Gomisiynydd y Gymraeg

Cyflwynwyd Holiadur gennym am ein harferion presennol o ran hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg, a’r data sy’n bodoli ar y defnydd o wasanaethau Cymraeg.
Nôl i ben y dudalen

5. Adrodd statudol

5.1. Cwynion

Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol yn ystod y cyfnod adrodd.

5.2. Sgiliau Cymraeg y staff

Cynhaliwyd archwiliad sgiliau Cymraeg yn ystod y cyfnod adrodd. Gofynnwyd i’r staff hunanasesu eu sgiliau iaith mewn perthynas â gwrando/siarad, darllen/deall ac ysgrifennu (lefel 0 = dim sgiliau Cymraeg, 5 = hyfedr) gan ddefnyddio’r datganiadau ‘Gallu Gwneud’ ar y Fframwaith ALTE.

Roedd y canlyniadau fel a ganlyn: allan o 34 staff a oedd yn cael eu cyflogi ar y pryd:

  • roedd gan 34 ohonynt (100%) ryw lefel o sgil yn y Gymraeg;
  • roedd 19 ohonynt (55%) wedi asesu bod ganddynt sgiliau ar lefel 3 ac uwch (cynnydd o 2% ers y llynedd);
  • roedd 15 ohonynt (44%) wedi asesu bod eu sgiliau yn is na lefel 3 (gostyngiad o 3% ers y llynedd);
  • Dywedodd y staff i gyd bod eu sgiliau wedi parhau’n gyson ers yr arolwg diwethaf yn 2022.

O ran gofynion swyddi, mae gan 25 aelod staff (73%) y lefel leiaf o Gymraeg sydd ei hangen ar gyfer eu swydd. Mae hyn 4% yn fwy na’r llynedd. Sut bynnag, mae’n cymharu â 14 (44%) yn unig yn 2017.

5.3. Hyfforddiant a ddarparwyd yn y Gymraeg

Yn ystod y cyfnod adrodd, ni ddarparwyd unrhyw gyrsiau hyfforddi (yn y Gymraeg na’r Saesneg) ar y pynciau sydd wedi’u rhestru yn Safonau 124 a 125.

5.4. Recriwtio

Cafodd tair swydd wag eu hysbysebu yn ystod y cyfnod adrodd a dwy ohonynt wedi’u hysbysebu yn fewnol yn unig. Cafodd dwy swydd eu hysbysebu fel swyddi lle’r oedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol (y ddwy ar lefel 4). Cafodd un swydd ei hysbysebu fel swydd lle’r oedd sgiliau Cymraeg yn ddymunol (ar lefel 3). Penodwyd tri siaradwr Cymraeg rhugl.

Rhoddwyd dewis i bob aelod staff newydd dderbyn eu dogfennau cyflogaeth yn Gymraeg a derbyniodd pob un ohonynt hyfforddiant sefydlu a oedd yn amlinellu eu dyletswyddau a chyfrifoldebau o dan Safonau’r Gymraeg.
Nôl i ben y dudalen

6. Blaenoriaethau ar gyfer 2023-24

Er y byddwn yn parhau i sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg, mae ein ffocws wedi symud tuag at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Comisiwn drwy recriwtio, buddsoddiad parhaus mewn hyfforddiant, a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Felly, bydd y blaenoriaethau ar gyfer 2023-24 yn cynnwys y canlynol:

6.1. Parhau i hwyluso a hybu defnydd cynyddol o’r Gymraeg yn fewnol

Byddwn yn parhau i ddarparu amrywiaeth o ddewisiadau hyfforddi i wella sgiliau Cymraeg ein staff (gan ddefnyddio dysgu o bell neu wyneb yn wyneb).

6.2. Parhau i ddarparu hyfforddiant yn y Gymraeg i’r staff

Byddwn yn parhau i ymgorffori’r ymrwymiadau a nodir yn ein Polisi Cymraeg yn y Gweithle trwy ddarparu cyfleoedd i’r staff ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol ac annog amgylchedd gweithio dwyieithog.

6.3. Cynyddu a hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd          

Byddwn yn anelu at godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’n gwasanaethau Cymraeg drwy sgyrsiau Cymraeg, cymryd rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a hyrwyddo ein gwaith drwy’r cyfryngau Cymraeg.
Nôl i ben y dudalen


Atodiad 1: Rhestr wirio hunanreoleiddio

CADW COFNODIONYdyw / Nac ydywSylwadau / Angen gweithredu
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) yn:
Cadw cofnod o nifer y cwynion y mae’n ei chael ynghylch cydymffurfio â’r safonau;YdywFe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig.  
Gweler yr Adroddiad Blynyddol.
Cadw copi o bob cwyn ysgrifenedig y mae’n ei chael ynghylch cydymffurfio â’r safonau;YdywFe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig.  
Gweler yr Adroddiad Blynyddol.
Cadw copi o bob cwyn ysgrifenedig y mae’n ei chael sy’n ymwneud â’r Gymraeg;YdywFe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig.  
Gweler yr Adroddiad Blynyddol.
Cadw cofnod o’r camau a gymerodd i gydymffurfio â’r safonau llunio polisi.Ydywhttps://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/dogfen-cydymffurfio/
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) yn:
Cadw cofnod o nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg, a lefel y sgiliau hynny os yw’r wybodaeth ar gael;YdywFe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig.
Cadw cofnod o bob asesiad o’r sgiliau Cymraeg sy’n angenrheidiol ar gyfer swyddi newydd a gwag;YdywFe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig.
Cadw cofnod o nifer y swyddi newydd a gwag a aseswyd fel bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, ddim yn angenrheidiol, a bod angen dysgu Cymraeg;YdywFe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig.
Cadw cofnod o nifer (a chanran os yn berthnasol) y staff wnaeth fynychu hyfforddiant penodol sy’n ofynnol ei ddarparu yn Gymraeg os yw ar gael yn Saesneg (sef hyfforddiant recriwtio a chyfweld, rheoli perfformiad, gweithdrefnau cwyno a disgyblu, ymsefydlu, delio â’r cyhoedd, ac iechyd a diogelwch).YdywFe’i cedwir ar Ffeil Gofrestredig.
HYRWYDDO TREFNIADAUYdyw / Nac ydywSylwadau / Angen gweithredu
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi:
Cyhoeddi dogfen ar ei wefan yn cofnodi’r holl safonau y mae dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy (e.e. drwy gyhoeddi copi o’i hysbysiad cydymffurfio);Ydywhttps://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/
Cyhoeddi gweithdrefn gwyno ar ei wefan.Ydywhttps://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/polisiau/polisi-cwynion/
Mae’r weithdrefn gwyno’n nodi sut y bydd CBHC yn:
Delio â chwynion ynghylch sut y mae’n cydymffurfio â’r safonau;Ydyw 
Hyfforddi staff i ddelio â’r cwynion.Ydyw
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi sefydlu trefniadau ar gyfer:
Goruchwylio’i gydymffurfiaeth â’r safonau y mae dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy;YdywY Grŵp Monitro Iaith Gymraeg
Hybu’r gwasanaethau Cymraeg y mae’n eu cynnig yn unol â’r safonau;Ydyw
Hwyluso defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg y mae’n eu cynnig yn unol â’r safonau.Ydyw 
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi:
Cyhoeddi dogfen ar ei wefan sy’n cofnodi ei threfniadau ar gyfer goruchwylio, hybu a hwyluso;Ydywhttps://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/polisi-iaith-gymraeg-2023-26/
Cyhoeddi dogfen ar ei wefan sy’n esbonio sut y mae’n bwriadu cydymffurfio â’r safonau y mae dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.Ydywhttps://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/y-gymraeg/dogfen-cydymffurfio/
ADRODDIAD BLYNYDDOLYdyw / Nac ydywSylwadau / Angen gweithredu
Mae’r Comisiwn Brenhinol (CBHC) wedi:
Cyhoeddi adroddiad blynyddol safonau’r Gymraeg ar ei wefan erbyn 30 Medi (dim hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol);Ydywhttps://cbhc.gov.uk/cydymffurfio-a-safonaur-gymraeg-adroddiad-blynyddol-2022-23/
Rhoi cyhoeddusrwydd i’r adroddiad blynyddol.YdywHysbysiad ar Twitter, Facebook a’r rhwydwaith Cyfeillion.
Mae adroddiad blynyddol CBHC yn:
Delio â’r modd y gwnaeth gydymffurfio â’r gwahanol ddosbarthiadau o safonau a osodwyd arno;Ydyw 
Cynnwys nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg;Ydyw 
Cynnwys nifer (a chanran os yn berthnasol) y staff wnaeth fynychu hyfforddiant penodol sy’n ofynnol ei ddarparu yn Gymraeg os yw ar gael yn Saesneg (sef hyfforddiant recriwtio a chyfweld, rheoli perfformiad, gweithdrefnau cwyno a disgyblu, ymsefydlu, delio â’r cyhoedd, ac iechyd a diogelwch);Ydyw 
Cynnwys nifer y swyddi newydd a gwag a aseswyd fel bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol, yn ddymunol, ddim yn angenrheidiol, a bod angen dysgu Cymraeg;Ydyw 
Cynnwys nifer y cwynion a gafodd y sefydliad ynghylch pob dosbarth gwahanol o safonau.Ydyw 

I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: Cydymffurfio â Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2022-23

Logo Trwydded Llywodraeth Agored
Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored.

Nôl i ben y dudalen

Tweets