Cynhyrchwyd yn unol â gofynion Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016
Safonau | Gwybodaeth |
Cyflenwi Gwasanaethau | Mae’r Comisiwn yn darparu gwasanaeth dwyieithog i’r cyhoedd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaeth cyfartal trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Lle bo angen, mae arferion gwaith newydd wedi cael eu sefydlu fel rhan o’n gwaith i weithredu’r safonau. |
Llunio Polisi | Mae’r Comisiwn wedi ymrwymo i’r iaith Gymraeg drwy ei holl bolisïau a gweithgareddau. Datblygwyd, a chyhoeddwyd, Fframwaith Asesu Effaith ar yr Iaith Gymraeg, ac mae’r asesiadau yn cael eu cytuno a’u cofnodi’n ganolog i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau Llunio Polisi.
Bydd polisïau, mentrau a gwasanaethau newydd yn gyson â gofynion Safonau’r Gymraeg. Byddant yn cefnogi defnyddio’r Gymraeg ac fe fyddwn ni, pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, yn helpu’r cyhoedd yng Nghymru sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywyd bob-dydd i wneud hynny.
|
Gweithredu
|
Mae fframweithiau newydd ac arferion gwaith newydd wedi cael eu mabwysiadu er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau Gweithredol. Lle bo angen, mae polisïau a gweithdrefnau dwyieithog wedi cael eu cyhoeddi ar ein mewnrwyd. |
Cadw Cofnodion | Bydd trefn cadw cofnodion cyfredol y Comisiwn yn cael ei ddefnyddio i gadw cofnodion fel y nodir yn y Safonau. Mae fframwaith ar waith i gofnodi’r wybodaeth ofynnol. |
Safonau Atodol | |
149, 155, 161, 167
|
Mae Hysbysiad Cydymffurfio Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (sydd yn manylu ar y Safonau Cyflenwi Gwasanaethau, Llunio Polisi, Gweithredu a Chadw Cofnodion y mae’n rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â hwy) wedi’i gyhoeddi ar wefan y Comisiwn, mewnrwyd staff ac mae copi ar gael yn ein Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil. |
150, 156, 162
|
Mae Trefn Gwyno’r Comisiwn yn gosod allan sut i gysylltu â ni gyda phryder neu gŵyn, a’r weithdrefn y bydd y Comisiwn yn ei dilyn wrth ystyried cwynion. |
151, 153,
157, 159, 163, 165
|
Rydym yn sicrhau goruchwyliaeth o’r Safonau y mae rhaid i’r Comisiwn gydymffurfio â hwy yn y ffyrdd canlynol:
Mae’r ddogfen hon wedi ei chyhoeddi ar ein gwefan, mewnrwyd y staff ac mae copi printiedig ar gael yn ein Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil.
|
154, 160, 166, 168
|
Bydd y Comisiwn yn darparu unrhyw wybodaeth, neu gofnodion, y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’n chydymffurfedd â’r Safonau yr ydym o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
152, 158, 164 | Mae fframwaith yn ei le i sicrhau bod Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyhoeddi yn unol â gofynion y Safonau. |