Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2023
2. Gwasanaethau cyhoeddus: Cysylltiadau â’r cyhoedd
2.1. Gohebiaeth ysgrifenedig (e-bost, papur a chyfryngau cymdeithasol)
2.2. Cyfathrebu dros y ffôn
2.3. Cyfarfodydd
2.4. Digwyddiadau cyhoeddus
2.5. Cyhoeddiadau
2.6. Ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, datganiadau i’r wasg ac arddangosfeydd
2.7. Presenoldeb ar-lein
2.8. Arwyddion
2.9. Hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg
2.10. Brandio a hunaniaeth gyhoeddus
4.1. Trefniadau mewnol
4.2. Hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn fewnol
4.3. Staffio
4.4. Recriwtio
4.5. Hyfforddiant iaith
4.6. Gweithio mewn partneriaeth
4.7. Cadw cofnodion
4.8. Monitro
4.9. Adolygu a diwygio’r polisi
5. Cwynion ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau
Atodiad 1: Y system sgorio ar gyfer cyhoeddiadau
Yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, anfonodd Comisiynydd y Gymraeg Hysbysiad Cydymffurfio i’r Comisiwn Brenhinol ym mis Gorffennaf 2016 a nododd y Safonau Iaith Gymraeg y mae gofyn iddo gydymffurfio â hwy.
O dan y Safonau, rhaid i’r iaith Gymraeg beidio â chael ei thrin yn llai ffafriol na’r iaith Saesneg. Mae mwy o wybodaeth am gwmpas a diben y Safonau Iaith Gymraeg i’w gweld ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Mae’r polisi hwn yn dangos ein hymrwymiad i drin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal ac mae’n rhoi i’n cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith amcan clir o’r gwasanaeth y gallant ei ddisgwyl gennym. Mae hefyd yn fodd i sicrhau bod y Comisiwn yn cydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg.
Cymeradwywyd y polisi hwn gan Fwrdd y Comisiynwyr, yr Ysgrifennydd a’r Tîm Gweithredol, sy’n ymwybodol o gyfrifoldebau’r Comisiwn Brenhinol o dan y Mesur.
Nôl i ben y dudalen
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y cyhoedd sy’n cysylltu â’r Comisiwn Brenhinol yn gallu mwynhau gwasanaeth cyfartal drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Bydd gwasanaethau a ddarperir yn y Gymraeg a’r Saesneg o’r un ansawdd ac fe’u darperir o fewn yr un raddfa amser.
Bydd ein harfer safonol fel a ganlyn:
2.1.1. Pan fydd rhywun yn ysgrifennu atom yn y Gymraeg byddwn yn anfon ateb yn y Gymraeg (os oes angen ateb). Bydd ein hamser targed ar gyfer ateb gohebiaeth yn y Gymraeg yr un fath ag ar gyfer ateb gohebiaeth yn y Saesneg. Ein hamser targed cyfredol yw cydnabod o fewn un diwrnod gwaith ac ateb yn llawn o fewn 15 diwrnod gwaith.
2.1.2. Pan gychwynnwn ohebiaeth ag unigolyn, grŵp neu sefydliad yng Nghymru gwnawn ni hynny’n ddwyieithog oni wyddom y byddai’n well ganddynt ohebu yn Gymraeg neu Saesneg yn unig. Bydd hyn yn cynnwys gwahoddiadau i dendro am gontract. Os yw’n hysbys, cedwir cofnod o’r iaith sydd orau gan unigolyn.
2.1.3. Pan anfonwn ohebiaeth safonol neu gylchlythyr at sawl derbynnydd yng Nghymru bydd yn ddwyieithog.
2.1.4. Os bydd rhaid cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg o unrhyw ohebiaeth ar wahân, byddwn yn sicrhau bod y ddau fersiwn ar gael ar yr un pryd. Bydd y fersiwn Saesneg yn nodi bod fersiwn Cymraeg ar gael.
2.1.5. Bydd pob copi caled o ohebiaeth Gymraeg a Saesneg a anfonir gennym yn cael ei lofnodi.
2.1.6. Bydd pob gohebiaeth a anfonir drwy e-bost yn Gymraeg neu Saesneg yn cynnwys llofnod electronig dwyieithog a fydd hefyd yn nodi siaradwyr Cymraeg.
2.1.7. Bydd gohebiaeth a anfonwn yn nodi ein bod ni’n croesawu derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg.
Nôl i ben y dudalen
Ein harfer safonol yw sicrhau y gall y cyhoedd siarad yn Gymraeg neu Saesneg wrth ddelio â ni dros y ffôn.
2.2.1. Bydd staff sy’n ateb ein prif rif ffôn yn gwneud hynny â chyfarchiad dwyieithog. Byddant yn delio â’r alwad yn Gymraeg oni bai bod angen ei throsglwyddo i gydweithiwr, y mae’n bosibl nad yw’n siarad Cymraeg, a all ddarparu gwasanaeth ar bwnc penodol.
2.2.2. Mae negeseuon wedi’u recordio ar ein system ffôn awtomataidd yn ddwyieithog ac mae croeso i alwyr adael neges yn y naill iaith neu’r llall. Byddwn yn ateb y neges wedi’i recordio yn iaith y galwr.
2.2.3. Bydd ein holl staff yn ateb y ffôn â chyfarchiad dwyieithog a bydd ganddynt negeseuon wedi’u recordio dwyieithog ar eu ffonau ateb deialu-uniongyrchol.
2.2.4. Os bydd y galwr yn dymuno siarad Cymraeg, bydd ein staff, os nad ydynt yn medru’r Gymraeg, yn ceisio trosglwyddo’r alwad i gydweithiwr Cymraeg sy’n gymwys i ddelio â’r ymholiad.
2.2.5. Os nad oes siaradwr Cymraeg sy’n gymwys i ddelio â’r ymholiad ar gael, rhoir dewis i’r galwr, fel y bo’n briodol, sef aros i siaradwr Cymraeg ffonio’n ôl cyn gynted â phosibl, parhau â’r alwad yn Saesneg, neu gyflwyno’r ymholiad yn Gymraeg drwy lythyr neu e-bost.
2.2.6. Pan ffoniwn unigolyn am y tro cyntaf byddwn yn gofyn a yw’n dymuno derbyn galwadau ffôn gennym yn Gymraeg. Cedwir cofnod o’r iaith sydd orau gan unigolyn ar gyfer cyfathrebu.
Nôl i ben y dudalen
2.3.1. Pan wahoddwn un person i gyfarfod byddwn yn gofyn iddo/iddi a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Os bydd angen, byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg at y diben hwnnw.
2.3.2. Pan wahoddwn fwy nag un person i gyfarfod byddwn yn gofyn iddynt a ydynt yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod. Os bydd o leiaf 10% o bobl wedi rhoi gwybod i ni eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, yna, os bydd angen, byddwn yn trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.
2.3.3. Pan wahoddwn rywun i siarad mewn cyfarfod a drefnir gan y Comisiwn, sydd ar agor i’r cyhoedd, byddwn yn gofyn iddo/iddi a yw’n dymuno defnyddio’r Gymraeg. Os bydd angen, byddwn yn trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.
2.3.4. Bydd gwahoddiadau a hysbysebion ynghylch cyfarfodydd cyhoeddus yn ddwyieithog a byddant yn nodi y bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael neu’n gwahodd y cyhoedd i’n hysbysu ymlaen llaw ynghylch pa iaith y byddant yn dymuno’i siarad. Os bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael, rhoddwn wybod am hynny i’r rhai sy’n dod i gyfarfodydd cyhoeddus – ac yn eu hannog i gyfrannu yn Gymraeg.
Nôl i ben y dudalen
2.4.1. Pan fyddwn yn trefnu digwyddiad cyhoeddus, neu’n ariannu o leiaf 50% o ddigwyddiad cyhoeddus, bydd unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd neu hysbysebu ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Byddwn yn sicrhau nad yw’r iaith Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn y digwyddiad (er enghraifft, mewn perthynas â deunyddiau, arddangosfeydd ac arwyddion a arddangosir neu gyhoeddiadau sain a wneir yn y digwyddiad).
2.4.2. Bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd yn cael eu darparu yn sesiynau llawn cynadleddau a drefnir gan y Comisiwn, a bydd croeso i bawb sy’n cyfranogi wneud hynny yn Gymraeg neu Saesneg.
2.4.3. Pan drefnwn gwrs addysg i’r cyhoedd, byddwn yn asesu’r angen i ddarparu’r cwrs yn Gymraeg ac yn cyhoeddi’r asesiad ar ein gwefan.
Nôl i ben y dudalen
2.5.1. Bydd deunydd (deunydd cyhoeddusrwydd, dogfennau, ffurflenni a deunydd eglurhaol cysylltiedig) at ddefnydd y cyhoedd yng Nghymru yn llwyr ddwyieithog. Ein harfer safonol ar gyfer cyhoeddiadau copi caled fydd cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg gyda’i gilydd mewn un ddogfen. Yn achos deunydd sydd i’w gyhoeddi’n electronig ar ein gwefan gorfforaethol, gall dogfennau gael eu cyhoeddi fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân gan y bydd cyswllt uniongyrchol i’r dudalen gyfatebol yn yr iaith arall. Serch hynny, ein harfer safonol yn achos deunydd hyrwyddo sy’n debygol o gael ei ledaenu neu ei argraffu fydd ei gyhoeddi’n ddwyieithog mewn un ddogfen.
2.5.2. Pan fwydwn wybodaeth i fersiynau Cymraeg o ffurflenni a anfonir at y cyhoedd, gwnawn ni hynny yn Gymraeg.
2.5.3. Pan fwydwn wybodaeth i ffurflenni dwyieithog a anfonir at y cyhoedd, gwnawn ni hynny yn y ddwy iaith oni wyddom y byddai’n well gan y sawl sy’n eu derbyn gael y wybodaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig.
2.5.4. Os bydd rhaid cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân (er enghraifft, os bydd dogfen unigol yn rhy faith neu swmpus), bydd y ddau fersiwn o’r un maint ac ansawdd a gwnawn ni’n siŵr bod y ddau fersiwn ar gael yr un pryd a’u bod yr un mor hygyrch. Byddwn yn nodi’n glir ar y fersiwn Saesneg bod y deunydd ar gael yn y Gymraeg hefyd.
2.5.5. Bydd y Comisiwn yn asesu’r angen i gyhoeddi ei lyfrau a’i bapurau technegol, a phapurau eraill yn ymwneud â chyfarfodydd y Bwrdd sydd ar gael i’r cyhoedd, yn Gymraeg. Byddwn yn defnyddio system sgorio, Atodiad 1, wrth wneud ein hasesiad. Gweler ein Hysbysiad Cydymffurfio ar gyfer yr eithriad a roddwyd mewn perthynas â Safon 36.
2.5.6. Os nad yw ar gael am ddim, ni fydd pris cyhoeddiad dwyieithog yn fwy na phris cyhoeddiad mewn un iaith, a bydd pris fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân yr un fath.
Nôl i ben y dudalen
2.6.1. Pan dargedwn ni’r cyhoedd yng Nghymru, caiff yr holl ddeunyddiau cyhoeddusrwydd, gwybodaeth gyhoeddus, arddangosfa a hysbysebu a ddefnyddiwn eu cynhyrchu’n ddwyieithog, neu fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Os bydd rhaid cyhoeddi’r fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd y ddau fersiwn yn gyfartal o ran eu maint, eu hamlygrwydd, eu hansawdd a’u hygyrchedd, a bydd y ddau fersiwn ar gael yr un pryd. Byddwn hefyd yn nodi’n glir ar y fersiwn Saesneg fod y deunydd ar gael yn y Gymraeg.
2.6.2. Cyhoeddir datganiadau i’r wasg a’r cyfryngau darlledu yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg, neu yn ôl dewis iaith y sefydliad cyfryngol neu’r cyhoeddiad a fydd yn eu derbyn.
2.6.3. Os bydd modd, gwnawn ni’n siŵr bod siaradwyr Cymraeg ar gael i roi cyfweliadau i’r wasg a’r cyfryngau darlledu Cymraeg.
2.6.4. Bydd yr holl destun ar gyfer arddangosfeydd neu arddangosiadau a drefnir gan y Comisiwn Brenhinol yn Gymraeg a Saesneg.
Nôl i ben y dudalen
2.7.1. Mae ein gwefan gorfforaethol (cbhc.gov.uk / www.rcahmw.gov.uk) yn llwyr ddwyieithog a cheir cyswllt uniongyrchol i’r dudalen Gymraeg ar y dudalen Saesneg gyfatebol.
2.7.2. Mae’r holl apps a gyhoeddwn yn ddwyieithog neu ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
2.7.3. Pan ddefnyddiwn gyfryngau cymdeithasol, byddwn yn trin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal.
2.7.4. Os ydynt ar gael, bydd fersiynau Cymraeg unrhyw bostiadau neu gyhoeddiadau’n cael eu postio’r un pryd â’r cyhoeddiad Saesneg ar ein gwefan.
2.7.5. Mae gan ein porth ar-lein i gronfa ddata Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), Coflein, ryngwyneb dwyieithog, ond mae’r data a adelwir yn uniongyrchol o gronfa ddata CHCC, sy’n cynnwys gwybodaeth mynegeio a chynnwys disgrifiadol, ar gael yn Saesneg yn unig. Gweler ein Hysbysiad Cydymffurfio ar gyfer yr eithriad a roddwyd mewn perthynas â Safon 48.
2.7.6. Yn ogystal â Coflein, mae gwefan Cymru Hanesyddol / Historic Wales yn darparu mynediad i gronfeydd data sefydliadau eraill yng Nghymru sy’n ymwneud â’r amgylchedd hanesyddol. Mae rhyngwyneb y wefan yn ddwyieithog, ond mae presenoldeb cynnwys Cymraeg ym mhob cronfa ddata yn dibynnu ar bolisi’r sefydliad gwesteia.
2.7.7. Os bydd dogfen (e.e. papur technegol) ar gael mewn un iaith yn unig, bydd modd ei chyrchu (drwy gyswllt neu fel arall) o’r dudalen gyfatebol yn yr iaith arall, a gwneir ei bodolaeth yr un mor amlwg i ddefnyddwyr yn y ddwy iaith.
Nôl i ben y dudalen
2.8.1. Os nad oes modd defnyddio symbol, byddwn yn sicrhau bod pob un o’n harwyddion parhaol a thros dro sy’n cyfleu gwybodaeth i’r cyhoedd yn ddwyieithog, ac y bydd y testun Cymraeg a Saesneg yn gyfartal o ran ei faint, ei eglurder a’i amlygrwydd. Pan fydd y ddwy iaith yn ymddangos ar yr un arwydd, bydd y Gymraeg fel rheol uwchlaw’r testun Saesneg neu i’r chwith ohono. Os darperir arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn gyfartal o ran fformat, maint, ansawdd ac amlygrwydd.
2.8.2. Byddwn yn sicrhau bod y testun Cymraeg ar arwyddion yn gywir o ran ystyr a mynegiant.
Nôl i ben y dudalen
2.9.1. Bydd y Comisiwn yn hyrwyddo’r gwasanaethau Cymraeg y mae’n eu darparu, ac yn hysbysebu’r gwasanaethau hynny yn Gymraeg.
Nôl i ben y dudalen
2.10.1. Mae gennym hunaniaeth gorfforaethol ddwyieithog yng Nghymru. Bydd ein henw, ein manylion cysylltu, ein logo a’n gwybodaeth safonol arall yn ymddangos yn Gymraeg a Saesneg ar bob deunydd sy’n dangos ein hunaniaeth gorfforaethol. Mae hynny’n cynnwys ein deunyddiau ysgrifennu a deunyddiau fel cardiau busnes, bathodynnau adnabod, slipiau cyfarch a gwahoddiadau. Caiff y geiriau Cymraeg a Saesneg arnynt eu trin yn gyfartal o ran eu maint, eu fformat, eu hansawdd, eu heglurder a’u hamlygrwydd. Pan fydd y ddwy iaith yn ymddangos ar yr un dudalen, bydd y Gymraeg fel rheol uwchlaw’r Saesneg neu i’r chwith ohoni.
2.10.2. Defnyddiwn ddeunydd brandio dwyieithog ar gyfer ein holl fentrau.
Nôl i ben y dudalen
Bydd polisïau a mentrau newydd neu ddiwygiedig yn gyson â’r polisi hwn. Byddant yn destun Asesiad o Effaith ar yr Iaith Gymraeg i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, i gefnogi defnyddio’r Gymraeg, ac i ystyried ffyrdd o gynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Byddant, pryd bynnag y bo modd, yn helpu’r cyhoedd yng Nghymru sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg fel rhan o’u bywyd pob dydd i wneud hynny.
Nôl i ben y dudalen
4.1.1. Mae i’r mesurau yn y polisi hwn awdurdod, cefnogaeth a chymeradwyaeth lawn ein sefydliad.
4.1.2. Gan y rheolwyr y bydd y cyfrifoldeb dros weithredu’r agweddau ar y polisi sy’n berthnasol i’w gwaith hwy.
4.1.3. Penodwn uwch aelod o’r staff i gydlynu’r gwaith sy’n ofynnol i gyflawni, monitro ac adolygu’r polisi hwn.
4.1.4. Rhoir cyhoeddusrwydd i’r polisi hwn ymhlith ein staff ni ac i’r cyhoedd yng Nghymru. Caiff ei gyhoeddi mewn man amlwg ar ein gwefan ochr yn ochr â’n Hysbysiad Cydymffurfio.
4.1.5. Cynhyrchwn gyfarwyddiadau desg, neu arweiniad tebyg, i’n staff i sicrhau eu bod yn gwybod sut mae gweithredu’r mesurau a gynhwysir yn y polisi hwn ac yn ein Hysbysiad Cydymffurfio.
4.1.6. Trefnwn sesiynau briffio a hyfforddi i’n staff i gynyddu eu hymwybyddiaeth o’r polisi hwn ac o’n Hysbysiad Cydymffurfio, ac i esbonio sut y bydd yn effeithio ar eu gwaith o ddydd i ddydd.
4.1.7. Wrth gomisiynu gwasanaethau i helpu i gyflawni’r polisi hwn, gwnawn yn siŵr ein bod ni’n defnyddio cyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd cymwysedig sydd â’r sgiliau priodol. Byddwn ni’n disgwyl i’r cyfieithwyr hyn fod yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu sefydliad tebyg.
4.1.8. Byddwn yn ymgymryd ag unrhyw fath o gysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru nad yw’r polisi hwn yn ymdrin yn benodol ag ef mewn ffordd sy’n gyson â’r egwyddorion cyffredinol a geir yn y polisi hwn.
Nôl i ben y dudalen
4.2.1. Mae gennym bolisi Cymraeg yn y Gweithle ar wahân, sydd wedi’i gyhoeddi ar ein mewnrwyd ac sy’n egluro sut yr ydym yn defnyddio’r Gymraeg yn fewnol er mwyn hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r iaith. Yn rhan o’r gwaith hwnnw, rydym wedi sefydlu Fforwm Defnydd y Gymraeg. Caiff y Fforwm ei gynnal yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n dod â chydweithwyr ynghyd, sy’n siaradwyr rhugl neu’n ddysgwyr uwch, er mwyn hyrwyddo ac annog defnydd o’r Gymraeg yn fewnol.
Nôl i ben y dudalen
Mae angen i bob rhan o’r sefydliad sydd â chyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru allu troi at ddigon o staff Cymraeg eu hiaith sydd â’r sgiliau priodol i ddarparu gwasanaeth llawn yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg. Caiff y gweithdrefnau canlynol eu gweithredu yn unol â hynny:
4.3.1. Byddwn yn nodi’r swyddi lle y mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol.
4.3.2. Cynhaliwn archwiliadau blynyddol i ddarganfod faint o’r staff sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg (gan gynnwys staff sy’n dysgu Cymraeg) yn ogystal â lefel eu gallu a’u lleoliad. Byddwn ni hefyd yn adnabod ac yn annog staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg.
4.3.3. Caiff canlyniadau’r ddau ymarfer hyn eu cymharu i weld ble mae prinder staff sy’n medru’r Gymraeg.
4.3.4. Ymatebwn i unrhyw brinder drwy ein gweithgareddau recriwtio a hyfforddi.
Nôl i ben y dudalen
4.4.1. Wrth recriwtio staff, gwnawn ni hynny yng ngoleuni’r wybodaeth a gasglwyd drwy ddilyn y gweithdrefnau a ddisgrifiwyd o dan Staffio.
4.4.2. Pan ystyrir ei bod hi’n ddymunol neu’n hanfodol i ymgeisydd fedru’r Gymraeg yn rhugl, nodir hynny yng nghymwyseddau’r swydd ac mewn hysbysebion.
4.4.3. Os penodir ymgeisydd nad yw’n medru’r Gymraeg i swydd lle y mae medru’r Gymraeg yn ddymunol, anogir y sawl a benodir i ddysgu Cymraeg.
4.4.4. Gellir penodi ymgeisydd nad yw’n medru’r Gymraeg i swydd lle yr ystyrir bod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol os gellir caniatáu amser i ddysgu’r iaith. Yn yr achosion hynny, bydd dysgu’r iaith hyd at y lefel ofynnol o gymhwysedd, ac o fewn cyfnod rhesymol y cytunir arno, yn un o’r amodau cyflogaeth.
4.4.5. Os na ellir dod o hyd i ymgeiswyr addas sy’n medru’r Gymraeg i lenwi swydd lle mae’r Gymraeg yn hanfodol (neu os penodir ymgeisydd na all siarad Cymraeg ond sy’n dysgu Cymraeg), gwnawn drefniadau dros dro i ddarparu gwasanaeth Cymraeg (er enghraifft, drwy ddefnyddio staff sy’n medru’r Gymraeg o ran arall o’n sefydliad i ddarparu rhannau o’r gwasanaeth).
4.4.6. Bydd pecynnau gwybodaeth a ffurflenni cais ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer pob un o’n swyddi.
4.4.7. Bydd lle ar ffurflenni cais ar gyfer swyddi lle y gall unigolion nodi eu bod yn dymuno defnyddio’r Gymraeg mewn cyfweliad neu mewn unrhyw sefyllfa asesu arall. Os bydd angen, darperir cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg.
Nôl i ben y dudalen
4.5.1. Anogir ein staff i ddysgu Cymraeg neu i wella’u Cymraeg, a byddwn yn cynorthwyo’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny.
4.5.2. Byddwn yn ariannu’r hyfforddiant angenrheidiol ac yn caniatáu i staff fynd ar gyrsiau yn ystod oriau gwaith.
Nôl i ben y dudalen
4.6.1. Os ni fydd arweinydd strategol ac ariannol partneriaeth, byddwn yn sicrhau bod unrhyw agweddau ar wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru yn cydymffurfio â’r polisi hwn ac â’r Safonau Iaith Gymraeg a roddwyd i ni.
4.6.2. Os ymunwn â phartneriaeth a arweinir gan sefydliad arall, bydd ein cyfraniad i’r bartneriaeth yn cydymffurfio â’r polisi hwn a cheisiwn annog y partneriaid eraill yng Nghymru i gydymffurfio.
4.6.3. Os byddwn ni’n bartner mewn consortiwm, byddwn yn annog y consortiwm i gydymffurfio â’r polisi hwn. Wrth weithredu yn enw’r consortiwm, byddwn yn gwneud hynny yn unol â’r polisi hwn yng Nghymru.
Nôl i ben y dudalen
4.7.1. Defnyddir system ffeilio gyfredol cofrestrfa’r Comisiwn i gadw’r holl gofnodion ynghylch yr iaith Gymraeg y mae ein Hysbysiad Cydymffurfio yn gofyn i ni eu cadw.
Nôl i ben y dudalen
4.8.1. Byddwn ni’n monitro ein cynnydd o ran cyflawni’r polisi hwn ac o ran cydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg yn unol â’n Hysbysiad Cydymffurfio.
4.8.2. Bydd ein gweithdrefnau monitro ac adrodd presennol yn cyfeirio at gynnydd o ran cyflawni’r polisi hwn, fel y bo’n briodol.
4.8.3. Byddwn yn paratoi adroddiadau monitro blynyddol sy’n amlinellu cynnydd o ran cyflawni’r polisi hwn ac o ran gweithredu ein Safonau a chydymffurfio â hwy.
Nôl i ben y dudalen
4.9.1. Byddwn yn adolygu’r polisi hwn bob tair blynedd. Ar ôl ei adolygu, caiff y polisi ei gymeradwyo gan y Comisiynwyr. Cynhelir yr adolygiad nesaf ym mis Mehefin 2026.
4.9.2. Hefyd, oherwydd newidiadau yn ein swyddogaethau, neu newidiadau yn yr amgylchiadau yr ydym yn ymgymryd â’r swyddogaethau hynny ynddynt, neu am unrhyw reswm arall, efallai y bydd angen i ni adolygu’r polisi hwn, neu gynnig diwygiadau iddo, o dro i dro.
Nôl i ben y dudalen
5.1.1. Rydym ni’n croesawu sylwadau neu awgrymiadau ar gyfer gwelliannau. Cewch gysylltu â ni yn chc.cymru@cbhc.gov.uk neu drwy ein ffurflen gysylltu ar-lein: https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/cysylltu-a-ni/
5.1.2. Os oes gennych bryder neu gwyn ynghylch cydymffurfiad y Comisiwn â Safonau’r Gymraeg, byddwch cystal â chyfeirio at Bolisi Cwynion y Comisiwn: https://cbhc.gov.uk/amdanom-ni/gwybodaeth-gorfforaethol/polisiau/polisi-cwynion/
Nôl i ben y dudalen
Diben y ddogfen hon yw cynnig dull i helpu’r Comisiwn Brenhinol i benderfynu a ddylid cyhoeddi deunydd yn y Gymraeg ai peidio, boed y deunydd hwnnw’n ddogfen ddwyieithog neu’n fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, os nad oes safon sy’n gofyn i ni ddarparu’r ddogfen yn y Gymraeg.
Ni fwriedir i’r system sgorio fod yn gyfarwyddiadol nac yn anhyblyg. I’r gwrthwyneb, dylid ei defnyddio i helpu i benderfynu ar y ffordd ymlaen ym mhob achos unigol. Cymerir pob mater perthnasol, gan gynnwys y costau a’n rhaglen gyhoeddi at y dyfodol, i ystyriaeth. Os penderfynir peidio â gweithredu yn unol â’r system sgorio, dylai grŵp y prosiect esbonio pam wrth Grŵp Monitro’r Iaith Gymraeg.
Dylid cadw’r ddogfen sgorio ar ffeil ar gyfer pob cyhoeddiad, fel cofnod o’r broses sgorio.
1. Nifer y copïau sydd i’w hargraffu bob blwyddyn i’w defnyddio yng Nghymru:
1 – 500: 500 – 5000: mwy na 5000: |
sgôr = 4 sgôr = 2 sgôr = 1 |
2. Y gynulleidfa darged:
arbenigwyr ac academyddion: pobl broffesiynol, myfyrwyr[1] ac eraill sydd â diddordeb yn nhreftadaeth Cymru: y cyhoedd ac ysgolion[2]: |
sgôr = 0 sgôr = 5 sgôr = 10 |
[1] Myfyrwyr mewn addysg drydyddol ac uwch.
[2] Ysgolion Cynradd ac Uwchradd yng Nghymru.
3. A fydd y cyhoeddiad yn berthnasol i faes sydd o ddiddordeb arbennig o ran yr iaith Gymraeg neu i ardal sydd â chanran uchel, neu nifer fawr, o siaradwyr Cymraeg?
bydd: na fydd: |
sgôr = 8 sgôr = 0 |
4. Am faint y defnyddir y cyhoeddiad?
0 – 6 mis: 6 mis – 2 flynedd: mwy na 2 flynedd: |
sgôr = 1 sgôr = 2 sgôr = 4 |
5. Nifer y geiriau yn y cyhoeddiad:
0 – 1000: 1000 – 5000: mwy na 5000: |
sgôr = 4 sgôr = 2 sgôr = 1 |
6. Yr amcangyfrif gorau o nifer y tudalennau fel fersiwn uniaith o’r cyhoeddiad:
1 – 10: 10 – 25: mwy na 25: |
sgôr = 4 sgôr = 2 sgôr = 1 |
Dylid adio’r sgorau – a’u cymharu â’r canlynol:
Penderfynu ar fersiwn papur o’r cyhoeddiad:
0 – 14: 15 – 18: mwy na 18: |
Nid oes angen paratoi fersiwn Cymraeg. Dylid rhoi ystyriaeth o ddifrif i’r angen i baratoi fersiwn Cymraeg. Mae angen paratoi fersiwn Cymraeg. |
Penderfynu ar fersiwn electronig o’r cyhoeddiad (i’w gynnwys ar ein gwefan ac ati). Anwybyddwch gwestiynau 1 a 6 wrth i chi gyfrifo’r sgôr hon:
0 – 11: 12 – 14: . mwy na 14: |
Nid oes angen paratoi fersiwn Cymraeg. Dylid rhoi ystyriaeth lawn i’r angen i lunio fersiwn Cymraeg (ond dylid llunio crynodeb Cymraeg o leiaf). Mae angen paratoi fersiwn Cymraeg. |
Cyhoeddiadau copi caled
Y man cychwyn y dylid ei ddefnyddio ar gyfer cyhoeddiadau copi caled yw rhagdybio o blaid dogfennau dwyieithog yn hytrach na fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Mae darparu deunydd dwyieithog yn haws yn weinyddol (o ran rheoli stoc a dosbarthu) na darparu dogfennau Cymraeg a Saesneg ar wahân. Mae manteision iddo hefyd o ran diwallu anghenion teuluoedd cymysg eu hiaith, cynulleidfaoedd cymysg eraill a dysgwyr. Bydd hefyd yn sicrhau bod y ddau fersiwn o’r ddogfen yr un mor hygyrch mewn unrhyw leoliad ac yn osgoi’r angen i siaradwyr Cymraeg ddewis rhwng defnyddio’r fersiwn Saesneg neu ofyn am y fersiwn Cymraeg a gorfod wynebu oedi wrth aros amdano.
Er hynny, gellir penderfynu cyhoeddi dogfen fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân os bydd costau ac ymarferoldeb yn golygu bod cyhoeddi fersiynau ar wahân yn anochel. Gall hyn ddigwydd oherwydd nifer y tudalennau yn y ddogfen (os bydd paratoi fersiwn dwyieithog ohoni’n ei gwneud hi’n rhy swmpus ac anhydrin).
Cyhoeddiadau electronig ar ein gwefan gorfforaethol
Yn achos deunydd a gyhoeddir yn electronig ar ein gwefan gorfforaethol, gall dogfennau gael eu cyhoeddi fel fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân oherwydd y bydd cyswllt uniongyrchol i’r dudalen gyfatebol yn yr iaith arall.
Serch hynny, ein harfer safonol yn achos deunydd hyrwyddo sy’n debygol o gael ei ledaenu neu ei argraffu fydd ei gyhoeddi’n ddwyieithog mewn un ddogfen.
I lawrlwytho’r ddogfen hon fel ffeil PDF, cliciwch yma: CBHC Polisi Iaith Gymraeg 2023-26
![]() |
Mae’r ddogfen hon ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. |