Abermagwr Roman cut glass vessel

Amgueddfa Ceredigion i arddangos Gwydr Nadd Rhufeinig Prin

Mae partneriaeth rhwng Amgueddfa Ceredigion a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru wedi denu £1,000 o gyllid gan y Gymdeithas Archaeoleg Rufeinig i arddangos darnau o lestr wydr Rhufeinig a ddarganfuwyd yn y fila Eingl-Rufeinig yn Abermagwr.  

Darganfuwyd y fila yn Abermagwr yn ystod awyrluniau yn 2006 a’i gloddio gan Dr Jeffrey L. Davies a Dr Toby Driver rhwng 2010 a 2015, mewn prosiect cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr. Mae’n parhau i fod yr unig fila Rufeinig hysbys yn y sir a’r fila Rufeinig fwyaf anghysbell yng Nghymru. Ymchwiliwyd i’r darganfyddiadau dros amser ac mae’r gorau wedi’u harddangos yn gyhoeddus yn Amgueddfa Ceredigion. Mae’r darganfyddiadau’n cynnwys rhannau o do llechi cynharaf hysbys Ceredigion, sydd ond yn un o’r datblygiadau arloesol a ddarganfuwyd yn y fila.

Delwedd o Abermagwr wedi'i lunio gan Toby Driver 2018

Y darnau gwydr nadd Rhufeinig yw’r darganfyddiadau mwyaf diweddar a roddwyd i’r amgueddfa. Bydd grant y GAR/ARA yn ariannu mownt pwrpasol, a wnaed gan arbenigwr amgueddfa, i alluogi’r darnau gwydr cain gael lle blaenllaw yn oriel archeoleg yr Amgueddfa. Mae gwydr nadd Rhufeinig yn brin; dim ond un diodlestr gwydr nadd sy’n cael ei arddangos yn barhaol yn yr Amgueddfa Brydeinig ac mae dyluniad gwydr Abermagwr yn unigryw ym Mhrydain Rufeinig. Cafodd yr Athro Jennifer Price ei tharo gan brinder ac ansawdd y llestr wydr gan ei disgrifio fel ‘o ansawdd rhagorol o uchel…. [Rhaid bod] wedi bod yn eitem anhygoel o foethus. Mae ei ansawdd yn sylweddol uwch na gweddill y llestri gwydr a geir yn y fila’.

Dywedodd yr Athro Barry Burnham o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, Llanbed, “Mae ei ddarganfyddiad mor bell i’r gorllewin yng Nghymru yn bwysicach fyth oherwydd ei fod yn llawer uwch na’r ystod gyffredinol o ddeunydd gwydr a geir yn unrhyw le yn y wlad. Mae hyn yn codi cwestiynau diddorol ynglŷn â sut y daeth i fod yma, pwy oedd yn berchen arno, a’r hyn y mae’n ei ddynodi o ran statws cymdeithasol a chysylltiadau economaidd.”

Dywedodd Carrie Canham, Curadur “Pan oeddwn i yn yr ysgol fe’n dysgwyd nad oedd gan y Rhufeiniaid bresenoldeb sylweddol yng Ngorllewin Cymru, ond mae canlyniadau cloddio lleol wedi gwyrdroi’r dybiaeth honno. Mae’r gwrthrych rhyfeddol hwn yn dangos bod y fila yn Abermagwr yn gartref i Rufeiniaid cymharol gyfoethog a oedd yn mwynhau’r pethau da mewn bywyd. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r GAR/ARA am y cyllid a fydd yn galluogi ymwelwyr â’r amgueddfa i’w weld yn cael ei arddangos ar ei orau.”

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â Chyfrifoldeb am Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Mor hyfryd yw clywed hanes y gwydr nadd Rufeinig prin yma yng Ngheredigion. Diolch i Carrie a’r tîm yn Amgueddfa Ceredigion a Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru am eu gwaith a’r Gymdeithas Archaeoleg Rufeinig. Edrychwn ymlaen at y diwrnod y medrwn weld y darnau yn eu holl ogoniant.”

Mae pandemig Covid-19 wedi gohirio’r gwaith o greu’r mownt tan yn ddiweddarach yn 2021. Mae’r darnau gwydr yn rhy fregus i’w danfon at y crefftwr sy’n gwneud y mownt, felly bydd yn rhaid iddo ddod i Aberystwyth a sefydlu gweithdy dros dro yn yr amgueddfa. Yna bydd y darnau yn cael eu harddangos ar unwaith.

Llestr Rhugeinig Abermagwr o gwydr wedi'i dorri

http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/newyddion/amgueddfa-ceredigion-i-arddangos-gwydr-nadd-rhufeinig-prin/

01/21/2021

guest
0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x