Anifeiliaid yn yr Archif: Archwilio anghysondebau archifol

Rhif Archif: 6430556
Cerfiad ar ochr mainc yn Eglwys Sant Marc, Brithdir,

Bydd llawer o bobl yn dweud wrthych mai un o bleserau mawr archwilio archifau yw darganfod gwybodaeth nad oeddech chi’n chwilio amdani yn hytrach na’r wybodaeth roeddech chi ei heisiau mewn gwirionedd! Bydd y darganfyddiad yn aml yn ddeunydd annisgwyl yn ymwneud â’r pwnc, lle neu unigolyn rydych chi’n ymchwilio iddo, ond weithiau gall fod ar ffurf cofnodion nad oeddech chi’n chwilio amdanynt a hynny ar bwnc hollol wahanol. 

Er y gall ymchwilio ymhellach i’r darganfyddiadau hyn eich arwain ar gyfeiliorn, maen nhw’n gwneud ymchwil archifol yn antur hynod ddifyr i feysydd newydd. Mae hyn yr un mor wir yn achos staff archifdai, sydd yr un mor dueddol (yn fwy tueddol efallai!) i ddiflannu i lawr tyllau cwningod…

Fel y gŵyr y rhan fwyaf ohonoch, arbenigedd y Comisiwn Brenhinol yw astudio amgylchedd hanesyddol adeiledig Cymru, yn hytrach na phlanhigion ac anifeiliaid ei hamgylchedd naturiol. Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) yw ein harchif genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Ceir ynddi wybodaeth, lluniadau, llawysgrifau, adroddiadau, ffotograffau, a chofnodion digidol yn ymwneud â mwy na chan mil o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol. Ni fyddech felly’n disgwyl dod o hyd i unrhyw anifeiliaid yn y Cofnod, ond mae digon ohonynt i’w gweld os edrychwch yn ofalus.

Cyn mynd ymlaen, fe ddylwn i bwysleisio fy mod i, wrth sôn am ‘anifeiliaid yn y Cofnod’, yn golygu ffotograffau a delweddau o anifeiliaid sydd i’w cael yn ffeiliau’r archif ac NID anifeiliaid sy’n crwydro’n rhydd yn y storfeydd. Mae ein harchifyddion yn llym iawn ynglŷn â’r ail…

Gallaf gynnig tri rheswm da iawn pam mae rhai anifeiliaid yn stelcian yn CHCC:

Yn gyntaf, mae portreadau o anifeiliaid yn rhan annatod o rai agweddau ar amgylchedd hanesyddol Cymru, er enghraifft, cerfiadau, murluniau a cherfluniau. Felly maen nhw o ddiddordeb i’r Comisiwn Brenhinol ac fe’u cynhwysir yn CHCC fel nodweddion diddorol a manylion adeiladau hanesyddol a safleoedd eraill.

Yn ail, mae gennym anifeiliaid a gynhwyswyd yn anfwriadol mewn ffotograffau, yn aml gan staff arolygu’r Comisiwn wrth iddynt dynnu lluniau o safleoedd hanesyddol.

Gwartheg, defaid a cheffylau yw rhai o’r anifeiliaid sy’n ymddangos amlaf yng nghefndir neu flaendir ffotograffau o safleoedd hanesyddol. Er y gallant fod yn niwsans a gorchuddio’r heneb rydyn ni’n ceisio tynnu ei llun, gallant hefyd fod yn ddefnyddiol iawn i ymchwilwyr drwy, er enghraifft, roi amcan o raddfa neu o ddefnydd neu gyflwr y safle.

Gall anifeiliaid hefyd fod yn rhan annatod o bwrpas neu ddiddordeb safle, megis bywyd gwyllt brodorol eiconig. Yn wir, mae weithiau’n anodd dweud ai’r anifail neu’r safle yw prif destun y ffotograff. Yn achlysurol iawn rydych chi’n cael yr argraff mai’r lleoliad hanesyddol sy’n dod yn ail! 

Yn olaf, y drydedd ffordd y gall anifeiliaid wneud eu ffordd i CHCC yw wrth i ni ddilyn arfer archifol. Un o egwyddorion allweddol arfer archifol yw cyfanrwydd y casgliad neu sancteiddrwydd y grŵp archifol, y cyfeirir ato weithio fel respect des fonds. Mae llawer o’r casgliadau yn CHCC wedi’u rhoi gan sefydliadau neu unigolion. Maen nhw’n ymwneud yn aml ag un safle hanesyddol, e.e. o arolwg archaeolegol. Sut bynnag, mae rhai rhoddion, yn enwedig rhai gan unigolion, yn cwmpasu amrywiaeth o safleoedd ac ardaloedd. Mewn achosion o’r fath, lle mae’r casgliad yn ymdrin â nifer o bynciau neu dopigau, mae weithiau’n fwy priodol iddo gael ei roi i archif arall e.e. Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu archif sirol. Ond os yw’r rhan fwyaf o’r deunydd yn ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru fe fyddwn ni fel rheol yn derbyn y rhodd gyfan er mwyn cadw cyfanrwydd y casgliad, yn unol â’n Polisi Casglu. Drwy ganiatáu i ychydig o ddeunydd amherthnasol ddod i mewn i’r archif rydyn ni’n cynnal cyd-destun yn ogystal â pherthnasoedd gwreiddiol y cofnodion.

Mae egwyddor respect des fonds hefyd yn cyfrif am y dyrnaid o enghreifftiau o ddeunydd archifol CHCC sy’n ymwneud â safleoedd y tu allan i Gymru, gan gynnwys y delweddau isod o gasgliad Arthur Chater.

Gobeithiaf fod y ffotograffau hyn wedi dangos bod natur archifau – yn archif CHCC neu mewn unrhyw archif arall – yn ei gwneud hi’n anochel y dewch o hyd i bethau anarferol ac annisgwyl.

Nid yw’r tri rheswm neu gategori rydw i wedi’u hawgrymu yn annibynnol ar ei gilydd nac wedi’u gosod mewn carreg, ond maen nhw’n cwmpasu’r holl enghreifftiau rydw i wedi dod ar eu traws hyd yma. Fodd bynnag, efallai bod esboniad symlach, sef bod Cymru’n wlad sy’n llawn anifeiliaid a phobl sy’n caru anifeiliaid.

Rhodri E Lewis, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell.

09/14/2021

guest

Security code *

2 Comments
Newest
Oldest Most Voted
Inline Feedbacks
View all comments
Vivian Lewis
Vivian Lewis
1 year ago

Diddorol iawn wir. Wedi’r cyfan pwy sy’ ddim yn hoffi anifeiliaid ?

Rhodri
Rhodri
1 year ago
Reply to  Vivian Lewis

Diolch yn fawr. Cytuno’n llwyr!

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

2
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x