
Animeiddiadau, Ailgreadau a Theithiau’r Comisiwn Brenhinol #DarganfodGartref
Am 10 mlynedd a mwy bu’r Comisiwn Brenhinol yn gweithio’n agos â’i bartneriaid a chwmnïau animeiddio i ddod â’r gorffennol yn fyw. Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn yn mynd drwy ein catalog ac yn dangos rhai o’n hoff animeiddiadau, ailgreadau, hediadau-trwodd a theithiau rhyngweithiol y bu ein hymchwilwyr yn gweithio arnynt ar hyd y blynyddoedd.

Felly, os ydych chi erioed wedi meddwl sut mae arddulliau tai wedi newid ar hyd y canrifoedd, wedi pendroni ynghylch sut y codwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte, neu wedi ysu cael gwybod sut yn union yr oedd chwarel lechi neu fwynglawdd metel yn gweithio – fe ddaw’r cyfan yn glir i chi.
Chwith: Llun llonydd o fodel 3D yn dangos un o rychwantau Traphont Ddŵr Pontcysyllte.
Bob wythnos fe fydd y cyfrif trydar @RC_Survey yn dod ag adnodd digidol newydd i chi #DarganfodGartref. Drwy gydol yr wythnos dan sylw byddwn hefyd yn postio gwybodaeth ychwanegol am y safle neu thema ar bob un o gyfrifon cyfryngau’r Comisiwn.
- Facebook: Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales
- Twitter: @RCAHMWales, @RC_Survey, @RC_Archive a RC_Enwau Lleoedd
Os na allwch aros tan yr wythnos nesaf, dyma un a bostiwyd gennym yn ddiweddar, sef hediad drwy gwmwl pwyntiau a gynhyrchwyd gan laser-sganiwr yn Ffynnon Gwenffrewi, Treffynnon. Cynhyrchwyd y ffilm gan Luminous a’r Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd fel rhan o’r prosiect “Teithwyr Ewropeaidd i Gymru” a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.
Mae llawer mwy o wybodaeth am y safle i’w chael ar Coflein ac ar wefan Teithwyr Ewropeaidd i Gymru.
Sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol
Ewch i sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol i weld ein dewis llawn o animeiddiadau ac ailgreadau digidol.



Louise Barker a Susan Fielding, Uwch Ymchwilwyr
22/04/2020