
Ar Drywydd Pryderi, Brenin Dyfed
Mae stori bywyd arwrol y cymeriad mytholegol Pryderi yn cael ei chyflwyno yn y Mabinogi, cyfres o chwedlau Cymraeg cynnar a adroddwyd gan feirdd a storïwyr i ddifyrru eu cynulleidfaoedd.
Mae’r un ar ddeg o chwedlau sydd wedi goroesi yn dyddio o’r 12fed ganrif ond mae’n debyg yr adroddid hwy ar lafar am ganrifoedd cyn hynny. Maent yn cynnwys cliwiau sy’n lleoli’r straeon hyn mewn lleoedd go iawn y gellir ymweld â nhw heddiw. Mab Pwyll, Brenin Dyfed oedd Pryderi. Ganed ef yn Arberth, Sir Benfro. Mae’n diflannu ar noson ei enedigaeth ac mae ei fam, Rhiannon, yn cael y bai am ladd ei mab ac yna’i fwyta! Ymddengys i Gastell Arberth gael ei godi gan y teulu Perrot yn 1092, ac iddo gael ei ailadeiladu yn y 13eg ganrif. Mae’n bosibl i’r castell gael ei godi ar safle maenor (canolfan weinyddol) Gymreig, sy’n cynnig cyd-destun ychwanegol i chwedl Pryderi yn y Mabinogi. Mae’r castell ar agor i’r cyhoedd.

Deuwn ar draws Pryderi nesaf yn chwedl Teyrnon, Arglwydd Gwent Is Coed. Mae Teyrnon yn dod o hyd i Bryderi ac yn ei enwi’n Gwri Wallt Euryn. Mae Pryderi’n tyfu’n oedolyn yn gyflym iawn ac fe’i cydnabyddir yn fab i Bwyll. Caiff ei faethu gan Pendaran Dyfed, yn unol â’r drefn ar gyfer plant brenhinol, ac mae’n cael y gwaith o ofalu am y moch. Mae Pryderi yn datblygu i fod y dewraf a’r mwyaf golygus o wŷr ifanc Dyfed (a oedd yn cynnwys Sir Benfro). Mae’n priodi Cigfa, merch fonheddig Gwyn Glohoyw (o Gaerloyw). Roedd Is Coed yn gantref pwysig a chyfoethog yn cynnwys aneddiadau hynafol fel Caerllion (Isca yn Lladin), a oedd yn safle milwrol Rhufeinig pwysig, a Chaer-went (Venta Silurum yn Lladin), pencadlys llwyth y Silwriaid. Mae Nant Teyrnon yn llifo heibio Cwmbrân ger Abaty Llantarnam, abaty Sistersaidd a sefydlwyd tua 1179 fel cangen o Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion ac sydd nawr yn gwfaint. Mae posibilrwydd bod Llantarnam wedi’i enwi ar ôl Nant Teyrnon.

Nawr mae Pryderi’n chwilio am anturiaethau newydd. Â gyda Bendigeidfran, Brenin Prydain, i Iwerddon i ddial cam Branwen, chwaer Bendigeidfran sy’n cael ei chamdrin gan ei gŵr, Matholwch, Brenin Iwerddon. Cawr yw Bendigeidfran sy’n gallu cerdded ar draws Môr Iwerddon. Ceir nifer o frwydrau lle mae’r ddwy ochr yn defnyddio pwerau goruwchnaturiol, gan gynnwys pair dadeni sy’n dod â’r meirw’n ôl yn fyw. Saith rhyfelwr yn unig sy’n goroesi, gan gynnwys Pryderi, ac maent yn dychwelyd gyda phen byw Bendigeidfran i Harlech lle maen nhw’n byw am saith mlynedd ac yn cael eu swyno gan gân y tri aderyn hud a anfonwyd atynt gan Rhiannon, mam Pryderi. Ni chafwyd tystiolaeth archaeolegol hyd yn hyn sy’n awgrymu bod castell Cymreig yn Harlech cyn i Edward I adeiladu ei gadarnle (erbyn 1289), er bod gan Dywysogion Gwynedd faerdref (tir brenhinol) gerllaw yn Ystumgwern.

Yna, mae’r rhyfelwyr yn symud i Ynys Gwales (Grassholm oddi ar arfordir Penfro o bosibl) ac maen nhw’n byw mewn castell yno am bedwar ugain mlynedd gan anghofio’n llwyr am eu trafferthion nes i Heilyn agor y drws gwaharddeddig sy’n wynebu Cernyw gan ddod â’r holl atgofion yn ôl. Er mwyn atal goresgynwyr, mae’r rhyfelwyr yn sylweddoli bod angen iddynt gwblhau’u tasg a chladdu pen Bendigeidfran yng Ngwynfryn, Llundain (safle Tŵr Llundain fe dybir) yn wynebu Ffrainc. Er nad oes neb yn byw ar Gwales bellach, mae tystiolaeth o adeiladau cynnar ar yr ynys, sy’n gartref i 10 y cant o huganod y byd.

Yn dilyn ei anturiaethau yn Iwerddon, a’i dad Pwyll bellach wedi marw, mae Pryderi yn dychwelyd at ei wraig, Cigfa, ac yn perswadio un o’i gyd-ryfelwyr, Manawydan, brawd Bendigeidfran, i briodi Rhiannon, gweddw Pwyll. Pan ddychwelant i Arberth, caiff Dyfed ei throi’n ddiffeithwch drwy hud ac, o ganlyniad, ânt i Loegr. Ar ôl dychwelyd i Ddyfed, mae Pryderi’n mentro braidd wrth ddilyn baedd gwyn i gastell a chaiff ei swyngyfareddu gan ddysgl aur. Caiff ei fam, Rhiannon, ei swyngyfareddu hefyd wrth chwilio am ei mab, ac mae’r ddau ohonynt ynghyd â’r castell yn diflannu. Rhaid i Manawydan dorri’r hud a grëwyd gan y dewin Llwyd ap Cil Coed. Yn ôl y chwedl, roedd cartref Llwyd ym Mhorth Cerddin, ac awgrymir mai Porth Mawr yw hwn ger Tyddewi ym Mhenfro.

Yna, daw moch unwaith eto i’r stori. Mae Pryderi’n derbyn moch hud gan Arawn, Arglwydd Annwn, ond caiff ei dwyllo gan Gwydion, dewin o Wynedd. I ddial, mae Pryderi yn ymdeithio i’r gogledd gyda’i fyddin ond caiff ei drechu gan Math mab Mathonwy, Brenin Gwynedd, mewn brwydr a leolir rhwng Maenor Penardd a Maenor Pen Alun. Awgrymir bod lleoliad Maenor Penardd ger Dinas Dinlle, yn nhrefgordd Penardd. Safle caer bwysig o’r Oes Haearn yw Dinas Dinlle, a chafwyd olion Rhufeinig yno yn ogystal.

Mae Pryderi’n ffoi ar hyd hen ffordd trwy Garndolbenmaen ond mae’r ddwy ochr yn parhau i frwydro. Gwneir penderfyniad i orffen y brwydro trwy gael ymladdfa rhwng Pryderi a Gwydion yn unig. Mae’r ornest yn digwydd yn Felen Rhyd ger aber afon Dwyryd nid nepell o Faentwrog. Mae Gwydion gyda chymorth ei bwerau hud a lledrith yn llwyddo i orchfygu Pryderi o’r diwedd. Yn ôl traddodiad, y maen hir ger eglwys Sant Twrog, Maentwrog, yw ei garreg fedd. Ceir straeon eraill sy’n honni bod Pryderi wedi’i gladdu yn Aber Gwenoli yng Nghoed Felen Rhyd, ger gorsaf drydan-dŵr Maentwrog a adeiladwyd yn 1928. Mae’n ddiddorol nodi bod fferm fechan gerllaw o’r enw Tyddyn Dewin. Yn dilyn bywyd hynod gyffrous, claddwyd Pryderi mewn man heddychlon yng Nghoed Felen Rhyd lle mae llawer o lwybrau troed. Ei anian fyrbwyll a oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am ei gwymp a’i farwolaeth ymhell o’i gartref yn Nyfed. Serch hynny, mae chwedlau’r Mabinogi’n ei barchu fel ffigur arwrol o bwys.

Ywain Tomos, Cynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell
10/27/2020