
Ar Ganiad y Ceiliog: Y Plygain – Gwasanaeth Nadolig Ben Bore yng Nghymru
Yng Nghymru, mae gwasanaeth unigryw yn cael ei gynnal mewn eglwysi a chapeli o amgylch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, sef y Plygain. Credir bod y gair Cymraeg ‘Plygain’ yn deillio o’r Lladin, pulli canto, neu gân y ceiliog, gan fod y gwasanaethau yn wreiddiol yn cael eu cynnal yn gynnar iawn yn y bore.

Goroesodd y gwasanaeth yn dilyn y Diwygiad Protestannaidd ac fe’i cynhelid yn gyffredin yn eglwysi Cymru am 5 neu 6 o’r gloch fore Nadolig. Erbyn yr 20fed ganrif, roedd y gwasanaeth wedi darfod i raddau helaeth ac eithrio yng nghefn gwlad sir Drefaldwyn a rhannau o sir Feirionnydd, er bod fy nain yn cofio mynychu gwasanaeth Plygain yn eglwys Llangennech, Sir Gaerfyrddin yn y 1920au. Er mwyn cadw’n effro tan y wawr, byddai llawer o deuluoedd yng ngogledd Cymru yn gwneud cyflaith (taffi) ar Noswyl Nadolig. Roedd gwasanaeth Plygain yn cynnwys darlleniad neu bregeth gan y ficer neu’r gweinidog ond byddai’r gynulleidfa fawr yn aros yn eiddgar i’r carolau ddechrau. Canwyd carolau Plygain i alawon gwerin gan unigolion neu grwpiau bach. Nid oedd unrhyw drefn: byddai pobl yn cerdded i fyny o flaen pawb ac yn canu eu carol, weithiau o’u llyfr carolau teuluol eu hunain. Ni fyddai unrhyw garol yn cael ei chanu ddwywaith a byddai’r gynulleidfa werthfawrogol yn llenwi’r eglwys tan 8 o’r gloch pan fyddai brecwast yn cael ei weini yn y tafarndai lleol.
Eglwys y Santes Fair, Dolgellau
Cafodd gwasanaeth Plygain yn Eglwys y Santes Fair, Dolgellau yn y 1830au ei ddisgrifio gan William Payne ym 1895. Cofiai fel y byddai’r strydoedd yn gynnar fore Nadolig yn atseinio gyda sŵn clocsiau wrth i bobl frysio i gael sedd dda yn yr eglwys. Roedd yr eglwys wedi’i haddurno â chanwyllyrau wedi’u gwneud o dun. Rhoddwyd celyn o gwmpas y canhwyllau cyn codi’r canwyllyrau i’r to. Cerddodd Siôn Robert, y crydd, a’i wraig i flaen y gynulleidfa a chanu carol draddodiadol boblogaidd i ddechrau’r gwasanaeth. Dilynwyd hyn gan emyn a phregeth y ficer cyn i grwpiau eraill ganu eu carolau tan tua 8 o’r gloch pan oedd pawb yn barod am frecwast. Cystadlai’r tafarndai yn frwd am gwsmeriaid ac ystyrid mai Robert Williams, landlord y Skinner’s Arms, ac Evan Jones o’r Swan oedd yn darparu’r prydau gorau. Yn y prynhawn fe fyddai’r to ifanc yn dathlu’r diwrnod trwy chwarae pêl-droed yn y stryd.
Ailadeiladwyd Eglwys y Santes Fair, Dolgellau ym 1716 gan fod yr eglwys ganoloesol wedi mynd â’i phen iddi. Gwnaed y cyfeiriad cynharaf at eglwys yn Nolgellau ym 1254 a nododd llawer o deithwyr y traddodiad o grogi’r clychau yn y coed yw ym mynwent yr eglwys. Mae’r eglwys bresennol wedi’i hadeiladu o gerrig lleol a defnyddiwyd trawstiau derw enfawr i greu’r arcedau rhwng corff ac ystlysau’r eglwys – yn ôl traddodiad, cawsant eu cludo o Ddinas Mawddwy dros Fwlch yr Oerddrws gan wedd o ychen. Mae’n bosibl bod rhannau o’r tŵr yn hŷn na 1716 ac mae corffddelw Meurig ap Ynyr Fychan, Arglwydd Nannau, o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn sicr yn dyddio’n ôl i’r eglwys ganoloesol. Nodwedd ryfedd ar rai o’r cerrig beddau yw’r byrddau gemau a marciau eraill a dorrwyd arnynt ar ôl iddynt gael eu codi.
Eglwys Sant Tydecho, Mallwyd
Goroesodd y traddodiad hefyd yn eglwys Sant Tydecho, Mallwyd ac yn ddiweddar cafodd ei adfywio gan gantorion lleol. Credid bod Tydecho yn sant o’r 6ed ganrif a oedd yn hanu o Lydaw ac a oedd yn enwog am amddiffyn anifeiliaid a’r gorthrymedig. Mae arddull yr eglwys bresennol yn nodweddiadol o Sir Drefaldwyn ac mae ganddi dŵr pren ag arysgrif mewn Lladin, ‘SOLI DEO SACRUM ANNO CHRISTI MDCXL’ (‘Dim ond Duw sy’n sanctaidd, ym mlwyddyn Crist 1640’). Ailadeiladwyd yr eglwys ganoloesol gan Dr John Davies ar ôl dod yn ficer yno ym 1604. Roedd John Davies yn ffigur pwysig ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn enwedig am ei gyfraniad at gyfieithu Beibl Cymraeg 1640. Roedd hefyd yn adeiladydd pontydd brwd ac mae tair o’i bontydd wedi goroesi ym Mallwyd. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, cloddiwyd dau asgwrn mawr, y credir eu bod yn esgyrn morfil, yng Nghae Llan gerllaw. Fe’u gosodwyd uwchben porth yr eglwys. Roedd Mallwyd yn ddrwgenwog yn yr unfed ganrif ar bymtheg fel ardal ‘Gwylliaid Cochion Mawddwy’, a fyddai’n ymosod ar deithwyr ac a laddodd y Barwn Lewis Owain.
Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-yng-Ngwynfa
Roedd Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Sir Drefaldwyn yn lleoliad poblogaidd ar gyfer gwasanaethau Plygain. Pentref gwledig sy’n enwog gan ei fod yn fan geni’r emynyddes nodedig Ann Griffiths yw Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Bu farw Ann yn 29 oed ym 1805 ac mae ei hemynau wedi goroesi gan iddynt gael eu dysgu ar gof gan ei morwyn a’i ffrind Ruth Roberts. Cenid un o emynau Ann Griffiths, ‘Rhyfedd, rhyfedd gan yr angylion’, fel carol Plygain. Codwyd eglwys newydd ym 1863 yn lle’r eglwys wreiddiol o’r drydedd ganrif ar ddeg, ond cadwyd ei chloch ganoloesol. Ym mis Ionawr 2020, daeth dros 200 o bobl i’r eglwys ar gyfer y gwasanaeth Plygain olaf i’w gynnal yno cyn i’r eglwys gau.
Eglwys Sant Myllin, Llanfyllin
Cadwodd tref Llanfyllin ger y Trallwng yn sir Drefaldwyn y traddodiad Plygain yn fyw a gwnaed canhwyllau Plygain arbennig yno i oleuo’r eglwys ar gyfer y gwasanaeth. Derbyniodd Llanfyllin ei siarter ym 1293 gan Llywelyn ap Gruffudd ap Wenwynwyn o Bowys. Roedd yn dref lewyrchus oherwydd ei diwydiannau bragu, gwlân a thrin crwyn. Mae eglwys Sant Myllin o darddiad hynafol. Yn ôl yr hanes, mynach o Iwerddon oedd Sant Myllin a sefydlodd yr eglwys yn y 7fed ganrif. Adeiladwyd yr eglwys bresennol o frics coch lleol ym 1706, ar adeg o ffyniant. Mae’r gwasanaethau Plygain yn cael eu cynnal heddiw yn y Tabernacl, Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, a sefydlwyd ym 1805. Codwyd y capel presennol ym 1905 yn ystod y Diwygiad Crefyddol. Mae adroddiadau am wasanaethau Plygain o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dangos bod Anglicaniaid ac Anghydffurfwyr yn ymuno yn yr eglwys ar gyfer gwasanaethau Plygain. Ond erbyn heddiw mae dirywiad y Gymraeg wedi arwain at gynnal gwasanaethau Plygain mis Rhagfyr a mis Ionawr mewn capeli Cymraeg fel y Tabernacl yn Llanfyllin. Mae’r brecwast Plygain traddodiadol wedi cael ei ddisodli gan y swper Plygain gan fod y mwyafrif o wasanaethau bellach yn digwydd gyda’r hwyr.
Tabernacl, Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, Llanfyllin
Cafodd twf Anghydffurfiaeth a’r mudiad Dirwest yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gryn ddylanwad ar arferion dathlu’r Nadolig yng Nghymru a daeth yn ddiwrnod ar gyfer gorymdeithiau gan y Gobeithluoedd a mudiadau dirwest eraill. Mae adfywiad diweddar ein gwasanaethau Plygain wedi sicrhau bod un o draddodiadau Nadolig hynaf Cymru yn rhan o’r dathliadau unwaith eto.
Dr Ywain Tomos, cyn Gynorthwyydd Ymholiadau a Llyfrgell
17/12/2021