Ar y diwrnod hwn 100 mlynedd yn ôl, Cartref Morwyr Stanley yng Nghaergybi a roddai’r croeso gorau yng Nghymru i aelodau o griwiau agerlongau a oedd wedi’u suddo

Cafodd Cartref Morwyr ac Ystafell Ddarllen Stanley ei adeiladu ar gais W O Stanley a’i agor gan Esgob Bangor ym 1871 gyda llety i forwyr a oedd wedi’u llongddryllio. Pan suddwyd agerlong SS APAPA Cwmni Elder Dempster gan dorpido a daniwyd gan yr U-96 ar 28 Tachwedd 1917, croesawyd y goroeswyr gan y Commandant Jane Henrietta Adeane, a oedd yn cyfoesi â Florence Nightingale ac yn ei hadnabod. Roedd hi’n benderfynol y caent y driniaeth orau a allai gael ei darparu adeg rhyfel.

Roedd yr APAPA yn llong ddosbarth Abosso a gafodd ei hadeiladu a’i lansio ym 1914-1915 gan Gwmni Elder Dempster. Roedd y cwmni hwn yn masnachu ar raddfa fawr â Gorllewin Affrica. Yr Apapa oedd un o’r llongau mwyaf a chyflymaf yn ei lynges helaeth.

Mae’r llun hwn yn dangos yr Apapa, newydd ei hadeiladu, o’r ochr a drawyd gan y torpido.

Mae’r llun hwn yn dangos yr Apapa, newydd ei hadeiladu, o’r ochr a drawyd gan y torpido.

 

Dechreuodd taith olaf yr APAPA ar ôl i’r Almaen ailgychwyn ymosodiadau digyfyngiad gan ei llongau tanfor

Ar ôl gadael Lagos gyda 119 o deithwyr, cafodd yr APAPA ei hebrwng gan 6 distrywlong tuag at arfordir Cymru. Ar ôl cyrraedd, gadawodd y distrywlongau am Aberdaugleddyf, a hwyliodd yr APAPA a’r llongau eraill yn y confoi ymlaen ar eu pennau eu hunain.

Collodd yr APAPA gysylltiad â’r llongau eraill ac aeth ati i igam-ogamu, gan ddilyn y drefn i osgoi llongau tanfor. Aeth heibio i’r Moelrhoniaid. Roedd ymchwydd trwm a gwynt gorllewinol ar 28 Tachwedd 1917. Gydag Ynys Badrig oddi ar yr ochr dde’r llong, roedd hi’n 2 filltir i’r gogledd-ogledd-orllewin oddi ar Drwyn Eilian yn mynd 13½ not pan gafodd ei tharo gan dorpido ‘Eva’ K.III ar ei hochr dde tua’r starn. Roedd y capten Almaenig Heinrich Jeß o U-96 wedi gweld rhodfa uchel yr APAPA yn rhy hwyr wrth iddi nesáu at ei long danfor, ac roedd yn meddwl ei bod yn mynd ar gyflymder o 8 not. Felly taniodd yn rhy bell tua’r starn, ac nid oedd ei griw yn disgwyl i’r torpido wneud llawer o ddifrod o ganlyniad.

Ond roedd y llong wedi cael difrod mawr, fel y cadarnhawyd gan archwiliad Capten James Toft. Nododd yr 2il Beiriannydd yn ddiweddarach i 4 neu 5 ffrwydrad ddigwydd yn fuan ar ôl i’r torpido daro. Rhuthrodd dŵr i mewn i ystafell yr injanau a dim ond drwy ymdrechu’n galed y llwyddodd i achub un o’i beirianwyr rhag boddi. Yn dilyn hyn, bu’n rhaid iddynt adael.

Gorchmynnwyd i bawb adael y llong. Gan eu bod wedi ymarfer ddwywaith o’r blaen, dechreuodd pawb adael yn ddiffwdan. Diffoddwyd yr injanau ac aeth y llong gyda’r llif ar gyflymder o 14 not dros bellter o un rhan o dair o filltir.

Dywedodd Jess wedyn nad oedd yn gwybod a oedd y torpido cyntaf wedi difrodi’r APAPA gan ei fod wedi camfarnu ei chyflymder, ac oherwydd hyn, a chyda chriw a oedd yn isel eu hysbryd ac yn awchu am suddo llong, taniodd ail dorpido. Trawodd hwn yn nes at y tu blaen. Roedd badau achub yn cael eu gostwng i’r dŵr erbyn hynny a dinistriodd y ffrwydrad fad Rhif 9 ac anafodd deithwyr mewn badau eraill.

Dechreuodd y llong gogwyddo’n sydyn ac yn gyflym i’r starbord a neidiodd teithwyr i’r môr i osgoi cael eu gwasgu. Boddodd llawer ohonynt, er i rai gael eu codi gan y badau achub a oedd ar ôl. Arhosodd y capten ar y bont wrth i’r APAPA suddo. Byddai’n dod i’r wyneb ac yn cael ei achub yn nes ymlaen.

Wrth i’r llong ogwyddo, daeth cynheiliaid y corn mwg yn rhydd, a syrthiodd ar fad achub Rhif 5, a oedd yn llawn teithwyr, cyn gallu ei ostwng i’r dŵr. Aeth bad 3 yn sownd yng ngwifrau weiarles y llong, a chafodd eraill eu sugno o dan y dŵr wrth i’r llong suddo.

Yna diflannodd y llong yn gyflym o dan yr wyneb.

Achubwyd y rhai a oedd wedi goroesi yn gyflym, ond golchwyd llawer o gyrff i’r lan

Cafodd y 6 bad a oroesodd, gan gynnwys badau 3, 7, 8, 10 a 12, eu tynnu gan ddriffterau ager (yn eu plith SS Staghound) i Gaergybi. Cafodd un bad ei wahanu oddi wrth y lleill, a chodwyd pawb a oedd ynddo gan agerlong arall a aeth â hwy i Lerpwl. Ar ôl glanio, aeth y teithwyr i’r gwestai agosaf i chwilio am lety. Roedd dwy fenyw ac un dyn yn ei byjamas mewn un grŵp.

Llun o rai o’r rheiny a oroesodd y tu allan i Ysbyty Morwyr Stanley.

Llun o rai o’r rheiny a oroesodd y tu allan i Ysbyty Morwyr Stanley.

 

Ar ôl i’r APAPA fynd i lawr, dechreuodd cyrff gael eu golchi i’r lan. Darganfuwyd corff Albert Taylor (50 oed), 2il Stiward, ger Miller’s Cottage, Towyn, gan Owen Roberts a’r Rhingyll John Worthington – gweithiwr a heddwas. Rhoddwyd y corff i orffwys gyda 2 berthynas yn bresennol. Pobl eraill a ddarganfuwyd yn farw yn y dŵr oddi ar yr arfordir oedd Harold Hunting (28), masnachwr, E. O. Roper (50), peiriannydd sifil, James Thomas (30), dyn o Orllewin Affrica a oedd yn byw yn Lerpwl ac yn brif daniwr ar yr Apapa, T. Walter Jennings (oedran yn anhysbys), Mrs Ida Mabel Johnson (44), gwraig Trysorydd Trefedigaethol Sierra Leone, Harold Starling (39), prif stiward, ac Isaac Pembroke (er mai Peppel oedd ei enw iawn), taniwr, o Sierre Leone (oedran yn anhysbys). Ymhlith y rheiny sydd wedi’u claddu yng Nghymru y mae Albert Taylor (Mynwent Abergele), Harold Hunting, John Thomas, Thomas Jennings ac Isaac Peppel (Mynwent Glanadda, Bangor). Y tu allan i Gymru, cafodd Ernest Arthur Hebbes (41), 4ydd bataliwn, Catrawd Nigeria, ei gladdu ym Mynwent St Michaels, Woburn. Cofnodir enwau llawer o’r criw ar Gofeb Tower Hill i longwyr masnach a gollwyd.

Ar y pryd, cafodd y suddo ei gondemnio yn y papurau newydd ar draws Prydain. Roedd y Prydeinwyr yn credu nad oedd angen tanio’r ail dorpido. Lledodd sïon hefyd fod yr Almaenwyr wedi tanio ar y badau. Ond yn ôl logiau rhyfel yr Almaen a thystiolaeth arall ar gyfer yr U-96, nid oedd y capten a’r criw yn gwybod am y badau achub ac nid oeddynt yn credu eu bod wedi suddo’r llong â’r ergyd gyntaf.

Hefyd gofynnwyd cwestiynau yn Nhŷ’r Arglwyddi ynghylch gadawiad y distrywlongau cyn y digwyddiad. Dwysaodd y trychineb newydd hwn drallod pobl Môn. Ysgrifennodd nith Jane Henrietta Adeane am y gofid mawr a deimlai’r trigolion pryd bynnag y clywyd ffrwydrad gerllaw.

Cyflwr y llongddrylliad

Ailddarganfuwyd yr Apapa ym 1972, yn gorwedd o dan 180 troedfedd o ddŵr, a’i drwyn yn wynebu’r arfordir. Mae’r llongddrylliad yn gorwedd o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws llif y cerrynt. Mae hyn wedi creu dwy ardal fawr o sgwrio (y rhannau glas) lle y mae’r cerrynt wedi cael ei wyro gan beri i wely’r môr erydu.

Llongddrylliad yr Apapa, hawlfraint Prifysgol Bangor.

Llongddrylliad yr APAPA, hawlfraint Prifysgol Bangor.

 

Golwg fanwl ar yr APAPA gan ddefnyddio atseinydd aml-belydr, sonar a ddefnyddir i fapio gwaelod y môr, hawlfraint Prifysgol Bangor.

Golwg fanwl ar yr APAPA gan ddefnyddio atseinydd aml-belydr, sonar a ddefnyddir i fapio gwaelod y môr, hawlfraint Prifysgol Bangor.

 

Gan fentro’i lwc, arhosodd Heinrich Jess yn yr ardal a daliodd y DERBENT ddau ddiwrnod wedyn

 Adeiladwyd HMS DERBENT gan Armstrong Whitworth & Co Ltd yn Newcastle-upon-Tyne ym 1908 i S.A. de Armament d’Industrie et de Commerce, Antwerp. Cyn cael ei hatafaelu gan y Morlys ym 1914, roedd wedi bod yn hwylio i borthladdoedd fel Port Arthur, Efrog Newydd, a Rangoon. Ym mis Mawrth 1915, roedd y Derbent ym Môr y Canoldir yn Port Mudros a Tendos yn cludo tanwydd i longau’r llynges fel HMS PHAETON ac HMS INFLEXIBLE a oedd yn ceisio cipio rheolaeth dros Gulfor y Dardanelles. Roedd y tancer ar ei ffordd o Lerpwl i Queenstown yn cludo 3860 tunnell o olew tanwydd pan gafodd ei daro gan dorpido, wedi’i danio gan yr U-96, ar 30 Tachwedd 1917.

Y Derbent, cyn y rhyfel.

Y Derbent, cyn y rhyfel.

 

Gellir gweld hwylbrennau’r Derbent yn gorwedd ar wely’r môr yn eu safleoedd gwreiddiol fwy neu lai, hawlfraint Prifysgol Bangor.

Gellir gweld hwylbrennau’r Derbent yn gorwedd ar wely’r môr yn eu safleoedd gwreiddiol fwy neu lai, hawlfraint Prifysgol Bangor.

 

Y Derbent oedd y golled olaf a briodolwyd i’r U-96 ym 1917, ond ym 1918, ym mis Mawrth a mis Mehefin, suddwyd dwy long arall yn nyfroedd Cymru: y CONARGO ar 31 Mawrth a’r VANDALIA ar 8 Mehefin. Casglodd gwasanaeth cudd-ymchwil y Llynges Frenhinol yn Ystafell 40 wybodaeth am ymgyrchoedd canlynol yr U-96:

  • 14–20 Chwefror 1918. Dechreuodd ar daith tua’r gogledd i fynd o gwmpas yr Alban ond dychwelodd gyda diffygion.
  • 14 Mawrth – 8 Ebrill 1918. I Fôr Iwerddon o amgylch yr Alban. Suddwyd 19,000 tunnell. Mae’n ymddangos iddi gael ei defnyddio mewn ymgyrch i rwystro cyflenwadau rhag cyrraedd gogledd Ffrainc o Loegr.
  • 25 Mai – 22 Mehefin 1918. I Fôr Iwerddon. Suddodd dwy agerlong a thaniodd ar gychod pysgota. Ymosododd yn aflwyddiannus ar ddwy ddistrywlong o’r Unol Daleithiau, a hefyd ar bedair agerlong. Cafodd ei difrodi gan ffrwydron tanddwr ar 4 Mehefin ym Môr Iwerddon, a dychwelodd gyda nifer o ddiffygion.
  • 30 Gorffennaf – 23 Awst 1918. Aeth tua’r gogledd o gwmpas yr Alban ac ymlaen i Sianel San Siôr. Suddodd un agerlong cyn gorfod dychwelyd gan nad oedd yr injan dde yn gweithio a chan fod berynnau’r injan chwith wedi’u difrodi.
  • 20 Tachwedd 1918. Ildiodd yn Harwich.

Ym mis Medi 1918, daeth Heinrich Jess yn gapten yr U-90 ac roedd yn gyfrifol am suddo dwy long arall yn nyfroedd Cymru – y DUNDALK ar 14 Hydref a’r PENTWYN ar 16 Hydref.

Cafodd Cartref Morwyr Stanley yng Nghaergybi ei adnewyddu’n ddiweddar yn Bencadlys Cadetiaid Môr y Llong Hyfforddi Prince of Wales ac mae hefyd yn parhau i ddarparu llety i longwyr.

Gan Geoffrey Hicking, Gwirfoddolwr, Comisiwn Brenhinol

 

Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18:  Archwilio, Mynediad ac Estyn-allan

Partneriaeth rhwng tri sefydliad yw’r prosiect hwn: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (Comisiwn Brenhinol), Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol. Mae’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn buddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni – o’r archaeoleg o dan ein traed i’r parciau ac adeiladau hanesyddol a garwn, o atgofion a chasgliadau gwerthfawr i fywyd gwyllt prin. www.hlf.org.uk.

Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #HLFsupported.

Un o’r ystafelloedd hyfforddi yng Nghartref Morwyr Stanley ar ei newydd wedd.

Un o’r ystafelloedd hyfforddi yng Nghartref Morwyr Stanley ar ei newydd wedd.

 

Cartref Morwyr Stanley. Mae’r llety ar ochr dde’r llun.

Cartref Morwyr Stanley. Mae’r llety ar ochr dde’r llun.

11/28/2017

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets