CBHC / RCAHMW > Newyddion > Archaeoleg ar y dibyn!

Archaeoleg ar y dibyn!

Y Prosiect CHERISH yn parhau i ddatgelu cyfrinachau bryngaer Dinas Dinlle

Ar ddechrau mis Mehefin, ailgydiodd archaeolegwyr a daearyddwyr CHERISH o’r Comisiwn Brenhinol a Phrifysgol Aberystwyth yn eu gwaith cyffrous ar safle caer bentir arfordirol gynhanesyddol Dinas Dinlle (gellir cael mwy o wybodaeth am Ddinas Dinlle). Gan weithio’n agos â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae’r tîm wedi bod yn brysur yn cofnodi’r nodweddion archaeolegol a daearegol sydd wedi’u datguddio gan erydiad wyneb gorllewinol y clogwyn. Hefyd cymerwyd creiddiau o’r cloddiau a ffosydd deheuol er mwyn ceisio deall yn well sut y cafodd y gaer ei hadeiladu ac er mwyn casglu unrhyw olion amgylcheddol y gellid eu dyddio.

Mae caer arfordirol Dinas Dinlle yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae hi ar ben bryn o waddodion drifft rhewlifol, ac yn edrych dros y môr a gwastadedd arfordirol Sir Gaernarfon. Mae’r gaer wedi’i diogelu fel Heneb Gofrestredig ac mae’r bryn ei hun yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd pwysigrwydd daearegol y gwaddodion rhewlifol.
Mae caer arfordirol Dinas Dinlle yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae hi ar ben bryn o waddodion drifft rhewlifol, ac yn edrych dros y môr a gwastadedd arfordirol Sir Gaernarfon. Mae’r gaer wedi’i diogelu fel Heneb Gofrestredig ac mae’r bryn ei hun yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd pwysigrwydd daearegol y gwaddodion rhewlifol. (Hawlfraint y Goron: RCAHMW AP_2014_0877)

Sut i archwilio ymyl clogwyn serth sy’n erydu

Roedd y gwaith newydd hwn yn dipyn o her: sut i archwilio ymyl clogwyn serth sy’n erydu ar heneb wedi’i diogelu? Cafwyd yr ateb gan staff Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas y Brenin a osododd raffau i’r archaeolegwyr a’r daearyddwyr ac a fu’n eu goruchwylio. Aeth y gwaith yn ei flaen yn syfrdanol o ddidrafferth o ystyried iddo gael ei wneud sawl metr uwchben y traeth islaw!

Peidiwch ag edrych i lawr! Patrick a Louise, aelodau o’r tîm CHERISH, yn brwydro ag uchderau a rhaffau i gofnodi nodweddion sy’n erydu. (Hawlfraint y Goron: CHERISH)
Peidiwch ag edrych i lawr! Patrick a Louise, aelodau o’r tîm CHERISH, yn brwydro ag uchderau a rhaffau i gofnodi nodweddion sy’n erydu. (Hawlfraint y Goron: CHERISH)

Adeiladu Dinas Dinlle

Mae’r canlyniadau cychwynnol wedi bod yn hynod ddiddorol, gan godi amheuon ynghylch sut yr adeiladwyd Dinas Dinlle yn wreiddiol. Prin iawn yw’r olion archaeolegol a ddarganfuwyd ar wyneb y clogwyn ac yn y creiddiau, ac roedd hyn yn annisgwyl o ystyried pa mor drawiadol yw’r gwrthgloddiau ar y safle. Mae’n ymddangos na chafodd y ffos ddeheuol ei ‘hadeiladu’ ond iddi gael ei ffurfio’n naturiol gan brosesau hydrolegol cymhleth ar ddiwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae defnyddiau caregog a ddarganfuwyd mewn creiddiau a gymerwyd o’r rhagfuriau yn awgrymu, fodd bynnag, i beth gwaith adeiladu gael ei wneud. Mae’n ddigon posibl i’r bobl a oedd yn gyfrifol am adeiladu Dinas Dinlle fanteisio ar nodweddion naturiol a oedd yn bod eisoes, gan eu cryfhau drwy greu llethrau mwy serth ac adeiladu cloddiau. Efallai mai’r ‘rhagfuriau’ ac ‘amddiffynfeydd’ naturiol hyn – ynghyd â’r safle amlwg ar yr arfordir – a ddenodd pobl yma yn y lle cyntaf.

Byddwn yn cynnal ymchwiliadau drwy gydol y prosiect i ddarganfod faint o’r gaer sy’n cael ei golli i’r môr – ac effeithiau cynyddol newid hinsawdd ar yr heneb – gan ddefnyddio technegau megis cloddio, laser-sganio ac arolygu â drôn.

Dinas Dinlle cloddiad

Mae ein gwaith yn Ninas Dinlle yn parhau.  Mae cloddiad cyffrous gan wirfoddolwyr dan arweiniad Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn mynd rhagddo a byddwn yn cynnal diwrnod agored i’r cyhoedd ar Ddydd Sadwrn, 17 Awst. Hwn fydd y cloddiad agored cyntaf erioed i gael ei gynnal yn Ninas Dinlle. Byddwn yn canolbwyntio ar olion posibl dau dŷ crwn cynhanesyddol sy’n agos at ymyl y clogwyn erydol o fewn y gaer, ac ar olion adeiladau amaethyddol a therfynau caeau o’r Oesoedd Canol tua’r de. Gyda lwc fe fyddwn ni’n datgelu mwy o gyfrinachau’r gaer yn ystod y cloddiad!

Llun wedi’i dynnu gan ddrôn yn dangos olion sianel ddŵr-tawdd naturiol a gafodd ei haddasu mae’n debyg i ffurfio rhan o amddiffynfeydd y gaer. (Hawlfraint y Goron: CHERISH)
Llun wedi’i dynnu gan ddrôn yn dangos olion sianel ddŵr-tawdd naturiol a gafodd ei haddasu mae’n debyg i ffurfio rhan o amddiffynfeydd y gaer. (Hawlfraint y Goron: CHERISH)

Prosiect Iwerddon-Cymru pum mlynedd o hyd yw CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd). Y partneriaid yw Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y Rhaglen Ddarganfod: Canolfan Archaeoleg ac Arloesedd Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ac Arolwg Daearegol Iwerddon.

Nod y prosiect yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau newid hinsawdd, stormydd a thywydd garw ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog moroedd rhanbarthol ac arfordiroedd Iwerddon a Chymru yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol agos drwy ddefnyddio’r technegau arloesol diweddaraf.

Darganfyddwch fwy am y Prosiect CHERISH

Darganfyddwch fwy am y Prosiect CHERISH yn http://www.cherishproject.eu/en/, ac i gael y newyddion diweddaraf a manylion gweithgareddau dilynwch y prosiect ar Facebook @CherishProject a Twitter @CHERISHproj.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan yng nghloddiad archaeolegol yr haf, cysylltwch â Dan Amor, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd dan.amor@heneb.co.uk  01248 366970

Daniel Hunt (Ymchwilydd Archaeolegol – y Prosiect CHERISH) daniel.hunt@rcahmw.gov.uk

21/06/2019

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x