
Archaeoleg Ucheldir Gwent
Medi 14, 2016
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 13:15 p.m.
Frank Olding
Swyddog Treftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyflwyniad i’r themâu sydd dan sylw yng nghyfrol newydd y Comisiwn Brenhinol, Archaeoleg Ucheldir Gwent. Mae’r llyfr yn bwrw golwg ar archaeoleg yng ngogledd-orllewin sir hanesyddol Mynwy.
Ymhlith y safleoedd o bwys mae tomenni claddu cynhanesyddol, meini hirion, ffyrdd Rhufeinig a chaerau, cestyll ac eglwysi canoloesol a gorchestion mawr yr oes ddiwydiannol. Mynediad am ddim drwy docyn.
***Digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd***
09/05/2016