
Archif Cof: Hybu iechyd a llesiant
Mae’r Archif Cof yn cynnig deunyddiau archifol digidol wedi’u curadu am ddim at bwrpas hel atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia. Cynllun o eiddo Casgliad y Werin Cymru ydyw sy’n cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Er ei bod wedi’i hanelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol a theuluoedd, mae’r Archif Cof ar agor ac ar gael i bawb.
Mae’r Archif Cof yn cynnig y canlynol:
- 30 Casgliad gyda lluniau, clipiau fideo a recordiadau sain i’w defnyddio yn ystod sesiynau hel atgofion. Ar ôl ymgynghori â gweithwyr iechyd gofal proffesiynol, cafodd y casgliadau eu catalogio yn ôl degawd (1940au i’r 1980au) a thema (er enghraifft, Nadolig, digwyddiadau pwysig, ffermio, ceir, bywyd ysgol, cerddoriaeth a dawnsio) i’w gwneud yn hawdd eu defnyddio.

- Adnodd addysgu ar gyfer disgyblion Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 i 4 i godi ymwybyddiaeth o ddementia. Mae’n egluro’r syniad o hel atgofion a pham mae’n bwysig i bobl sy’n byw gyda dementia. Mae’n dangos sut i ddefnyddio’r lluniau o’r Archif Cof mewn dau weithgaredd hel atgofion ymarferol: creu Coeden Gof (wedi’i strwythuro yn ôl thema) neu Linell Amser Cof (amseryddol), gan ychwanegu lluniau sy’n annog sgwrs ac yn procio’r cof.
- Cyfres o bosteri Coeden Gof a Llinell Amser Cof i’w defnyddio gyda’r gweithgareddau hel atgofion.

Reina van der Wiel
Rheolwr Llywodraethu a Risg
05/18/2023