CBHC / RCAHMW > Newyddion > Archifau sy’n Ysbrydoli: Dewch i gael eich ysbrydoli gan archifau’r Comisiwn Brenhinol 18 Tachwedd, 12pm–7pm

Archifau sy’n Ysbrydoli: Dewch i gael eich ysbrydoli gan archifau’r Comisiwn Brenhinol 18 Tachwedd, 12pm–7pm

Fel rhan o ymgyrch Archwiliwch eich Archifau eleni, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cynnal Archifau sy’n Ysbrydoli: rhaglen o ddigwyddiadau i annog pobl i ddefnyddio ein harchifau mewn ffordd greadigol.

Ar Ddydd Mercher, 18 Tachwedd 2015, byddwn yn cynnal Diwrnod Agored, ac rydym yn gwahodd pobl i ddod i’r Comisiwn i ddarganfod y casgliadau unigryw sydd yn ein harchifau – ac i gael eu hysbrydoli i greu rhywbeth eu hunain.

Bydd gweithgareddau’r diwrnod yn cynnwys gweithdai creadigol, ac arddangosiadau ar fodelu 3D, lluniadau ail-greu, animeiddiadau, ffotograffiaeth, adnoddau digidol (LiDAR, GIS) a llawer mwy. Yn ogystal, fe fydd sgyrsiau cyffrous gan ymchwilydd o’r awyr y Comisiwn Brenhinol, Dr Toby Driver, ar Batrymau o’r Gorffennol: Rhyfeddodau’r Archif Awyrluniau a chan ein ffotograffydd, Iain Wright, ar Drwy Lens y Ffotograffydd.

Bydd detholiad o waith y Mad Mountain Stitchers, grŵp o artistiaid tecstil hynod o greadigol sydd wedi’u hysbrydoli gan gasgliadau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, hefyd yn cael ei arddangos, gan gynnwys eu croglun anhygoel, Big Pit, a bydd yr artistiaid wrth law i siarad am eu crefft, ac am y defnyddiau a thechnegau a ddefnyddiant i greu eu gweithiau tecstil.

Drwy gydol y prynhawn a gyda’r nos, bydd ymwelwyr yn cael cyfle i archwilio’r amrywiaeth helaeth o gasgliadau o ffotograffau, mapiau, cynlluniau, lluniadau, testunau, a deunydd arall yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Bydd croeso i chi gymryd rhan mewn gweithdai, gan weithio gyda myfyrwyr o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth i feddwl yn greadigol am ddefnyddio’r archifau i gynhyrchu cerddi, straeon byrion, gweithiau celf, tecstilau, modelau, cerflunwaith, gwaith gweu, teisennau neu unrhyw beth arall y cewch eich ysbrydoli i’w gynhyrchu.

Cyflwyno’ch gwaith – ar ôl cael eich ysbrydoli i greu darn o waith mewn cyfrwng o’ch dewis – yn weledol neu’n ysgrifenedig – byddem yn falch o dderbyn fersiwn digidol ohono (ffotograff, recordiad, dogfen destun ac ati) drwy e-bost (chc.cymru@cbhc.gov.uk) cyn 17 Ionawr 2016. Byddwch cystal ag anfon y ffurflen gyflwyno hefyd. Bydd yr holl gyflwyniadau’n dod yn rhan o arddangosfa ar-lein o’r enw Casgliad Archifau sy’n Ysbrydoliar wefan Casgliad y Werin Cymru lle byddwch chi’n gallu eu gweld, cynnig sylwadau arnynt a’u rhannu. Hefyd fe gyhoeddir detholiad ohonynt gan Planet a chânt eu dangos mewn arddangosfa yn y Flwyddyn Newydd – manylion i ddod.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Plas Crug, Aberystwyth, Ceredigion SY23 1NJ, ffôn: 01970 621200, e-bost: chc.cymru@cbhc.gov.uk

Croeso i bawb. Mae pob digwyddiad am ddim. Dewch atom am y diwrnod i gael eich ysbrydoli!

22/10/2015

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x