Caerfai iron-age promontory fort, Pembrokeshire.

Archwilio Arfordir Cymru: Dathlu 10 Mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru!

Caerfai – caer bentir o’r oes haearn, Sir Benfro.

Caerfai – caer bentir o’r oes haearn, Sir Benfro.

Mae arfordir Cymru yn ymestyn am oddeutu 1,680 o filltiroedd (2,700 o gilomedrau). Ar ei hyd mae yna aberoedd eang, afonydd llanw, traethau tywod hir, clogwyni creigiog ac ynysoedd i’w gweld allan yn y môr. Mae’n arfordir sy’n enwog, yn gywir ddigon, am ei harddwch naturiol a’i olygfeydd trawiadol yn ogystal â’i gyfoeth o anifeiliaid a phlanhigion. Ond mae pobl hefyd wedi dylanwadu ar arfordir Cymru. Mae olion gweithgarwch pobl wedi goroesi yn y gweddillion archeolegol sydd i’w gweld ar hyd arfordir Cymru ac sy’n dyddio o’r cynfyd hyd heddiw.

Mewn rhai mannau lle gellir gweld gwaddodion mawn, mae’n bosibl yn llythrennol dilyn ôl troed ein cyndeidiau o’r cynfyd neu ymlwybro drwy’r bonion sy’n weddill o fforestydd sydd bellach dan y dŵr. Mewn mannau eraill mae olion llongau ar wasgar ar hyd y lan, yn ymwthio drwy’r tywod, i’n hatgoffa o’r peryglon yr oedd morwyr a theithwyr y gorffennol yn eu hwynebu. Mae strwythurau parhaol wedi’u codi ar hyd ymylon traethau: trapiau pysgod er mwyn cynaeafu cynnyrch o’r môr, neu odynau calch efallai er mwyn helpu i gael cynhaeaf gwell o’r tir. Mae yna beth wmbredd o harbwrs a phorthladdoedd ac mae bron bob bae, cilfach, cildraeth ac afon wedi’u defnyddio yn y gorffennol ar gyfer rhyw fath o weithgarwch.

Llanddwyn, Ynys Môn. Y goleudai a bythynnod y peilotiaid o’r awyr.

Llanddwyn, Ynys Môn. Y goleudai a bythynnod y peilotiaid o’r awyr.

Mae llawer o arfordir Cymru yn hygyrch i’r cyhoedd, naill ai’n uniongyrchol drwy ei draethau niferus, ei bromenadau neu’i harbwrs hanesyddol bach neu drwy gerdded Llwybr Arfordir Cymru sy’n ymestyn am 870 o filltiroedd (1,400 o gilomedrau) ac sy’n cynnig llwybr di-dor o Aber Afon Dyfrdwy yn y gogledd i Aber Afon Hafren yn y de (neu i’r gwrthwyneb os yw hynny’n well gennych!). Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed yn 2022 ar ôl cael ei agor yn swyddogol ar 5 Mai 2012.

Mae’r Comisiwn Brenhinol wedi cyfrannu i’r ap newydd sbon ar gyfer ffonau symudol, sef Crwydro Arfordir Cymru, sy’n helpu pobl i ddarganfod archeoleg arfordirol a rhynglanwol arfordir Cymru a dysgu mwy amdani. Mae’r ap yn darparu gwybodaeth am wahanol fathau o safleoedd archeolegol, o longau drylliedig i dirweddau sydd dan y dŵr, ac mae hefyd yn rhoi sylw i dros drigain o safleoedd y gellir eu cyrraedd yn hawdd o Lwybr Arfordir Cymru, gyda mwy i ddod. Mae’n defnyddio gwybodaeth a delweddau sydd ar gael ar Coflein, sef ein cronfa ddata ar-lein.

Llong ddrylliedig y ROVER, Traeth Marchros, Sir Gaerfyrddin. Un o’r safleoedd archeolegol niferus sydd yn yr ap Crwydro Arfordir Cymru.

Llong ddrylliedig y ROVER, Traeth Marchros, Sir Gaerfyrddin. Un o’r safleoedd archeolegol niferus sydd yn yr ap Crwydro Arfordir Cymru.

At hynny, mae’r ap Crwydro Arfordir Cymru yn galluogi defnyddwyr i roi gwybod am unrhyw safleoedd archeolegol newydd neu annisgwyl y maent yn eu gweld. Mae cael gwybod gan y cyhoedd pan fydd olion archeolegol yn dod i’r amlwg, neu’n ymddangos/diflannu yn sydyn, yn rhan hollbwysig o’n dull o reoli ein treftadaeth ddiwylliannol gyffredin. Wedi’r cyfan, mae 1,680 o filltiroedd yn llawer o arfordir i gadw golwg arno!

I ddathlu llwyddiant Llwybr Arfordir Cymru, y mae cannoedd o filoedd o gerddwyr o bob oed yn ei fwynhau bob blwyddyn, rydym yn cynnig disgownt pen-blwydd arbennig o 10% ar ein cyhoeddiadau arobryn, Cymru a’r Môr: 10,000 o flynyddoedd o Hanes y Môr a Wales and the Sea: 10,000 years of Welsh Maritime History. Wrth archebu o siop lyfrau ar-lein y Comisiwn Brenhinol (siop.cbhc.gov.uk), nodwch y cod LLAC10 wrth dalu. Dim ond £22.50 yw’r cyfanswm.

Gan Dr Julian Whitewright, Uwch Ymchwilydd (Arforol)

05/05/2022

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x