
Archwilio eich Archif – Cipluniau Archifol
Ymunwch â ni i gael cipolwg difyr ar lyfrgelloedd ac archifau sefydliadau bach a mawr.
22–26 Tachwedd, 13:00–14:15
Eleni ar gyfer wythnos Archwilio eich Archif, fe’ch gwahoddir i wythnos o sgyrsiau ‘ciplun’ rhithiol am ddim ar y pum prif faes y mae ein llyfrgell ac archifau’n ymdrin â nhw: Archaeoleg, Pensaernïaeth, Treftadaeth Eglwysig, Archaeoleg Ddiwydiannol ac Archaeoleg Arforol.
Bob dydd fe ddarlledir sgyrsiau ‘ciplun’ ar thema benodol gan archifyddion, llyfrgellwyr ac arbenigwyr o sefydliadau allanol. Byddant yn siarad am eu casgliadau sy’n berthnasol i thema’r dydd neu am gasgliad penodol sy’n gysylltiedig â’r thema. Hefyd fe fydd cyflwyniad gan CBHC ar ein archifau ein hun.

Dydd Llun, 13:00-14:15 – Archaeoleg
• Historic England – Highlights of the Archaeological Collections held in the Historic England Archive – Kathy Clough
• Eglwys Gadeiriol Tyddewi – Recording Building Archaeology Since The 12th Century – Ross Cook
• The Archaeology Data Service – An Introduction to the Archaeological Collections – Jenny O’Brien
• Society of Antiquaries – Archaeology in the Collections of The Society of Antiquaries of London – Becky Loughead
• CBHC – The RCAHMW and the National Monuments Record of Wales – Gareth Edwards
Dydd Mawrth, 13:00-14:15 – Pensaernïaeth
• Amgueddfa Cymru – A Brief History of the Cathays Park Building – Kristine Chapman
• Society of Antiquaries – Architecture in the collections of The Society of Antiquaries – Becky Loughead
• Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru – The Architectural Archives Advisory Panel for Wales – Elinor Weekley
• CBHC – Building the Twentieth Century – Susan Fielding
Dydd Mercher, 13:00-14:15 – Treftadaeth Eglwysig
• Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Siarteri yn ein Casgliadau Eglwysig: Cipluniau o Gymru yn y Canoloesau – Lucie Hobson (sgwrs yn y Gymraeg gyda chyfieithiad mewn capsiynau)
• Dr Williams’s Library – An Insight into Dr Williams’s Library – Alan Argent
• Eglwys Gadeiriol Tyddewi – St Davids Cathedral Library and Treasury – How to Know What is There? – Mari James
• CBHC – The Notebooks of R. E. Kay: Antiquarian of the 20th Century – Megan Ryder
Dydd Iau, 13:00-14:15 – Archaeoleg Ddiwydiannol
• Archifau Morgannwg – Glamorgan’s Blood: The Coal Collections at Glamorgan Archives – Rhian Diggins
• Cymdeithas Melinau Cymru – Mills Archives and How They Can Be Used – John Crompton
• Archifau Rheilffordd Ffestiniog – The Archive of the Ffestiniog Railway Company – Dafydd Gwyn
• CBHC – Industrial Wales – Documenting the Rise and Fall of Industry: Archival Snapshots from the NMRW – Louise Barker
Dydd Gwener, 13:00-14:15 – Archaeoleg Arforol
• UK Hydrographic Office – The Collections at the UKHO Archive – Emma Down
• Sefydliad Cofrestr Lloyd’s – Gwneud Ymchwil Morwrol: Casgliadau Canolfan Treftadaeth ac Addysg Sefydliad Cofrestr Lloyd’s – Dr Meilyr Powel (sgwrs yn y Gymraeg gyda chyfieithiad mewn capsiynau)
• University of Southampton – Archives and Special Collections: Our Maritime Archives – Karen Robson, Lara Nelson and Russell Ince
• CBHC – Maritime Archaeology in the Archives of the Royal Commission – Dr Julian Whitewright
Byddwch cystal â nodi: rhaid archebu tocynnau ar wahân ar gyfer pob sgwrs drwy ddilyn y dolennau yn y disgrifiadau uchod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â marisa.morgan@cbhc.gov.uk.
Caiff y ddarlith ddi-dâl hon ei darparu drwy Zoom ac anfonir y gwahoddiad i chi ar ôl i chi archebu’ch lle. Peidiwch ag anghofio lawrlwytho Zoom os nad ydych wedi gwneud eisoes!
Mae nifer cyfyngedig o docynnau a rhaid bwcio ymlaen llaw.
Yn ystod 2021 fe fyddwn ni’n cynnal digwyddiadau arbennig a chyflwyniadau rheolaidd yn gysylltiedig â’n prosiectau ymchwil presennol. Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiadau ar-lein di-dâl hyn. Caiff yr holl sgyrsiau eu recordio a byddant ar gael yn y man ar sianel YouTube y Comisiwn Brenhinol.
11/17/2021