Archwiliwch Eich Archif: Archif Cof – Hanes y diwrnod

Ar Ddydd Mercher 22 Tachwedd 2017 cynhaliodd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, ddigwyddiad i ystyried sut y gall archifau gael eu defnyddio’n ffynhonnell ar gyfer creu gweithgareddau, teithiau cerdded, storïau a gweithiau celf i helpu i ysgogi atgofion a’r cof i’r sawl sy’n byw gyda dementia. Daeth tua hanner cant o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl sy’n gofalu am neu’n gweithio gyda phobl gyda dementia at ei gilydd yn Aberystwyth i wrando ar siaradwyr a chymryd rhan mewn gweithdai.

1

Rhoddwyd cychwyn i’r diwrnod gan Gareth Edwards, Pennaeth Gwybodaeth a Dealltwriaeth y Comisiwn Brenhinol, a ddangosodd i’r cynrychiolwyr y trysorau di-rif sydd yn archif y Comisiwn, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC). Mae’r llu o gardiau post yn yr archif o ddiddordeb arbennig yn y cyswllt hwn. Mae CHCC yn cwmpasu Cymru gyfan ac mae’n bosibl bod atgofion melys ynghlwm wrth y golygfeydd stryd, safleoedd eiconig, capeli a golygfeydd glan môr sydd i’w gweld ar y cardiau. Casgliadau arbennig eraill yn ein ‘Harchif Cof’ yw taflenni i dwristiaid a lluniau o bobl yng Nghasgliad y Swyddfa Wybodaeth Ganolog; darluniau a golygfeydd stryd o Gymru ddiwydiannol yn Archif Falcon Hildred; ffotograffau o lofeydd a glowyr o’r 1970au a dechrau’r 1980au yng Nghasgliad John Cornwell; ffotograffau a chardiau post du a gwyn o orsafoedd rheilffordd gan y Parchedig H. D. E. Rokeby; a’n casgliad anhygoel o awyrluniau. Yn ogystal â bod yn hardd i edrych arnynt, mae’r rhain hefyd yn cofnodi’r newidiadau mawr sydd wedi digwydd yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Merge

Y cyfrannwr nesaf oedd Sally Corlett, Cydlynydd Dementia Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a roddodd ffeithiau a chyngor cadarn ac a chwalodd nifer o fythau mewn perthynas â dementia. Eglurodd nad yw dementia yn rhan naturiol o heneiddio nac yn broblem iechyd meddwl; afiechyd ydyw sy’n lladd celloedd yn yr ymennydd. Nid yw’r achos yn hysbys, na’r rheswm pam mae’n effeithio ar fenywod yn fwy na dynion. Serch hynny, y mae rhai ffactorau amddiffynnol, megis addysg bellach a bod yn gymdeithasol weithgar. Er nad yw dementia yn ymwneud yn gyfan gwbl â cholli’ch cof, mae’r elfen hon yn cael cryn ddylanwad ar bobl. Yng ngeiriau Sally, ein hatgofion yw ein storïau. Maen nhw’n bersonol ac yn rhan annatod o’n hymdeimlad o hunaniaeth. Mae cofio’n arf grymus felly, gan ei fod yn newid cydbwysedd grym. Gall pobl sy’n byw gyda dementia siarad am rywbeth eto (o’r gorffennol) sy’n eu helpu i deimlo’n dda. Ac efallai’n fwyaf dadlennol, hyd yn oed pan fydd y cof ffeithiol yn diflannu, ni fydd y cof emosiynol yn gwneud. Mewn geiriau eraill, mae bob amser yn werth treulio amser yn dwyn atgofion gyda phobl sy’n byw gyda dementia. Er ei bod hi’n bosibl na fyddant yn cofio’r hyn y maen nhw wedi’i wneud neu’i ddweud wedyn, bydd y teimlad cadarnhaol yn parhau.

s-Merge

Cafwyd trydedd sgwrs y bore gan Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyflwynodd ganlyniadau rhaglen beilot o’r enw ‘Cof Byw’. Drwy’r rhaglen hon, bu gwirfoddolwyr yn casglu ynghyd ddeunydd o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol yn unol â themâu y cytunwyd arnynt (anifeiliaid, gwledig, sioeau, ysgolion, rhyfel, crefydd, ffasiwn, tywydd, enwog, amryw ac Eisteddfodau) i’w defnyddio yn y sector iechyd. Darparwyd y deunydd mewn tri fformat: copïau caled, ffilmiau (ar DVD) ac e-lyfrau (ar lechi cyfrifiadurol). Er ystyried bod y llechi cyfrifiadurol – yr oedd ganddynt ffrâm las drwchus hawdd ei dal a’i gweld – yn ddefnyddiol i gleifion a oedd yn gaeth i’w gwlâu, hwy oedd yn lleiaf poblogaidd at ei gilydd. Ystyrid mai’r ffilmiau, yn eu tro, oedd yn fwyaf buddiol i’w defnyddio gyda grwpiau. Ond y copïau caled oedd yn fwyaf poblogaidd at ei gilydd. Gofynnodd Gwyneth i’r gynulleidfa am adborth ar y ffordd orau o ddatblygu’r rhaglen, a thynnodd eu sylw at ffynhonnell berthnasol arall: rhestr y Llyfrgell Genedlaethol o ffilmiau o ‘Britain on Film’ (BFI) a all fod yn addas ar gyfer therapi cof.

s-Merge

Rhoddwyd sgwrs olaf y bore gan Mike Hotson a Sara Wentworth o arts4wellbeing ar dreftadaeth a lles mewn cymunedau gwledig. Sefydliad hyfforddi arloesol yw arts4wellbeing sy’n harneisio cyfuniad o greadigedd a datblygiad personol i wella bywydau mewn cymunedau ar draws Cymru. Pan ofynnwyd iddynt beth yr oeddynt ei eisiau, dywedodd pobl mewn cymunedau gwledig yr hoffent gael rhywle i gyfarfod â phobl newydd, cael rhywbeth i’w wneud, a gwybod pwy sy’n byw yn y pentref (byddai hyn yn cynyddu eu teimlad o ddiogelwch a pherthyn). Mae arts4wellbeing yn canolbwyntio ar storïa rhwng y cenedlaethau, creadigedd a chwerthin, ac roedd digon o  hynny yn Siambr Cyngor y Llyfrgell Genedlaethol.

Gofynnwyd i’r cynrychiolwyr ymestyn a dylyfu gên, ysgwyd llaw gyda phobl nad oeddynt wedi cyfarfod â nhw o’r blaen, a gwrando ar storïau rhyfeddol am helpu pobl i ddod allan o’u hunigrwydd drwy gyfrwng cerddoriaeth, cysylltiadau dynol a mwytho colomen!

s-Merge

Yn ystod amser cinio cafwyd cyfle i ymweld â Llyfrgell ac Ystafell Ymchwil y Comisiwn Brenhinol i weld deunydd o’r archif ac i ddarganfod sut i ddefnyddio Coflein, AddoldaiCymru.org a Chasgliad y Werin Cymru i gyrchu ein hadnoddau. Bu’n rhaid i Helen Rowe a David Thomas gloddio’n ddwfn i adnabod deunydd mewn ymateb i ymholiadau gan y cynrychiolwyr, yn llwyddiannus fel rheol, a dangosodd Lynne Moore, Rhodri Lewis ac Ywain Tomos rai o emau ein casgliad a’r llyfrgell.

s-Merge

Ar ôl cinio, Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth fu’n llywio gweithgareddau’r prynhawn. Siaradodd yr Athro John Harvey am gof mewn perthynas â dementia, a gwahoddodd y rhai a oedd yn bresennol i’w ddigwyddiad celfwaith-sain, I. Nothing. Lack., ym Methel, Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Aberystwyth, ar 24 Tachwedd 2017. Mae’r ‘ymyriad sonig’ hwn yn ymdrin â themâu cofio ac anghofio. Yna disgrifiodd y briff a roddwyd i’r myfyrwyr MA wrth baratoi ar gyfer y diwrnod – y prif amcan oedd cynllunio a rhedeg gweithdai i ddarganfod ffyrdd arloesol i staff iechyd proffesiynol a gofalwyr ddefnyddio deunydd o Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru i helpu’r rheiny sy’n byw gyda dementia – a chyflwynodd y chwe myfyriwr.

s-Merge2

Awgrymodd Sarah Spencer a Bridget Bailey dair taith gerdded (Stad yr Hafod, Tref Aberystwyth a Llwybr Arfordirol Ceredigion) a all gael eu defnyddio i wella iechyd a lles, ysgogi atgofion a darparu deunydd i greu, er enghraifft, blwch cof neu collage. Roeddynt wedi dod ag enghreifftiau gwych o flychau cof wedi’u creu gan fyfyrwyr o Goleg Ceredigion, a gofynnwyd i’r cynrychiolwyr ryddhau eu creadigedd eu hunain ar y defnyddiau a ddarparwyd.

s-Merge3

Cyflwynodd Simon Tune a Vin Forde beth o’r ymchwil meddygol diweddaraf a buont yn sôn am sut y defnyddir gemau cyfrifiadurol a realiti rhithwir i ddysgu mwy am ddementia. Dangosasant sut y gall awyrlun fod yn gyfrwng ar gyfer trafod a chysylltu rhwng y cenedlaethau, gan ddefnyddio cyfweliadau wedi’u recordio fel ffilmiau byrion. Yn yr un modd, mae ffonau clyfar yn awr yn gallu creu golygon 360° o ffotograffau neu luniadau, gan ddefnyddio meddalwedd rhad ac am ddim.

s-Merge4

Roedd Ellie West a Carmen Reid wedi creu llinell amser rithwir, a oedd yn cwmpasu delweddau, cerddoriaeth a recordiadau o CHCC a Chasgliad y Werin Cymru. Gan ganolbwyntio ar adeiladau a digwyddiadau eiconig, dangoswyd sut y gall plymio i mewn ac allan o hanes ysgogi atgofion a chysylltiadau. Nid oes rhaid i’r llinell amser fod neu aros yn rhithwir – gall gael ei wneud yn llyfr neu’n waith celf go iawn hefyd. Aeth y cynrychiolwyr ati’n frwd i greu eu llinellau amser eu hunain, gan ddewis un degawd penodol yn ganolbwynt.

Clowyd y digwyddiad drwy gynnal sesiwn adborth a gwerthuso fer, gan roi cyfle i’r cynrychiolwyr nodi’r syniadau yr hoffent ymchwilio iddynt ymhellach neu fynd â nhw yn ôl i’r gweithle. Y farn gyffredinol oedd mai’r cysylltiad dynol oedd wrth wraidd lles, i bawb ond yn arbennig i bobl sy’n byw gyda dementia.

12/20/2017

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets