
Archwiliwch Eich Archifau 2020 – Technolegau Digidol ym maes Treftadaeth

NPRN 306041 C.444624 Cyfeirnod PMW08
Mae ein hymgyrch Archwiliwch Eich Archifau (AEA2020) wedi mynd yn gyfan gwbl ddigidol eleni, yn rhannol oherwydd y cyfyngiadau presennol ar gyrchu ein harchifau a llyfrgelloedd poblogaidd.
Rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i archwilio a dathlu ein Technolegau Digidol yn sgil Cynhadledd Gorffennol Digidol lwyddiannus 2020 (GD2020) ar Dechnolegau Newydd ym Meysydd Treftadaeth a Dehongli, a’r arddangosfa gysylltiedig a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Chwefror 2020.
Roeddem o’r farn y byddai ymgyrch eleni yn gyfle perffaith i rannu ymhellach yr adnoddau syfrdanol ac amhrisiadwy hyn.
Bydd y technolegau digidol newydd sy’n cael sylw yn cynnwys: Ailgreadau ac Animeiddiadau Cyfrifiadurol 3D; Arolygon Laser-sganio a Hediadau-Trwodd; Arolygon LiDAR; Arolygon Data Sonar Amlbaladr; Arolygon Drôn (UAV); Ffotogramatreg; Geoffiseg; Ffotograffiaeth Gigapicsel 360 Gradd; a Fideos 360 Gradd.
Mae’r delweddau a gynhyrchir yn cynnig ffyrdd unigryw a chyffrous o edrych ar henebion ac adeiladweithiau ac yn cryfhau ein dealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.
Cadwch eich llygaid ar agor am newyddion pellach yn ystod yr wythnos!
Bydd yn ymddangos ar ein blog Treftadaeth Cymru rheolaidd ar ein gwefan
ar Facebook ac ar ein cyfrifon Twitter: @RCAHMWales; @RC_Survey; @RC_Archive
Cofiwch am ein hashnodau rheolaidd: #LlunDyddLlun; #MeddwlMawrth; #TechTuesday; #HwylHanes yn ogystal â hashnodau ymgyrch eleni: #ArchwiliwchEichArchifau #ExploreYourArchive ac #ArchwiliwchEichArchifGartref #ExploreYourArchiveAtHome.
I gael blas ar rai o themâu eleni, gweler hefyd:
• GD2020
• Sianel YouTube CBHC: rhestr chwarae technoleg ddigidol
• Blog Louise Barker a Sue Fielding o’n Tîm Arolygu ac Ymchwilio
• Animeiddiadau, Ailgreadau a Theithiau Teithwyr Ewropeaidd i Gymru
• Capeli Cymru: Animeiddiadau a Hediadau-Trwodd
• Capeli Cymru: Animeiddiadau:
• Archif Cof CBHC
• Archif Cof CYW: Casgliad Natur
• Archif Cof CYW: Casgliad Ffermio
• Archif Cof CYW: Casgliad Ystafelloedd Byw
• Archif Cof CYW: Casgliad Teledu a Radio

NPRN 33908 C.641005 Cyfeirnod RCANI_18_02

NPRN 359 C.671057 Cyfeirnod ETW_TIN


NPRN 506357 C.671492 Cyfeirnod CHR_04_04_01_04

NPRN 307941 C.563690 Cyfeirnod WACS04_01_009

NPRN 421684 C.644803 Cyfeirnod DS2018_471_012

19/11/2020