Arddangosfa deithiol ddi-dâl: Cymru a’r Môr / Wales and the Sea

Bydd arddangosfa deithiol ddi-dâl sy’n edrych ar y berthynas hanesyddol a chyfoes rhwng Cymru a’r môr ac sydd wedi’i hysbrydoli gan storïau a lluniau o gasgliadau Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a Cadw, ar gael i’w bwcio o ganol Ionawr 2019 hyd fis Rhagfyr 2020. Gan ddefnyddio delweddau, mapiau a llawysgrifau o’r casgliadau cenedlaethol hyn, bydd yr arddangosfa’n olrhain hanes, diwylliant, diwydiant a phobl forwrol Cymru ac yn annog cynulleidfaoedd i ystyried y berthynas fyw rhwng Cymru a’r môr. Mae’r arddangosfa hon yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau i chi. Mae dewis o 10 panel gwybodaeth dwyieithog (maint portread A1) ar foamex 5mm neu bedwar panel arddangos rhydd-sefyll dwyieithog ar ‘hwyliau dwbl’ 2.5m x 2m x 0.6m, a chyfuniad o’r ddau ddewis. Mae’r cynnwys (testun a lluniau) yr un fath ar gyfer y ddau ddewis, ac rydym yn annog lleoliadau sy’n cymryd rhan i ystyried defnyddio gwrthrychau o’u casgliadau eu hunain i gyd-fynd â naratif yr arddangosfa.

Gellir llogi’r arddangosfa am ddim a bydd ar gael am 8-12 wythnos.

 

Kyffin Williams, 'Storm o'r Traeth', © Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Kyffin Williams, ‘Storm o’r Traeth’, © Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Bydd yr arddangosfa hon yn cyd-fynd â chyhoeddi llyfr llawn lluniau gan y partneriaid, Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr/Wales and the Sea: 10,000 Years of Welsh Maritime History, a gaiff ei lansio yn gynnar y flwyddyn nesaf. http://www.gwales.com/bibliographic/?lang=CY&tsid=2

 

Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr

Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr

 

I gael mwy o wybodaeth a chopi o daflen yr arddangosfa, cysylltwch â Nicola Roberts drwy e-bost yn nicola.roberts@cbhc.gov.uk neu drwy ffonio 01970 621248.

 

Tanysgrifiwch i borthiant newyddion y Comisiwn Brenhinol

Rydym ghefyd ar gael ar:

November 7, 2018

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets