Arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor

Mae ein harddangosfa boblogaidd ‘Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru’ yn symud ymlaen unwaith eto, y tro hwn i Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor, gogledd Cymru.

Bydd yr arddangosfa’n agor ar Ddydd Sadwrn, 19 Ionawr 2013, ac yn cau ar Ddydd Sadwrn, 2 Mawrth 2013. Bydd mwy na deg ar hugain o ddelweddau o gartrefi Cymru o archif helaeth y Comisiwn yn cael eu dangos, ynghyd â gwrthrychau domestig o gasgliadau’r amgueddfa ei hun. Defnyddir llyfr y Comisiwn, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru, i ategu’r arddangosfa.

Bydd Rachael Barnwell, curadur y Comisiwn Brenhinol sy’n gyfrifol am yr arddangosfa hon, yn rhoi sgwrs fer yn ystod yr agoriad ar 19 Ionawr.
I gael manylion amserau agor a mynediad, ewch i wefan Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, neu ffoniwch 01248 353 368.

Er i rewgelloedd modern ddechrau cael eu gwerthu ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ni welwyd mohonynt mewn amryw o gartrefi Cymru tan yn ddiweddarach. Tynnwyd y llun hwn o Henryd yn Sir Gaernarfon ym 1950 ac mae cig yn dal i gael ei gyffeithio a’i gadw yn y ffordd draddodiadol.  DI2012_0138   NPRN 26615

01/16/2013

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x