Arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru yn Nhŷ a Pharc Bedwellte

Yng Nghymru, caiff y llestri ‘gorau’ eu harddangos fel rheol, wedi’u trefnu yn eu holl ysblander ar ddresel. Mae gan y ddresel Gymreig a ddangosir yn y gegin hon yn Nhŷ Nantclwyd, Rhuthun, set nodweddiadol o blatiau a dysglau ‘patrwm helyg’. Nodwch hefyd yr amrywiaeth o jygiau sy’n hongian ar fachau o’r nenfwd. Pwrpas y cyfan yw dangos lletygarwch, glanweithdra a thrysorau teuluol y cartref. NPRN 27555

Mae ein harddangosfa ‘Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru’ yn symud unwaith eto, y tro hwn i Dŷ a Pharc Bedwellte yn Nhredegar.

Agorodd yr arddangosfa yn gynharach y mis hwn, a gellir ei gweld hyd y 4ydd o Ionawr 2012.

I gael manylion amserau agor a mynediad, ewch i www.bedwelltyhouseandpark.co.uk, neu ffoniwch 01495 353370.

11/22/2012

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets