Arolygion LiDAR CHERISH Newydd O’r Ynysoedd Cymraeg

Cofnodi safleoedd arfordirol gyda’r tîm CHERISH.
Cofnodi safleoedd arfordirol gyda’r tîm CHERISH.

Fe enw i yw Amber Andrews. Fe orffennais fy nghwrs gradd ym Mhrifysgol Abertawe yn ddiweddar a byddaf yn astudio am radd Meistr yn yr hydref. Ers graddio rydw i wedi cwblhau lleoliad pythefnos o hyd gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gweithio ar y Prosiect CHERISH. Yn ystod y cyfnod hwn rydw i wedi dysgu am waith y Comisiwn ac am y Prosiect CHERISH yn ogystal â chyflawni dwy dasg a fyddai’n arwain at gyhoeddi deunydd archifol newydd ar Coflein. Gan weithio’n agos â Toby Driver, rydw i wedi creu delweddau LiDAR 2D a 3D o ddata laser-sganio a gasglwyd yn ystod hediadau dros chwe ynys yn 2017 i gofnodi eu harchaeoleg a hwyluso mapio newid arfordirol. Wrth i lefel y môr godi ac i stormydd gynyddu, mae llunio mapiau manwl o archaeoleg fregus yr ynysoedd hyn yn un o amcanion allweddol y Prosiect CHERISH.

Archaeoleg yr Ynysoedd

I greu’r delweddau trawiadol hyn, rydw i wedi defnyddio’r Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ArcMap ac ArcScene i drin y data LiDAR. Roedd prosesu’r data yn eithaf cymhleth ac roedd dewis y lluniau gorau o archaeoleg yr ynysoedd yn dasg heriol ond buddiol. Gweler isod sioe sleidiau o rai o’r canlyniadau mwyaf trawiadol sydd bellach ar gael i’r cyhoedd yn www.coflein.gov.uk.

Ar un o’r ynysoedd mwyaf, Ynys Enlli, mae’r ddelweddaeth 3D syfrdanol yn dangos daeareg ac archaeoleg y dirwedd yn glir. Mae’r delweddau 2D o’r ynysoedd yr un mor nodedig, yn enwedig y rheiny o Ynys Seiriol lle defnyddiwyd delweddu LiDAR i ‘stripio’r llystyfiant i ffwrdd’ a datgelu archaeoleg ac adeiladau canoloesol o dan y canopi o goed. Mae’r delweddau hyn o ddefnydd i ddaearegwyr ac archaeolegwyr fel ei gilydd, a bydd y data LiDAR yn adnodd hynod bwysig ar gyfer astudio ynysoedd Cymru yn y dyfodol.

Mae’r delweddau LiDAR yn dangos Ynysoedd y Moelrhoniaid (Skerries), Ynys Seiriol (Puffin Island), Ynys Enlli (Bardsey Island), Ynysoedd Tudwal (Tudwal Islands), Ynys Dewi (Ramsey Island) a Gwales (Grassholm). Darganfyddwch fwy drwy chwilio am yr ynysoedd yn ôl eu henwau yn www.coflein.gov.uk ac wedyn am gofnodion sy’n cynnwys delweddau ar-lein.

10/29/2019

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x