
Arolygu a Dehongli Digidol
Ers ei sefydlu ym 1908, mae’r Comisiwn Brenhinol wedi dod yn adnabyddus am ei arbenigedd o ran arolygu, dehongli ac ail-greu adeiladau hanesyddol a safleoedd archaeolegol, ac am ei waith yn datblygu safonau yn y meysydd hyn. Prynasom ein Dyfais Mesur Electronig gyntaf (EDM) ym 1984, ac rydym yn ymdrechu ers hynny i ymgorffori technolegau digidol arloesol yn ein gwaith er mwyn hybu a gwella ein dealltwriaeth o dreftadaeth Cymru.

Bydd y Tîm Arolygu ac Ymchwilio yn defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau arolygu digidol wrth wneud arolygon o dreftadaeth amrywiol Cymru. Defnyddir arolygon Theodolitau Gorsaf Gyflawn (TST), arolygon Systemau Lloeren Llywio Byd-eang (GNSS), laser-sganio o’r awyr (LiDAR), laser-sganio ar y ddaear, ffotogrametreg, a ffotograffiaeth giga-picsel i gofnodi safleoedd, tirweddau, adeiladweithiau ac adeiladau yn hynod fanwl mewn tri dimensiwn. Caiff y data hyn eu harchifo yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru, gan greu cofnod parhaol o’r safle y gellir rhoi ystyriaeth bellach iddo yn y dyfodol, a dyma’r sylfaen hanfodol dros ddeall a dehongli heneb.
Rhan o waith y Tîm Arolygu ac Ymchwilio sy’n datblygu’n gyflym yw dehongli digidol. Mae defnyddio modelu cyfrifiadurol 3D, llwyfannau chwarae gemau, sfferau ffotograffig cydraniad-uchel 360° a Realiti Rhithwir yn arf ymchwil pwysig wrth geisio deall sut y cafodd safle ei adeiladu a’i ddatblygu. Mae’r technegau hyn hefyd yn cynnig cyfleoedd cyffrous newydd i ledaenu ein hymchwil i gynulleidfaoedd mewn ffordd sy’n galluogi pobl i ddeall a gwerthfawrogi eu treftadaeth yn well ac yn llawnach.
Yn ogystal â chreu cofnodion ac adnoddau digidol-anedig, mae Uned Ddigido fewnol y Comisiwn Brenhinol yn gyfrifol am ddigido ein harchif hanesyddol. Mae hyn yn cynnwys datblygu rhaglenni thematig i gynorthwyo ein prosiectau ymchwil, digido i wneud ein harchif yn fwy hygyrch i’r cyhoedd, a rhaglenni o waith cadwraeth i sicrhau y diogelir eitemau bregus.
Adnodd di-dâl
Adnodd di-dâl yw Rhannu ein Gorffennol Digidol sy’n egluro mwy am ein gwaith gyda thechnolegau digidol ac yn dangos ein hanimeiddiadau, hediadau-trwodd laser-sganio, a modelau 3D.



25/11/2020