CBHC / RCAHMW > Gorffennol Digidol > Arolygu Digidol yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2018

Arolygu Digidol yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2018

 

Bydd cynhadledd Gorffennol Digidol 2018 yn rhoi llwyfan i nifer o brosiectau arolygu, sy’n defnyddio amrywiaeth o fethodolegau a thechnegau arloesol ar gyfer gwneud arolygon o’r tir, yr awyr a’r môr.

Bydd yr Athro Moshe Caine a Doron Altaratz o’r Adran Cyfathrebu Ffotograffig, Coleg Academaidd Hadassah, Caersalem, yn ymuno â ni i siarad am Ddirgelwch y Croesau. Athro cyswllt yng Ngholeg Academaidd Hadassah, Caersalem sy’n arbenigo mewn cyfathrebiadau rhyngweithiol a thechnolegau delweddu uwch yw Moshe. Bydd hefyd yn darlithio ar Ddelweddu Cadwraethol yn Adran Archaeoleg Prifysgol Haifa ac mae’n uwch ddarlithydd Dylunio Rhyngweithiol yng Ngholeg Academaidd Emunah, Caersalem. Darlithydd yn yr un sefydliad, ac yn ymgeisydd PhD, yw Doron. Bydd eu cyflwyniad yn ymdrin â’r technegau arolygu sy’n cael eu defnyddio mewn ymgais i ddatrys hen hen ddirgelwch – sef y cannoedd o groesau, symbolau a thestunau sydd wedi’u harysgrifio ar furiau Capel Santes Helena ac y tu ôl i’r allor, yn Eglwys y Beddrod Sanctaidd yng Nghaersalem, a briodolir i Groesgadwyr y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif.

 

                              Close up RTI             arran_fig_2 low

Bydd Lukasz Banaszek, Swyddog Mapio Pell-synhwyro yn Historic Environment Scotland (HES), yng nghynhadledd Gorffennol Digidol i drafod gwaith HES ar Ddatblygu Ymagwedd at Fapio Cenedlaethol: Dechrau Gwaith ar yr Alban ar Raddfa Fach. Mae’r sefydliad yn dibynnu fwyfwy ar Sganio Laser o’r Awyr (neu LiDAR) i gael mapiau gwell o dirwedd yr Alban. Er bod ansawdd uchel y data o Sganio Laser o’r Awyr yn cynnig manteision mawr ym maes mapio archaeolegol, mae hefyd yn cynnig cyfleoedd helaeth i ofyn cwestiynau pellgyrhaeddol am lifoedd gwaith, prosesau ac arferion gwaith a allai weddnewid natur  archwilio archaeolegol. Bydd Lukasz yn cyflwyno gwaith rhagarweiniol a wnaed ar Ynys Arran, ‘Yr Alban ar Raddfa Fach’, y gobeithir y bydd yn arwain at ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer mapio o’r awyr, ac yn trafod yr angen am lifoedd gwaith newydd a newid mewn agweddau ac arferion traddodiadol.

Prosiect cyffous newydd wedi’i ariannu gan Ewrop yw CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd). Mae’n cael ei arwain gan y Comisiwn Brenhinol mewn partneriaeth â’r Rhaglen Ddarganfod, Iwerddon, Prifysgol Aberystwyth: Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a’r Arolwg Daearegol, Iwerddon. Prif amcan CHERISH yw cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o effeithiau (ddoe, heddiw ac yn y dyfodol) newid hinsawdd a’r cynnydd mewn stormydd a digwyddiadau tywydd eithafol ar dreftadaeth ddiwylliannol riffiau, ynysoedd a phentiroedd moroedd rhanbarthol Cymru ac Iwerddon, gan ddefnyddio technegau arloesol i ddarganfod, asesu, mapio a monitro asedau treftadaeth ar y tir ac o dan y môr. Yn Pontio’r Bylchau, bydd Daniel Hunt, Ymchwilydd Prosiect, a Dr Toby Driver, Uwch Ymchwilydd (Arolygu o’r Awyr), gyda’r Comisiwn Brenhinol, yn crynhoi methodolegau a thechnolegau arloesol y prosiect, yn ogystal â thrafod manteision dod ag arbenigwyr o wahanol gefndiroedd ynghyd fel y gallant gymhwyso eu harbenigedd at broblemau cyffredin, gyda photensial enfawr ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth a hyfforddiant, ac effaith bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd ar ddyfodol ymchwil.

NEW Dinlle SFM dense mesh 7low                       TST Skelligs 2

Uwch Arbenigwr Arforol a Goruchwyliwr Deifiau Wessex Archaeology yw Graham Scott. Mae’n un o archaeolegwyr morol mwyaf profiadol y DU. Mae wedi arwain dwsinau o ddeifiau archaeolegol i gleientiaid fel Historic England, Historic Environment Scotland a CADW, a bu’n gyfrifol am waith ar lawer o safleoedd archaeolegol morol pwysicaf Prydain, gan gynnwys llongddrylliad 1665 y London, llong ryfel Siarl II, llongddrylliad 1703 y Stirling Castle a llongddrylliad Swash Channel o’r 17eg ganrif. Mae gwaith diweddar yn cynnwys archwilio nifer o longau tanfor Almaenig o’r Rhyfel Byd Cyntaf oddi ar arfordiroedd Swydd Efrog, Caint a Chernyw a Llongau’r India ar y Goodwin Sands ac yn Shetland. Bydd Graham yn egluro i’r cynadleddwyr y technegau arolygu digidol sydd wedi cael eu defnyddio hyd yma i gofnodi a deall safleoedd tanddwr, gan drafod eu datblygiad a’u cryfderau cymharol. Bydd hefyd yn ystyried datblygiadau posibl yn y dyfodol.

 

Cynhadledd Gorffennol Digidol Gwybodaeth Defnyddiol Cofrestru | Sylwadau | Blog | Stondinau Arddangosfa | Cynnig

26/01/2018

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x