
Arolygu Digidol yng nghynhadledd Gorffennol Digidol 2020
Cynhelir ein sesiwn Arolygu Digidol ar brynhawn cyntaf y gynhadledd, 12 Chwefror, ac mae’n bleser gennym groesawu siaradwyr a fydd yn rhoi sgyrsiau am waith arolygu ledled y DU.

Shôned Jones, Swyddog Prosiect Wessex Archaeology, fydd yn rhoi’r sgwrs gyntaf, a hynny am gloddiadau diweddar y cwmni yn Abaty Caerfaddon. Gan fod yn rhaid ymgymryd â’r gwaith cloddio mewn lle cyfyng iawn, roedd arolygu digidol traddodiadol yn broblematig, felly penderfynwyd arbrofi gyda chofnodi ffotogrametrig 4D. Bydd Shôned yn edrych ar y dechnoleg ac ar y cyfleoedd mae defnyddio’r dull hwn yn eu cynnig ar gyfer treftadaeth. (Yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd.) Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2020/01/2.-Bath-Abbey-Footprint-Shoned-Jones-Cy.pdf

O abaty canoloesol teithiwn i dŷ celfyddyd a chrefft, sef The Hill House a gynlluniwyd gan Charles Rennie Mackintosh. Adeiladwyd campwaith Rennie Mackintosh ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ond oherwydd y concrit arbrofol a ddefnyddiwyd yn ei gynllun mae treiddiad dŵr wedi bod yn broblem o’r cychwyn cyntaf. Bydd Sophia Mirashrafi, Swyddog Prosiect Digidol prosiect The Hill House, yn trafod sut mae Historic Environment Scotland ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban wedi bod yn defnyddio technolegau arloesol i geisio ateb terfynol i’r broblem hon, gan gyfuno modelu 3D, mapio lleithder a thermograffi i lunio strategaeth ar gyfer rheoli’r adeilad eiconig hwn yn y dyfodol. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/11/2.-The-Hill-House-A-Collaboration-in-Digital-Documentation-and-Scientific-Investigation-Cy.pdf

Cwmni blaenllaw sy’n darparu data a gwasanaethau arolygu digidol, GIS a lleoliad-seiliedig ar raddfa fyd-eang yw Bluesky International Ltd. Mae’n berchen ar nifer o synwyryddion a ddefnyddir ganddo ar awyrennau i dynnu awyrluniau a chasglu data LiDAR eithriadol o fanwl. Un o’r rhain yw’r Leica City Mapper, synhwyrydd awyrennol hybrid cyntaf y byd sy’n cyfuno delweddaeth fertigol ac arosgo a laser-sganio 3D. Bydd George Dey yn trafod datblygiad technolegau pell-synhwyro o’r awyr, gan gynnwys cyfuno delweddu isgoch a thermol â laser-sganio o’r awyr, drwy ystyried cyfres o astudiaethau achos diweddar gan gynnwys y prosiect CHERISH a phrosiect Gwaddol Archaeolegol Llundain. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2020/02/2.-Bluesky-Data-George-Dey-Cy.pdf

Ein siaradwr olaf yn y sesiwn fydd Anthony Corns, Rheolwr Technoleg Rhaglen Ddarganfod Iwerddon, yr ydym yn ei groesawu’n ôl fel siaradwr ar ôl pum mlynedd. Yn 2015 bu’n siarad am y prosiect 3D-ICONS, gan gyflwyno’r ystod o ddogfennaeth ddigidol a oedd yn cael ei defnyddio i gofnodi tua 200 o safleoedd archaeolegol, henebion ac adeiladweithiau hanesyddol. Bydd Anthony yn dychwelyd eleni i roi’r newyddion diweddaraf am y prosiect a’r technolegau a ddefnyddiwyd, gan gynnwys sut mae’r setiau data a grëwyd yn cael eu hailddefnyddio’n eang yn y diwydiannau twristiaeth, chwarae gemau, creadigol a chyfryngol yn ogystal ag ar gyfer cadwraeth a dehongli. Crynodeb llawn: https://rcahmw.gov.uk/wp-content/uploads/2019/11/2.-Upcycling-3D-cultural-heritage-Cy.pdf
Mae rhaglen lawn ar gyfer y gynhadledd ar gael a gellir Cofrestru nawr.
#GorffennolDigidol2020
Gorffennol Digidol: Technolegau newydd ym meysydd treftadaeth, dehongli ac estyn-allan
12 & 13 o Chwefror 2020, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Aberystwyth.
Cynhadledd Gorffennol Digidol | Gwybodaeth Defnyddiol | Cofrestru | Sylwadau | Blog | Stondinau Arddangosfa | Nawdd
02/05/2020