CBHC / RCAHMW > Newyddion > Arteries of International Sustainable Industry: the Swansea Canal and its Early Railways gan Stephen Hughes. Cyhoeddwyd gan CBHC a Chymdeithas Camlas Abertawe

Arteries of International Sustainable Industry: the Swansea Canal and its Early Railways gan Stephen Hughes. Cyhoeddwyd gan CBHC a Chymdeithas Camlas Abertawe

Mae Abertawe yn enwog ledled y byd fel tref hyfryd a hyll Dylan Thomas, a’i disgrifiodd fel ‘lovely, ugly town’. Mae hanes Abertawe yn wirioneddol arbennig: rhanbarth Abertawe oedd un o dirweddau diwydiannol dwys cyntaf y byd modern, ac ynghanol y dirwedd honno yr oedd Camlas. Roedd Camlas Abertawe yn pweru diwydiant gan ddefnyddio dŵr, sy’n adnodd cynaliadwy. Roedd yn darparu system drafnidiaeth a alluogodd gyfres o ddiwydiannau rhyngwladol i ddatblygu a ffynnu – copr, haearn a dur, tunplat, a glo. Y ddyfrffordd oedd gwythïen ganolog system gylchredol fwy o faint a oedd yn cynnwys rhwydwaith rheilffyrdd a ddefnyddiai amrywiaeth o locomotifau stêm cynnar, yn ogystal â nerth ceffylau a hyd yn oed ychen, a pharhaodd y ddyfrffordd i ddatblygu am dros ganrif.

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru mewn partneriaeth â Chymdeithas Camlas Abertawe newydd gyhoeddi llyfr â darluniau gwych, sy’n olrhain hanes a phwysigrwydd y Gamlas. Mae’r stori yn cychwyn 230 o flynyddoedd yn ôl â Deddf Seneddol 1794 a oedd yn awdurdodi’r Gamlas a ymestynnai am dros 16 milltir (26 chilomedr) o borthladd Abertawe i Aber-craf.  Roedd gan y Gamlas nifer o lociau a chwlferi oherwydd bod yn rhaid iddi godi dros 370 troedfedd (112.7 medr) o’i dechrau i’w diwedd. Y Gamlas oedd y ganolfan drafnidiaeth lewyrchus ar gyfer diwydiannau niferus yn ystod oes Fictoria, a chafodd ei chaffael gan gwmni’r Great Western Railway yn 1873. Ond dirywiodd y Gamlas yn ystod dechrau’r ugeinfed ganrif a daeth traffig masnachol i ben arni cyn yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y cyfnod ar ôl y Rhyfel, anghofiwyd am bwysigrwydd y Gamlas a chafodd rhannau o’r ddyfrffordd eu cau a’u llenwi wrth i Abertawe foderneiddio. Yn ffodus, mae dŵr yn oddeutu 5 milltir (8 cilomedr) o’r Gamlas o hyd ac mae Cymdeithas Camlas Abertawe, a ffurfiwyd yn 1981, wedi ymroi i adfer y Gamlas fel adnodd cymunedol. 

Mae hanes newydd Camlas Abertawe yn llyfr fformat mawr, sy’n cynnwys dros 300 o dudalennau. Mae ynddo dros 500 o ddarluniau hardd sy’n cynnwys 100 o ddarluniau a baratowyd yn arbennig sy’n ail-greu golygfeydd ac sy’n dangos sut yr oedd y Gamlas yn edrych yn wreiddiol a sut yr oedd yn gweithredu. Bydd y llyfr yn cael ei lansio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Yr Ardal Forol, Abertawe ddydd Gwener 1 Rhagfyr 2023 rhwng 1pm a 3pm. Mae croeso i bawb ond, os oes modd, byddem yn ddiolchgar pe baech yn cofrestru ymlaen llaw drwy gysylltu â nicola.roberts@rcahmw.gov.uk. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael a bydd cyfle i brynu copïau wedi’u llofnodi o’r llyfr yn ogystal â phrintiau a detholiad o luniau dyfrlliw gwreiddiol a baratowyd ar ei gyfer.

Siop Lyfrau’r

Dyma fanylion llawn y llyfr: Arteries of Sustainable Industry: The Swansea Canal and its Early Railways gan Stephen Hughes, wedi’i gyhoeddi gan CBHC a Chymdeithas Camlas Abertawe. ISBN 978-1-871184-65-5. Pris: £45. Mae ar gael o siop lyfrau’r Comisiwn Brenhinol ar-lein a gan Gymdeithas Camlas Abertawe: https://www.swanseacanalsociety.com/ ac ni chodir tâl am ei bostio. Bydd Cyfeillion y Comisiwn yn gallu cael y disgownt arferol o 10%.

Meddai’r awdur, Stephen Hughes: ‘cafodd y llyfr ei awgrymu gan y diweddar a’r gwych Athro Glanmor Williams o Abertawe (sef Cadeirydd y Comisiwn ar y pryd) pan oedd gwaith ailddatblygu yn bygwth llawer o olion y Gamlas. Mae’r darluniau a’r lluniau dyfrlliw niferus, sy’n ail-greu golygfeydd yn y llyfr, wedi bod yn llafur cariad ac wedi cymryd blynyddoedd lawer i’w cwblhau ond rwy’n gobeithio y bydd y llyfr a’i ddarluniau yn gyfraniad parhaol at ddeall y Gamlas.’

Meddai Christopher Catling, Prif Weithredwr y Comisiwn Brenhinol: ‘mae’r llyfr yn dangos pwysigrwydd byd-eang Abertawe yn ystod y Chwyldro Diwydiannol’, ac meddai wedyn, ‘mae’n hanfodol bod gan Gymru gofnod awdurdodol ond hygyrch o’r heneb ddiwydiannol ragorol hon.’

Meddai llefarydd ar ran Cymdeithas Camlas Abertawe: ‘mae’r Gymdeithas wedi cydweithio’n agos â’r Comisiwn Brenhinol i gynhyrchu’r llyfr pwysig hwn. Nod y Gymdeithas yw sicrhau bod y Gamlas yn rhywbeth y gall y gymuned gyfan fod yn falch ohono fel ased o ran treftadaeth ac fel adnodd a ddefnyddir at ddibenion hamdden. Mae ar y Gymdeithas angen aelodau a gwirfoddolwyr newydd o bob oed er mwyn cyflawni ei nodau, sef adfywio’r Gamlas – ni chaiff neb ei wrthod ac mae croeso i bawb.’

Os hoffech gael rhagor o fanylion neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Nicola Roberts: nicola.roberts@rcahmw.gov.uk

Lluniau:

  1. Clawr
  2. Ffig. 1.50. Dyfrffyrdd a diwydiant yn Nhreforys. © Hawlfraint y Goron: CBHC
  3. Ffig. 2.26. Camlas Abertawe yng Nglandŵr gyda phontydd, cwlferi a rheilffyrdd. © Stephen Hughes
  4. Ffig. 2.123. Olwyn ddŵr a ffwrnais chwyth yng gwaith haearn Aber-craf. © Hawlfraint y Goron: CBHC
  5. Ffig. 2.139. CBHC yn cofnodi wrth ymyl pynt hewlwr, a dynnwyd o wely Camlas Abertawe yn yr 1980au. © Hawlfraint y Goron: CBHC
  6. Ffig. 3.16. ‘Hychod’ haearn a godwyd o Gamlas Abertawe. © Hawlfraint y Goron: CBHC
  7. Ffig. 3.19. Smeltwyr copr rhwng Treforys a Glandŵr. © Hawlfraint y Goron: CBHC
  8. Ffig. 3.21. Gwaith copr mwyaf y byd yn Hafod, gyda Chamlas Abertawe yn y tu blaen, wedi’i ddarlunio yn G. Grant Francis, The Smelting of Copper in the Swansea District, 1881
  9. Ffig. 3.163. Locomotifau mewn seidins ar hyd Camlas Abertawe. © Stephen Hughes.
1. Clawr
2. Ffig. 1.50. Dyfrffyrdd a diwydiant yn Nhreforys. © Hawlfraint y Goron: CBHC
3. Ffig.2.26. Camlas Abertawe yng Nglandŵr gyda phontydd, cwlferi a rheilffyrdd. © Stephen Hughes
4. Ffig. 2.123. Olwyn ddŵr a ffwrnais chwyth yng gwaith haearn Aber-craf. © Hawlfraint y Goron: CBHC
5. Ffig. 2.139. CBHC yn cofnodi wrth ymyl pynt hewlwr, a dynnwyd o wely Camlas Abertawe yn yr 1980au. © Hawlfraint y Goron: CBHC
6. Ffig. 3.16. ‘Hychod’ haearn a godwyd o Gamlas Abertawe. © Hawlfraint y Goron: CBHC
7. Ffig. 3.19. Smeltwyr copr rhwng Treforys a Glandŵr. © Hawlfraint y Goron: CBHC
8. Ffig. 3.21. Gwaith copr mwyaf y byd yn Hafod, gyda Chamlas Abertawe yn y tu blaen, wedi’i ddarlunio yn G. Grant Francis, The Smelting of Copper in the Swansea District, 1881
9. Ffig. 3. 163. Locomotifau mewn seidins ar hyd Camlas Abertawe. © Stephen Hughes

24/11/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x