
Asiantaethau Amgylchedd Hanesyddol y DU yn cyhoeddi Datganiad ar Gadwraeth y Cofnod Deallusol Digidol
Mae cynghrair o asiantaethau allweddol sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol y DU wedi cyhoeddi Datganiad ar Gadwraeth Ddigidol mewn seremoni yn swyddfeydd Historic England, Tanner Row, Efrog y prynhawn yma ar Ddiwrnod Rhyngwladol Cadwraeth Ddigidol.
Mae’r gynghrair, a elwir yn Grŵp Bedern, yn cynnwys y Gwasanaeth Data Archaeoleg, Historic England, Historic Environment Scotland, a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). Mae eu casgliadau digidol, gyda’i gilydd, yn cynrychioli adnodd cyfoethog ar gyfer ymchwil ac addysg a gweithgarwch creadigol, diwylliannol a masnachol o fewn yr amgylchedd hanesyddol.
Rhoddodd Dr Eurwyn Wiliam, Cadeirydd Comisiynwyr CBHC, groeso mawr i’r fenter. Dywedodd: “Drwy gyhoeddi’r Datganiad hwn, mae grŵp Bedern yn gobeithio ysbrydoli llawer mwy o unigolion a sefydliadau i fynd ati i ddiogelu eu casgliadau digidol pwysig eu hunain i’r cenedlaethau a ddaw.”
“Nid yw gwarchod yr amgylchedd hanesyddol yn fater syml o ddiogelu adeiladau, henebion a thirweddau mwyach,” eglurodd Alex Paterson, Prif Weithredwr Historic Environment Scotland. “Mae’r Datganiad hwn yn crynhoi’r ymrwymiad mae’n rhaid i ni i gyd ei wneud i ddiogelu ein treftadaeth ddigidol, gan ei gwneud hi’n bosibl i’r genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol fwynhau, deall a rheoli olion ffisegol ein gorffennol.”
Mae technolegau newydd yn creu cyfleoedd pwysig ar gyfer ein cymdeithas a’n heconomi ac, yn sgil y newidiadau hyn, bydd casgliadau treftadaeth yn y dyfodol yn gynyddol ddigidol.
Mae Duncan Wilson, Prif Weithredwr English Heritage, yn cytuno. Meddai: “Mae stori ein gorffennol wedi’i chloi i fyny yn ein harchifau a’n hymchwil, yn ogystal ag yn yr adeiladau a lleoedd sydd wedi goroesi. Felly mae sicrhau bod y cofnodion hyn yn goroesi ac yn ddigidol hygyrch yn ffurf hollbwysig ar ddiogelu. Dyma ran allweddol o’n gwaddol i’r cenedlaethau a ddaw.”
Wrth i dechnoleg symud yn ei blaen, bydd angen i sefydliadau fel Grŵp Bedern reoli effeithiau darfodiad technolegol yn ogystal ag addasu i raddfeydd newydd, cymhlethdodau newydd a disgwyliadau newydd.
“Mae cadwraeth ddigidol yn allweddol ar gyfer diogelu ein treftadaeth ddiwylliannol. Mae’r Datganiad hwn yn pwysleisio ymrwymiad aelodau Grŵp Bedern i’r nod hwn,” meddai’r Athro Julian Richards, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Data Archaeoleg. “Mae data digidol yn gofyn am guraduro gofalus i sicrhau ei fod yn sefydlog a defnyddiol yn y tymor hir, ond mae gan ddata digidol sy’n cael ei gadw’n gywir botensial enfawr i wella dealltwriaeth y cyhoedd o’n treftadaeth gyffredin, yn enwedig os yw ar gael i bawb.”
Cânt gymorth i reoli’r pwysau hyn gan y Gynghrair Cadwraeth Ddigidol, y mae holl sefydliadau Grŵp Bedern yn perthyn iddi. Bydd y Gynghrair yn darparu hyfforddiant, adnoddau a chymorth i helpu’r aelodau i sicrhau mynediad cadarn hirdymor i gynnwys a gwasanaethau digidol, fel y byddant yn cael gwerth parhaus o’u casgliadau digidol. Bydd y Gynghrair hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r heriau strategol, diwylliannol a thechnolegol cysylltiedig ac yn cefnogi’r aelodau drwy eiriolaeth, datblygu’r gweithlu, adeiladu gallu a phartneriaeth.
Mae cyhoeddi Datganiad Bedern yn rhan o raglen ehangach o ddathliadau ac ymrwymiadau cymunedol i gadwraeth ddigidol sy’n gysylltiedig â Diwrnod Rhyngwladol Cadwraeth Ddigidol ar y 30ain o Dachwedd. Bydd y diwrnod hwn, sydd wedi’i drefnu gan y Gynghrair Cadwraeth Ddigidol a’i gefnogi gan rwydweithiau cadwraeth ddigidol ledled y byd, yn dwyn ynghyd unigolion a sefydliadau o bell ac agos i ddathlu’r casgliadau digidol a ddiogelir, y mynediad a gynhelir a’r ddealltwriaeth a feithrinir drwy ddiogelu deunyddiau digidol.
Darllenwch Ddatganiad Grŵp Bedern ar Gadwraeth Ddigidol a’r Amgylchedd Hanesyddol
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
- Ynghylch Grŵp Bedern:
Cafodd y Grŵp ei sefydlu gan y Gwasanaeth Data Archaeoleg, English Heritage (aelodaeth drwy Historic England bellach), Comisiwn Brenhinol Henebion yr Alban (Historic Environment Scotland bellach) a CBHC, a gyfarfu gyntaf yn Neuadd Bedern, Efrog ym mis Hydref 2011. Mae Grŵp Bedern yn bodoli i ddarparu fforwm i sefydliadau sydd â diddordeb arbennig mewn rheoli data yn y tymor hir – data am yr amgylchedd hanesyddol yn benodol. Caiff y cyfarfodydd eu hwyluso a’u cadeirio gan y Gynghrair Cadwraeth Ddigidol fel nad yw’n cael ei harwain gan un asiantaeth.
http://www.dpconline.org/our-work/working-groups-and-task-forces/bedern-group
- Ynghylch Aelodau Grŵp Bedern:
- Y Gwasanaeth Data Archaeoleg – Cadwrfa ddisgyblaeth-benodol wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Efrog yw’r Gwasanaeth Data Archaeoleg (ADS). Mae ganddo fwy nag 20 mlynedd o brofiad o ddiogelu data archaeolegol digidol. Bydd yr ADS yn cefnogi ymchwil, dysgu ac addysgu drwy ddarparu adnoddau digidol di-dâl a dibynadwy o ansawdd uchel. Bydd yn hybu arfer da gan y rheiny sy’n defnyddio data digidol ym maes archaeoleg, yn rhoi cyngor technegol i’r gymuned ymchwil, ac yn cefnogi cyflwyno technolegau digidol: http://archaeologydataservice.ac.uk/
- Historic England – Historic England yw’r corff cyhoeddus sy’n gofalu am amgylchedd hanesyddol Lloegr, gan bleidio achos lleoedd hanesyddol a helpu pobl i’w deall, eu gwerthfawrogi a’u gwarchod: https://historicengland.org.uk/
- Historic Environment Scotland – Historic Environment Scotland yw’r corff cyhoeddus arweiniol a sefydlwyd i ymchwilio i amgylchedd hanesyddol yr Alban a gofalu amdano a’i hyrwyddo: https://www.historicenvironment.scot/
- Ynghylch CBHC – Mae gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru rôl genedlaethol flaenllaw o ran datblygu a hyrwyddo dealltwriaeth o dreftadaeth archaeolegol, adeiledig ac arforol Cymru, fel cychwynnwr, curadur a chyflenwr gwybodaeth awdurdodol i wneuthurwyr penderfyniadau unigol a chorfforaethol, a rhai’r llywodraeth, ac i ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol: https://cbhc.gov.uk
- Ynghylch y Gynghrair Cadwraeth Ddigidol
Sefydliad aelodaeth yw’r Gynghrair Cadwraeth Ddigidol sy’n galluogi ei haelodau i ddarparu mynediad cadarn hirdymor i gynnwys a gwasanaethau digidol, gan eu helpu i sicrhau gwerth parhaus o’u casgliadau digidol. Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r heriau strategol, diwylliannol a thechnolegol cysylltiedig a wynebant. Bydd yn cyflawni ei nodau drwy eiriolaeth, datblygu’r gweithlu, adeiladu gallu a phartneriaeth: http://dpconline.org/
- Ynghylch Diwrnod Rhyngwladol Cadwraeth Ddigidol
Bydd Diwrnod Rhyngwladol Cadwraeth Ddigidol yn cael ei gynnal ar y Dydd Iau olaf ym mis Tachwedd bob blwyddyn. Fe’i cynhelir eleni am y tro cyntaf, a hynny ar y 30ain o Dachwedd, a bydd yn dwyn ynghyd unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r byd i ddathlu’r casgliadau a warchodir, y mynediad a gynhelir a’r ddealltwriaeth a feithrinir drwy ddiogelu deunyddiau digidol. Nod y diwrnod yw creu ymwybyddiaeth ddyfnach o gadwraeth ddigidol a fydd yn arwain at ddealltwriaeth ehangach sy’n treiddio i bob rhan o gymdeithas – busnes, llunio polisi, arfer da personol. Wedi’i drefnu gan y Gynghrair Cadwraeth Ddigidol a’i gefnogi gan rwydweithiau cadwraeth ddigidol ledled y byd, bydd Diwrnod Rhyngwladol Cadwraeth Ddigidol yn cynnig ffenestr i weithgareddau beunyddiol y rheiny sy’n ymwneud â chadwraeth ddigidol neu’n ei hystyried. Gwahoddir y rheiny sy’n creu, curaduro a defnyddio data ar hyd a lled y byd i rannu storïau am eu ‘dyddiau cadwraeth ddigidol’ hwy eu hunain.
Gellir cael ffotograffau gan/ar ôl y digwyddiad cyhoeddi.
Cysylltiad
Sarah Middleton,
Pennaeth Cyfathrebu ac Eiriolaeth
Ffôn: 01904 601952
Dr. William Kilbride,
Cyfarwyddwr Gweithredol
Ffôn: 0141 330 4522
Y Gynghrair Cadwraeth Ddigidol
11 University Gardens, Glasgow, G12 8QQ
Ffôn: 0141 330 2252 E-bost: info@dpconline.org Gwefan: www.dpconline.org
11/30/2017