
Astudiaeth bwysig newydd sy’n datgelu darganfyddiadau o’r awyr o Gymru Rufeinig, yn dilyn sychder 2018
Mae astudiaeth newydd o ddarganfyddiadau o’r awyr a wnaed gan y Comisiwn Brenhinol yn sgil sychder mawr 2018 yng Nghymru newydd gael ei chyhoeddi yn y cylchgrawn Britannia. Awduron yr astudiaeth yw Dr Toby Driver, Uwch Ymchwilydd o’r Awyr y Comisiwn Brenhinol a’r Athro Barry Burnham a Dr Jeffrey L. Davies, arbenigwyr ar hanes Rhufeinig. Mae’n taflu goleuni newydd ar yr hyn a ddeallwn am oresgyniad milwrol Cymru gan filwyr Rhufain yn y ganrif gyntaf OC, a’r aneddiadau Rhufeinig a ddatblygodd yma wedyn.
Mae’r darganfyddiadau’n cynnwys dau wersyll cyrch, tair caer atodol a chyfres nodedig o adeiladau cerrig y tu allan i’r gaer ym Mhen y Gaer ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Hefyd, drwy astudio’r awyrluniau, roedd modd deall cynllun sawl fila hysbys yn well ac adnabod rhai filâu a ffermydd posibl a oedd yn perthyn i’r cyfnod Brythonig-Rufeinig yn ne-ddwyrain, de-orllewin a gogledd-orllewin Cymru. Mae darganfod llwybr ffordd Rufeinig newydd i’r de o Gaerfyrddin yn awgrymu bod caer arfordirol yng Nghydweli neu’r cyffiniau, sydd bellach wedi’i chuddio gan y castell canoloesol o bosibl.
Meddai Dr Driver: ‘Roedd yr hediadau tynnu lluniau yn ystod sychder haf 2018 yn gyffrous a dwys, a gwelsom safleoedd archaeolegol newydd yn ymddangos o dan yr awyren ar hyd a lled Cymru. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gwneud llawer o waith ymchwil ar y darganfyddiadau Rhufeinig syfrdanol ac mae’n wych gallu rhannu’r wybodaeth newydd hon â chynulleidfa ehangach.
‘Yn fwyaf arbennig, mae’r gaer a’r gwersyll cyrch Rhufeinig newydd a ddarganfuwyd yng Ngwent, de-ddwyrain Cymru, yn dangos mor ffyrnig oedd gwrthwynebiad y brodorion i symudiad y fyddin Rufeinig drwy eu tiriogaethau. Rhyw 1900 o flynyddoedd ar ôl i’r amddiffynfeydd hyn gael eu codi, mae eu sylfeini wedi dod i’r golwg eto, am ychydig o wythnosau’n unig, mewn caeau o laswelltir a chnydau crin.’
Gaer Rufeinig Trawsgoed, Ceredigion (Hawlfraint y Goron CBHC, AP_2018_5226) Ffordd Rufeinig, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion (Hawlfraint y Goron CBHC, AP_2018_3248)
Hedfan dros diroedd sych Cymru, 2018
Torrodd sychder haf 2018 yng Nghymru sawl record o ran y tywydd. Ni chafwyd fawr ddim glaw ym misoedd Ebrill a Mai a pharhaodd y sychder ym mis Mehefin. Cofnodwyd y tymereddau cynhesaf yn y DU ym Mhorthmadog yng ngogledd-orllewin Cymru ar ddyddiau olynol tua diwedd mis Mehefin. Hefyd fe gafwyd y mis Mehefin cynhesaf yng Nghymru ers dechrau cadw cofnodion. A hwn oedd y mis Mehefin mwyaf heulog ers 1975 a’r pumed mis Mehefin sychaf erioed, gyda dim ond 21 mm o law.
Dechreuodd olion cnydau ac olion crasu archaeolegol ymddangos ar draws y wlad o’r wythnos olaf ym mis Mehefin, gan barhau hyd ddiwedd Gorffennaf pan drowyd y caeau brown yn wyrdd gan gawodydd o law, rhai ysbeidiol i ddechrau ac yna rai cyson, wrth i’r gwaith o gynaeafu’r cnydau fynd rhagddo. Cafwyd sylw mawr yn y wasg wrth i safleoedd newydd gael eu datgelu (gweler https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-44806069), ac eitemau pellach yn y newyddion yn ystod y flwyddyn (gweler https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-46542523).
Mewn ymateb i sychder 2018, trefnodd y Comisiwn Brenhinol lawer o hediadau ar draws y wlad mewn awyren Cessna 172 er mwyn tynnu lluniau o gymaint o dirweddau â phosibl cyn i’r glaw ddod yn ôl. Yn ystod cyfnod o dair wythnos ym misoedd Mehefin a Gorffennaf, fe dynnwyd tua 5,700 o awyrluniau ar 17 o hediadau, sef nifer y lluniau a gâi eu tynnu mewn blwyddyn fel rheol. Mae wedi cymryd misoedd lawer o waith caled i brosesu, astudio a chofnodi’r dystiolaeth ar y ffotograffau hyn, a darganfuwyd rhyw 200 o safleoedd newydd o ganlyniad.
Uchafbwyntiau Rhufeinig o hediadau 2018. ‘Gweld drwy’r pridd’
Cydiodd y darganfyddiadau o’r awyr yn nychymyg y cyhoedd. Roedd nodweddion archaeolegol newydd yn neidio allan o’r tir brown cras o dan lygaid gwyliadwrus yr archaeolegwyr yn yr awyr. Ar yr un pryd, roedd safleoedd hysbys fel filâu a chaerau Rhufeinig i’w gweld yn llawer manylach, fel pe baen nhw mewn peiriant pelydr-X. Mae’r enghraifft hon yn dangos fila Rufeinig Wyndcliff ger Cas-gwent yn ne-ddwyrain Cymru – gellir gweld yr holl ystafelloedd yn glir.

Gwersylloedd cyrch: tystiolaeth o’r goresgyniad Rhufeinig
Daeth dau wersyll cyrch newydd yng Nghymru i’r golwg yn ystod sychder 2018, y naill ger Three Cocks ar y Mynydd Du a’r llall ger tref Rufeinig Caer-went yn ne-ddwyrain Cymru.
Cafodd gwersylloedd cyrch eu hadeiladu gan y milwyr Rhufeinig yng Nghymru ar ddechrau eu hymgyrchoedd milwrol. Bu 30 mlynedd o ryfela parhaus rhyngddynt a llwyth styfnig a ffyrnig y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd gwersylloedd cyrch yn lleoedd dros dro lle byddai’r milwyr Rhufeinig yn aros dros nos. Byddent yn cloddio lloc amddiffynnol petryalog wedi’i lenwi â phebyll. Maen nhw’n dal yn rhyfeddol o brin yn ne-ddwyrain Cymru – dim ond 3 sy’n hysbys yn sir Gwent ar hyn o bryd – felly roedd darganfod un newydd ger Caer-went yn 2018 yn brofiad arbennig iawn. Hwn hefyd yw’r unig wersyll yng Nghymru y mae ganddo fynedfa amddiffynnol alldroëdig, sy’n nodwedd brin ym Mhrydain Rufeinig.
Ymddangosodd y gwersyll cyrch newydd mewn cae a fuasai’n cael ei gofnodi o’r awyr am hanner can mlynedd; mae’n anhygoel faint o archaeoleg sy’n cuddio ‘yn y golwg’. Cafodd ei adeiladu i amddiffyn y milwyr pan oedd y rhan hon o dde-ddwyrain Cymru yn dal yn lle peryglus iddynt; ond mae wedi’i leoli ychydig i’r gorllewin o dref Rufeinig Caer-went, Venta Silurum, ‘Tref Farchnad y Silwriaid’, lle cafodd y llwyth ei orfodi i fyw ar ôl cael ei drechu.

Caer Rufeinig newydd yng Ngwent
Wrth wneud arolygon o’r awyr ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2018 fe ddarganfuwyd caer Rufeinig fach newydd yn Carrow Hill, wedi’i lleoli ar linell y ffordd Rufeinig rhwng tref Rufeinig Caer-went a Lleng-gaer Caerllion. Hon yw’r gaer atodol Rufeinig gyntaf i’w darganfod yn nyffryn Gwent. Mae siâp ‘cerdyn chwarae’ y gaer sgwâr i’w weld yn glir. Mae’r bwlch o 12 metr rhwng y ffosydd mewnol ac allanol yn cyfateb i’r ‘parth lladd’ a bennir yn llawlyfrau maes y fyddin Rufeinig – dyma hyd tafliad gwaywffon. Rhai o gaerau’r Rhufeinwyr yn yr Alban sydd fwyaf tebyg i’r gaer hon. Mae’r olion cnydau hefyd yn dangos i’r Rhufeinwyr dorri i mewn i domenni claddu cynhanesyddol ger y gaer newydd i wneud odynau ar gyfer cynhyrchu teils.

Caer arfordirol newydd yng Nghydweli, Sir Gâr?
Datgelodd olion crasu mewn glaswelltir lwybr ffordd Rufeinig, na wyddem amdani gynt, yn rhedeg i’r de o dref Rufeinig Caerfyrddin tuag at Gydweli ar yr arfordir, sef tref sy’n fwy adnabyddus am ei chastell canoloesol. Tybid ynghynt fod ffordd Rufeinig yn rhedeg i’r de neu i’r de-orllewin o Gaerfyrddin ond y farn oedd ei bod hi’n mynd i gyfeiriad y gaer arfordirol Rufeinig yng Nghasllwchwr, i’r gorllewin o Abertawe. Mae’r ffordd newydd hon yn peri i ni holi a oedd caer Rufeinig yng Nghydweli ei hun, y mae ei holion bellach rywle o dan y castell a’r dref.

Diagram olion cnydau yn dangos sut mae olion cnydau’n ffurfio yn ystod hafau sych dros olion claddedig safleoedd archaeolegol cynhanesyddol a Rhufeinig coll:
Gweler hefyd: https://cbhc.gov.uk/ol-cnwd-2018/

Cewch ddarllen yr erthygl lawn o Britannia yma, drwy garedigrwydd Gwasg Prifysgol Caergrawnt:
https://www.cambridge.org/core/journals/britannia/article/roman-wales-aerial-discoveries-and-new-observations-from-the-drought-of-2018/7D124572BA29692BA241FED037AEFB6F/share/0ec60d2670e60785200c6e63ad443cd5eeea6ca8
Dr Toby Driver
06/12/2020