
Awduron Cymreig y Rhyfel Byd Cyntaf a’u Cartrefi
Cafodd erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf ddylanwad ar lawer o awduron yng Nghymru, fel mewn lleoedd eraill. Mae’r blog hwn yn dangos y cartrefi a oedd yn gysylltiedig â rhai awduron rhyfel pwysig, a ysgrifennai yn y Gymraeg a’r Saesneg. Roedd Edward Thomas, Ysgrifennydd Cynorthwyol y Comisiwn Brenhinol (a benodwyd ym 1910), yn un o feirdd rhyfel amlycaf Prydain, a chafodd ei ladd wrth ymladd ym Mrwydr Arras ym 1917. Roedd ei farwolaeth yn brofiad dirdynnol i’w gyfaill, W.H. Davies, a gynhwysodd farwnad iddo, “Killed In Action (Edward Thomas)”, yn ei gyfrol “Raptures” a gyhoeddwyd ym 1918.
▶️ Gwyliwch fideo: Awduron Cymreig y Rhyfel Byd Cyntaf a’u Cartrefi

Gorffwysfa, Tremadog.
Cafodd T.E. Lawrence – Lawrence o Arabia – ei eni ar 16 Awst 1888 yng Ngorffwysfa, Tremadog. Pan gyhoeddwyd Seven Pillars of Wisdom (1922), atgyfnerthwyd ei enwogrwydd fel un o ffigurau rhamantaidd prin y Rhyfel. Cafodd ei orchestion eu hanfarwoli gan Peter O’Toole yn y ffilm “Lawrence of Arabia” (1962).

Plas Erinfa, Harlech.
Mae Good-Bye to All That (1929), cofiant Robert Graves, yn olrhain diflaniad yr hen drefn yn sgil trychineb y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd disgrifiad disentiment Graves o fywyd yn y ffosydd yn ddadleuol, ond mae’r llyfr hefyd yn rhoi sylw i hanes ei deulu a’i blentyndod. Celtegwr angerddol oedd Perceval Graves (tad Robert) a adeiladodd Plas Erinfa ger Harlech ar gyfer ei deulu mawr.
▶️ Morgannwg: Ffermdai, Tai a Phlastai

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd.
Enillodd awdl Hedd Wyn y Gadair yn Eisteddfod Penbedw ar ôl iddo gael ei ladd yn y Rhyfel. Cafodd y gadair ei gorchuddio â llen ddu yn ystod seremoni hynod o emosiynol. Nid yw’r Ysgwrn, fferm y teulu ger Trawsfynydd, wedi newid fawr ddim ers y Rhyfel Byd Cyntaf a chedwir cadeiriau eisteddfodol Hedd Wyn yma, gan gynnwys y ‘gadair ddu’. Mae’r tŷ wedi’i restru’n radd II*.

Cadeiriau eisteddfodol Hedd Wyn.

Mae’r tŷ wedi’i restru’n radd II*
▶️ Mewn lluniau: Casgliad o 28 Lluniad Diddorol o Henebion a Manylion Pensaernïol
Cafodd Arthur Machen, awdur storïau goruwchnaturiol, ei eni yng Nghaerllion. Yn ei stori ryfeddol, The Bowmen, mae ysbrydion saethyddion Agincourt yn ymladd ochr yn ochr â’r Prydeinwyr ym Mons. Achosodd y stori gryn gynnwrf ym 1917 a chredai llawer ei bod yn wir.

The Bowmen – and other legends of the War, by Arthur Machen.
Dilynwch ni ar Facebook a Twitter
11/10/2017