Awyren ar y traeth! Ynys-las, Mehefin 1940

Yn ystod haf 2012, recordiodd staff CBHC gyfres o gyfweliadau â phobl yr oedd ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r hen safle datblygu rocedi yn Ynys-las, Ceredigion (NPRN 408393). Cofiodd un o’r rheiny a holwyd, Mr David Williams, fel y bu’n rhaid i awyren lanio ar y traeth un diwrnod.

Dyma adysgrif o’r sgwrs:

DW: …. un o’n rhai ni diolch byth! Dim byd cyffrous iawn, dim ond awyren fyddai’n cael ei defnyddio i dynnu targedau yn yr awyr. Fe wnaeth yr awyren hedfan o Dywyn lle roedd safle milwrol a maes awyr. Daeth o’r safle hyfforddi gwrthawyrennol yn Nhonfannau ger Tywyn. Fe fydden nhw’n hedfan o hyd yn baralel â thraeth y Borth, ryw ddwy neu dair milltir allan, ychydig bach mwy efallai. A bydden nhw’n saethu’n dragywydd at y targedau. Felly dyna ni, fe fyddai’n mynd i fyny ac i lawr. Yn y fanno oedd y safle, wyddoch chi, ac yn y man roedd yn rhan o’r olygfa eto.

MP: Wyddoch chi pam glaniodd yr awyren ar y traeth?

DW: Gwn, doedd yr awyren laniodd ar y traeth ddim o Dywyn fel mae’n digwydd. Roedd hi’r un math o awyren, Hawker Henley. Hawker Henley oedd ar fenthyg gan gwmni Rolls Royce. Roedd yn cael ei defnyddio i brofi injan ‘vulture’ Rolls Royce oedd yn cael ei datblygu ar y pryd. Y gobaith oedd rhoi’r injan yn yr Avro Manchester – rhagflaenydd y Lancaster – a chafodd ei rhoi mewn Hawker Henley i hedfan o gwmpas y wlad i’w phrofi. Torrodd yr injan i lawr ac fe laniodd yn y Borth ac roedden nhw’n gorfod rhoi injan newydd i mewn iddi. A thorrodd honno hefyd. Mae’r holl ddogfennau gen i – daeth dyn yma i wneud ymchwil i’r cyfan ac yn garedig iawn fe roddodd gopïau o gofnodion Rolls Royce am y digwyddiad. Yn fuan wedi hynny cafodd cledrau rheilffordd eu gosod ar hyd y traeth. Dwn i ddim a oedd hynny’n gyd-ddigwyddiad neu beidio – neu oedden nhw’n meddwl os gallen ni lanio yno, gallai’r Almaenwyr wneud hefyd. Faint o bobl fyddai’n gwybod am hynny mewn gwirionedd? Byddai pobl yn meddwl dyna awyren ar y traeth a dim byd mwy na hynny, wyddoch chi.

Ar ôl i’r recordio ddod i ben dywedodd Mr Williams ei fod yn teimlo nad oedd pobl yn credu ei stori pan fyddai’n trafod y digwyddiad.

Wrth chwilio drwy gasgliad awyrluniau RAF Medmenham rywdro arall, daethom ar draws ffotograff a dynnwyd ar 14 Mehefin 1940. Roedd awyren hyfforddi a oedd yn dysgu technegau tynnu awyrluniau (Cyf. MWO7) wedi digwydd cofnodi llun o’r awyren ar y traeth (Ffrâm D 21), gan gadarnhau stori Mr Williams.

Gan Medwyn Parry

06/01/2016

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x