
Baddondy Glan Môr Coll yn dod i’r golwg ar ôl i Storm Ddifrodi Cysgodfan!
Mae’r llanwau uchel diweddar a fu’n taro promenâd Aberystwyth wedi dinoethi olion baddondy pwrpasol cynharaf y dref, yn ogystal ag achosi difrod difrifol i adeiladwaith y cysgodfan hanesyddol ym mhen gogleddol Rhodfa’r Môr.

Llwyddodd tonnau a gyrhaeddodd dros 6 throedfedd o uchder i ddinistrio wyneb y morglawdd ar nos Wener, gan ysgubo ymaith y cerrig llanw o dan Gysgodfan Bathrock (NPRN: 411501). Adeiladwaith pren ag ochrau agored yw’r cysgodfan a adeiladwyd mewn dull Neo-Sioraidd syml yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Mae’n enghraifft ardderchog o’r celfi stryd a oedd yn nodweddiadol o drefi glan môr ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn anffodus, gan fod y cerrig llanw oddi tano wedi’u golchi i ffwrdd, mae’r slab concrit yr oedd y cysgodfan yn sefyll arno wedi dymchwel ac mae’r adeilad wedi dechrau disgyn i’r gwagle islaw.

O fewn y gwagle, mae cyfres o waliau islawr wedi’u dadorchuddio. Cafodd y Marine Baths eu hadeiladu ym 1810 gan Rice Williams Ysw., meddyg a gredai’n gryf fod cymryd bath rheolaidd mewn dŵr heli yn lleddfu rhai cyflyrau meddygol. Roedd yr arfer o ymdrochi mewn dŵr heli am resymau meddygol wedi dechrau ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac roedd cytiau ymdrochi yn nodwedd gyffredin mewn llawer o drefi glan môr erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddai baddondy Dr Rice wedi galluogi’r ymwelydd llai anturus i fanteisio ar y pleser o ymdrochi yn nŵr y môr. Roedd ystafelloedd preifat ar gael i’r ymdrochwyr a baddon ymhob un ‘six feet long and two and a half wide, lined with Dutch tile, which being much less porous than marble, is more effectually cleansed from all impurities to which they are liable’. Yn ogystal, roedd boeleri mawr yn twymo’r dŵr fel nad oedd pobl o gyfansoddiad llai cadarn yn gorfod plymio i ddŵr oer.
Roedd gan y baddondy sylweddol faddon plymio, baddon cawod a baddon anwedd, a llety ar y llawr cyntaf. Ond erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn gorfod cystadlu â baddondy newydd ar Newfoundland Street (Stryd y Baddon erbyn hyn) a’r Queens Hotel yr oedd gan ei ystafelloedd ymolchi dapiau poeth, oer a dŵr heli er cyfleuster ei westeion. Ym 1892 fe gaeodd y Marine Baths a dymchwelwyd yr adeilad wrth wneud gwelliannau wedi hynny i’r promenâd gogleddol.

Bu’r Comisiwn Brenhinol yn tynnu lluniau o’r waliau islawr ac mae’n bwriadu gwneud gwaith ymchwil a chofnodi mwy manwl pan fydd yn ddiogel i wneud hynny. Mae trafodaethau ar y gweill rhwng Cyngor Ceredigion a Cadw ar sut i sefydlogi ac atgyweirio Cysgodfan Bathrock.
Gan: Susan Fielding
01/10/2014