Bae Caerdydd: Amgylchedd sy’n Newid yn Barhaus, Rhan I

Gellir adnabod glannau Bae Caerdydd ar unwaith: mae Adeilad y Pierhead gyda’i frics coch tywyll, wedi’i amgylchynu gan linellau crwm ac onglau miniog ei gymdogion mwy diweddar, yn rhan o amgylchedd adeiledig amrywiol sydd wedi datblygu’n raddol dros gyfnod o ryw ddwy ganrif. Mae adeiladau ar hyd a lled Butetown yn adrodd hanes y datblygu hwn: o bensaernïaeth syml Gwesty Bute Dock i’r Gyfnewidfa Lo uchel-Fictoraidd crand ac adeilad gosgeiddig o fodern y Senedd.

 

Pen gogleddol Doc Dwyreiniol Bute, sef Glanfa Iwerydd bellach, ym 1921.

 

Cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diwydiant arforol Caerdydd yn gweithredu o gei’r ddinas, wedi’i leoli lle mae Quay Street a Westgate Street yn croesi ei gilydd. Gyda’r diwydiannu cynyddol yng nghymoedd Taf a Rhondda ac adeiladu camlesi ac yna reilffyrdd a oedd yn eu cysylltu â Chaerdydd, sylweddolwyd bod y fflatiau lleidiog i’r de yn cynnig cyfleoedd newydd. Agorwyd Doc (Gorllewinol) Bute ym 1839, Doc Dwyreiniol Bute mewn camau rhwng 1855 a 1859, Doc y Rhath ym 1887, a Doc y Frenhines Alexandra ym 1907.

 

Mae Gwesty Bute Dock, a agorwyd ym 1839, yn parhau i gynrychioli’r olaf o’i fath.

 

Roedd Tre-biŵt yn fwy nag ardal ddiwydiannol. Cynlluniodd Stad Bute adeiladau preswyl a masnachol ochr yn ochr â’r dociau a’r warysau. Agorodd llu o dafarndai ac mae Gwesty Bute Dock, a agorwyd yr un flwyddyn â’r doc, yn parhau i gynrychioli’r olaf o’i fath. Dengys Sgwâr Mount Stuart fwriad a datblygiad y fenter. Cafodd ei adeiladu ym 1858 gan Stad Bute i ddarparu tai i weithwyr medrus ar safle gwaith gwydr. Roedd llecyn gwyrdd yn y canol. Gellir gweld enghreifftiau o’r bensaernïaeth wreiddiol o hyd yn rhifau 6-9 ar yr ochr ddwyreiniol a rhifau 20-23 yn y gongl dde-orllewinol. Wrth i Gaerdydd ffynnu gadawodd y bobl a oedd yn byw yn y sgwâr am y maestrefi ac o’r 1880au ymlaen codwyd yr adeiladau hynod addurnedig a’r Gyfnewidfa Lo sydd i’w gweld yno heddiw.

 

Mae Perch Buildings, gyda’i loriau uchaf o c.1858 a’i lawr gwaelod o 1889, yn dangos sut y datblygodd Sgwâr Mount Stuart

 

Mae’r adeiladau hyn o ddiwedd oes Fictoria yn parhau i sefyll, yn dyst i gyfoeth Bae Caerdydd. Ar Bute Street cafodd adeilad addurnol Banc y Midland ei adeiladu ym 1874 i’r Brodyr Cory, perchenogion ac allforwyr glo. Ychydig dros ddegawd yn ddiweddarach, symudodd y cwmni ei swyddfeydd i adeilad pwrpasol newydd: Cory’s Building ar y gornel gyferbyn!

 

Adeiladodd y Brodyr Cory Cory’s Building ym 1889, gan symud o adeilad ar y gornel gyferbyn.

 

Yn anffodus, mae adeiladau sy’n dangos sut yr oedd y bobl gyffredin yn byw wedi’u colli i raddau helaeth gan i lawer o ardaloedd preswyl Tiger Bay gael eu dymchwel o’r 1960au ymlaen. Sut bynnag, nid y rhain oedd yr unig adeiladau i ddisgyn dan ergydion y belen chwalu, gan i’r dirwedd adeiledig gyfnewidiol hon fynd drwy gyfnod arall o drawsnewid mawr, fel yr esboniwn yn ein postiad blog nesaf yn nes ymlaen yr wythnos hon.

 

Bae Caerdydd ym 1937.

 

Oriel: Gwellwyd yn Ddiweddar – Bae Caerdydd, Haf 2018

 

Darllen Pellach:

David Hilling, ‘Through Tiger Bay to Cardiff Bay – Changing Waterfront Environment’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1990), 173-191.

Mae Archifau Morgannwg wedi ysgrifennu nifer o bostiadau blog ardderchog ar lawer o safleoedd ym Mae Caerdydd a Chaerdydd yn gyffredinol. Gallwch gyrchu gwefan yr archifdy yma.

 

Adam N. Coward

 

 

06/08/2018

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x