
Bae Caerdydd: Amgylchedd sy’n Newid yn Barhaus, Rhan II
Mewn postiad blog yn gynharach yr wythnos hon, buom yn trafod sut mae hanes y Bae yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cael ei ddatgelu gan y newidiadau parhaus yn adeiladau Butetown. Parhaodd y datblygu hwn i mewn i’r ugeinfed ganrif, wrth i ddirywiad y diwydiant glo ysgogi trawsnewid pellach.

Yn y 1980au, trawsnewidiwyd y warws hwn yn swyddfeydd ac enillwyd gwobr am yr addasiad
Mae llawer o’r amgylchedd diwydiannol wedi diflannu – mae Camlas Morgannwg yn barc, llenwyd Doc Gorllewinol Bute ym 1964, ac mae basn y doc bellach yn heol, sef Plas Roald Dahl – ond mae rhai adeiladweithiau wedi goroesi a rhoddwyd pwrpas newydd iddynt. Glanfa Iwerydd yw Doc Dwyreiniol Bute bellach, addasiad arobryn a oedd yn cynnwys trawsnewid y warws ym mhen y doc yn swyddfeydd. Mae Ffatri Spillers and Baker wedi’i throi’n fflatiau ac mae warws y London and North Western Railway yn westy. Mae Cory’s Building ar Bute Street a’r adeilad cyfagos ar Bute Place yn cael eu troi’n fflatiau moethus, tra bo’r Gyfnewidfa Lo yn westy.

Yr Eglwys Norwyaidd yn ei safle presennol yn 2008
Mae rhai adeiladau wedi cael eu symud. Cafodd yr Eglwys Norwyaidd, a oedd yn wreiddiol ar gornel dde-ddwyreiniol Doc Gorllewinol Bute, ei hailgodi ar ei safle presennol ym 1982. Cafodd y Swyddfa Dollau ei symud yn ôl rhyw hanner can metr ym 1992.

Cafodd y Swyddfa Dollau ei symud yn ôl rhyw hanner can metr i ddarparu lle i’r rhodfa newydd
Nid yw adeiladau eraill wedi goroesi. Mae safle Merthyr House ar gornel James Street ac Evelyn Street yn wag. Ar ôl cael ei ddifrodi gan dân ym 1947, ni chafodd ei ran ogleddol erioed ei hailadeiladu. Cafodd ar gornel dde-ddwyreiniol Sgwâr Mount Stuart ei ddymchwel ar ôl storm eira 1982. Ar gornel dde-orllewinol y sgwâr mae Bethel, Capel y Bedyddwyr Saesneg, a oedd yn glwb nos Casablanca o 1965, bellach yn faes parcio. Chwalwyd rhai adeiladau i wneud lle i ddatblygiadau newydd. Ym 1993, cafodd adeiladau ar Bute Place, Bute Street a Bute Crescent, gan gynnwys yr adeilad rhestredig Gradd II Gwesty Mount Stuart, eu dymchwel wrth adeiladu Heol Gyswllt Butetown. Bu Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru ym Mae Caerdydd am gyfnod byr yn unig (1977-1998), cyn i siopau a thai bwyta Cei’r Forforwyn gymryd ei lle.

Mae’r llun hwn, a dynnwyd ym 1995, yn dangos faint mae Bae Caerdydd wedi newid mewn amser byr
Mae’r newidiadau hyn yn dangos mor bwysig yw rôl y Comisiwn Brenhinol. Erbyn sefydlu’r Comisiwn ym 1908, roedd llawer o adeiladau o ddiddordeb hanesyddol wedi cael eu codi a’u dymchwel. Yn y dyddiau cynnar roedd pwyslais y Comisiwn ar safleoedd a gawsai eu codi cyn y ddeunawfed ganrif. Ond yn sgil pryderon am yr adeiladau a gollwyd yn yr Ail Ryfel Byd, ehangwyd ein cylch gwaith i gynnwys adeiladau diweddarach, yn enwedig adeiladau mewn perygl. Mae gennym gannoedd o gofnodion a delweddau yn ein harchif sy’n ymwneud ag adeiladweithiau ym Mae Caerdydd sydd wedi’u colli: dyma gofnod parhaol o hanes arforol cyfoethog Caerdydd a Chymru.

Cardiff Bay in 2012 / Bae Caerdydd yn 2012
Oriel: Gwellwyd yn Ddiweddar – Bae Caerdydd, Haf 2018
Darllen Pellach:
David Hilling, ‘Through Tiger Bay to Cardiff Bay – Changing Waterfront Environment’, Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1990), 173-191.
Mae Archifau Morgannwg wedi ysgrifennu nifer o bostiadau blog ardderchog ar lawer o safleoedd ym Mae Caerdydd a Chaerdydd yn gyffredinol. Gallwch gyrchu gwefan yr archifdy yma.
Adam N. Coward
08/10/2018