CBHC / RCAHMW > Newyddion > Bandi Chhor Divas

Bandi Chhor Divas

Eleni digwyddodd Bandi Chhor, y dathliad Sicaidd, ar 12 Tachwedd, sef yr un diwrnod â dechrau Diwali, sef gŵyl y goleuni ac un o’r gwyliau mawr a gaiff eu dathlu gan Hindwiaid, Jainiaid a rhai Siciaid a Bwdistiaid.

Ystyr llythrennol Bandi Chhor Divas yw Diwrnod Rhyddhau Carcharorion, sef y diwrnod pan gafodd y chweched Gwrw – y Gwrw Hargobind Sahib ji – ei ryddhau o Gaer Gwalior gan fynd â 52 o garcharorion gydag ef i ryddid!

Bandi Chhor Divas

Digwyddodd Bandi Chhor Divas am y tro cyntaf yn ystod hydref 1619, ac erbyn hyn caiff yr achlysur ei ddathlu ym mis Hydref neu fis Tachwedd – mae’r dyddiad yn newid yn unol â chalendr y lleuad. Roedd tad y Gwrw Hargobind Sahib ji, sef y Gwrw Arjan Dev ji, wedi’i ferthyru bron 13 blynedd cyn 1619 ac roedd awdurdodau Ymerodraeth Mughal yn cadw llygad barcud ar y Gwrw ifanc. Pan wnaeth adeiladu’r Akal Takht, sef Gorsedd yr Hollalluog, yn Amritsar, aeth ati ar yr un pryd i gryfhau ei fyddin gref a ffyrnig. Dechreuodd Nawab Lahore, sef Murtaja Khan, deimlo’n ofidus ac yn ddrwgdybus a rhoddodd wybod i Jahangir, Ymerawdwr Mughal. Mynegodd y Nawab ei ofn y gallai’r Gwrw fod yn cynllunio i ddial am farwolaeth erchyll ei dad. Ar unwaith, cafodd Wazir Khan a Guncha Beg eu hanfon gan Jahangir i Amritsar i arestio’r Gwrw Hargobind Sahib ji.

Fodd bynnag, roedd Wazir Khan yn un o ddilynwyr ac yn un o edmygwyr y Gwrw. Felly, yn hytrach na’i arestio, gwnaeth berswadio ac argyhoeddi’r Gwrw i ymuno â nhw i fynd i Delhi i gwrdd â’r Ymerawdwr. Er bod Jahangir wedi gorchymyn i dad y Gwrw gael ei ddienyddio, derbyniodd y Gwrw y gwahoddiad ac aeth gyda’r ddau i lys yr Ymerawdwr. Pan wnaeth y Gwrw Sahib gyrraedd Delhi, arhosodd gyda’i fyddin mewn lle o’r enw Majnu ka Tilla. Pan gyfarfu’r Ymerawdwr Jahangir â’r Gwrw ifanc, cafodd ei swyno gan ei gyfaredd a phurdeb ei ysbryd. Yn ystod yr ychydig ddiwrnodau wedyn, bu Jahangir yn gofyn llawer o gwestiynau i’r Gwrw Sahib am ei frenhiniaeth ysbrydol a’i baratoadau rhyfelgar. Atebodd y Gwrw Sahib bob un o’r cwestiynau gyda gras, tosturi a doethineb ysbrydol. Un o’r cwestiynau a ofynnwyd iddo oedd pa grefydd oedd orau, Hindŵaeth ynteu Islam. Wrth ateb, dyfynnodd y Gwrw linellau gan Kabir, a oedd yn datgan bod yr un Arglwydd ymhlith Hindwiaid a Moslemiaid. Roedd yr Ymerawdwr yn fodlon ac yn hapus iawn â’r Gwrw Ji ac roedd yn awyddus iawn iddo fod yn ei bresenoldeb. Roedd y frenhines, Noor Jehan, yn dangos llawer o ddiddordeb yn y Gwrw Sahib a daeth yn un o’i ddilynwyr.

Roedd yr Ymerawdwr wedi’i swyno gan ddoethineb y Gwrw, felly paratôdd dderbynwest frenhinol ar ei gyfer. Yna, gwahoddodd yr Hargobind ifanc i fynd gydag ef ar ei shikars neu’i helfeydd. Yn ystod un o’r helfeydd hynny, achubodd y Gwrw Hargobind Sahib ji fywyd yr Ymerawdwr. Daeth y Gwrw a’r Ymerawdwr yn ffrindiau da, ond arweiniodd hynny at fwy o genfigen ymhlith pobl eraill a oedd yn awyddus i ennill ffafr yr Ymerawdwr. Un o’r bobl hynny oedd Chandu Shah, banciwr cyfoethog, a oedd yn ddylanwadol yn y llys.

Tra oedd yr Ymerawdwr yn Agra, aeth yn sâl iawn ac roedd yn ymddangos na allai dim ei wella. Cafodd sêr-ddewiniaid y llys eu cornelu gan Chandu Shah, a’u hargyhoeddodd i ddweud wrth yr Ymerawdwr mai achos ei salwch oedd cyfluniad anffodus y sêr, ac mai’r unig ffordd o’i wella fyddai bod dyn sanctaidd yn mynd i Gaer Gwalior i’r de o Agra i weddïo am wellhad iddo. Gan esgus bod yn ddiniwed, awgrymodd Chandu Shah mai’r Gwrw Hargobind Sahib ji oedd yr unig un a allai fod yn addas ar gyfer y dasg hollbwysig hon. Felly, ar gais yr Ymerawdwr, cytunodd y Gwrw ji a dechreuodd ar ei daith i’r gaer gyda sawl un yn gwmni iddo. Nid lloches dawel oedd Caer Gwalior ond carchar i gadw gelynion y wladwriaeth, a oedd yn cynnwys nifer o dywysogion Rajput. Yn driw i’w natur, ysbrydolodd y Gwrw nhw i ymuno ag ef mewn gweddïau dyddiol a gwnaeth ei orau i wella eu hamodau. Gydag amser, daethant i’w barchu.

Roedd llywodraethwr y gaer, Hari Das, yn un o Siciaid y Gwrw a throsglwyddodd iddo lythyr gan Chandu Shah a oedd yn ei orchymyn i wenwyno’r Gwrw. Pan oedd y Gwrw wedi bod yng Nghaer Gwalior am sawl mis, aeth ei Siciaid a oedd yn cynnwys Baba Buddha ji ar y daith hir o Amritsar i ddweud wrtho gymaint yr oeddent yn gweld ei golli. Er bod yr Ymerawdwr wedi gwella, roedd y Gwrw ji yn cael ei gadw’n gaeth o hyd. Dyna pryd y teithiodd Mian Mir, sant Swffi nodedig, i lys yr Ymerawdwr i ofyn iddo ryddhau’r Gwrw. Wedi iddo gael ei berswadio, gorchmynnodd yr Ymerawdwr Wazir Khan i ryddhau’r Gwrw. Rhoddodd Hari Das wybod i’r Gwrw am y datblygiad ffodus hwn ond ni allai’r Gwrw dderbyn ei lwc a chefnu ar y carcharorion eraill, a gwrthododd adael y gaer nes bod pob un o’r 52 o dywysogion Rajput eraill yn cael eu rhyddhau hefyd.

Pan soniodd Wazir Khan wrth yr Ymerawdwr am amod y Gwrw, gwrthododd yr amod i ddechrau. Dim ond pan atgoffodd Wazir Khan yr Ymerawdwr mai’r Gwrw oedd wedi achub ei fywyd yr ildiodd yr Ymerawdwr. Ychwanegodd yr Ymerawdwr ei amod ei hun hefyd: os oedd y Gwrw am gael ei ryddhau o’r gaer, roedd yn rhaid bod pob carcharor yn gafael yn ei chola, sef y gair Pwnjabeg am fantell, wrth iddo gerdded allan drwy glwydi’r carchar. Roedd yr Ymerawdwr yn teimlo’n hunanfodlon iawn, oherwydd roedd yn siŵr mai dim ond llond llaw ohonynt fyddai’n gallu bodloni’r amod hwnnw.

Ond ychydig a wyddai’r Ymerawdwr fod y Gwrw wrth ei fodd â’r her. Gofynnodd i’w deiliwr greu chola arbennig yr oedd 52 o banelau’n sownd wrtho. Ar yr adeg a bennwyd, gwisgodd y Gwrw y chola trwm a oedd yn ymestyn am lathenni y tu ôl iddo. Cydiodd pob un o’r 52 o dywysogion mewn panel – 26 ar y dde a 26 ar y chwith. Yna, gan gerdded y tu ôl i’r Gwrw a gofalu peidio â cholli eu gafael, gwnaethant gamu allan i’r heulwen ac i ryddid, gyda Siciaid y Gwrw’n eu cymeradwyo.

Dyna pryd y dechreuwyd galw’r Gwrw Hargobind yn Bandi (carchar) Chhor (rhyddhäwr), ac enw dathliad y diwrnod rhyddhau yw Bandi Chhor Divas (ystyr Divas yw diwrnod). Sawl diwrnod yn ddiweddarach, pan gyrhaeddodd y Gwrw Hargobind Sahib ji Amritsar, roedd Diwali, gŵyl Hindŵaidd y goleuni, yn cael ei ddathlu. Yn eu llawenydd o weld eu Gwrw ji unwaith eto, goleuodd y bobl y ddinas gyfan â chanhwyllau, goleuadau a lampau. Ar ôl bron bedwar can mlynedd, mae’r traddodiad hwnnw’n parhau yn Amritsar, ac ar y diwrnod hwn mae’r Harmandir Sahib yn disgleirio oherwydd y miloedd o ganhwyllau, y lampau sy’n arnofio, y rhesi o oleuadau sy’n addurno’r cryndoeau a’r tân gwyllt sy’n ffrwydro yn yr awyr. Caiff yr un peth ei wneud ym mhob Gwrdwara a chartref Sicaidd ar draws y byd i ddathlu Bandi Chhor Diwas drwy gynnau canhwyllau a thân gwyllt.

Hanes Bandi Chhor Divas gan Avleen Kaur a Jasmeet Kaur, Sikh Gurdwara, Caerdydd.

13/11/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x