Bara Brith: rysáit ar gyfer y ‘cloi-lawr’

Mae arolwg YouGov ar sut mae arferion wedi newid ers dechrau’r argyfwng coronafeirws wedi darganfod bod pobl yn paratoi mwy o brydau bwyd eu hunain ac yn syrthio mewn cariad â phobi a choginio gartref. Felly rydyn ni’n gwybod nawr beth mae pobl yn ei wneud â’r holl becynnau o flawd a ddiflannodd o’r siopau fis yn ôl. Mae’n esbonio hefyd pam mai’r dudalen fwyaf poblogaidd ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar hyn o bryd yw’r un sy’n dangos sut mae gwneud rysáit ar gyfer sgons caws.

Ond os ydych chi wedi cael llond bol ar sgons caws ac yn chwilio am rywbeth blasus arall i de, beth am roi cynnig ar fara brith traddodiadol.

Mae’n hawdd iawn ei wneud, ac os ydych chi’n coginio gyda phlant efallai y gwelwch fod bara brith yn fwy llwyddiannus na sgons – dydy’r rhain ddim yn hoffi dwylo cynnes na chael eu tylino gormod. Does dim rhaid i chi ddefnyddio’ch dwylo o gwbl gan eich bod chi’n gallu gwneud yr holl gymysgu â llwy.

Mae llawer o ryseitiau ar gyfer bara brith – mae gan rai teuluoedd eu rysáit eu hunain a drosglwyddwyd o genhedlaeth i genhedlaeth. Dydw i ddim wedi etifeddu rysáit deuluol fy hunan, felly fe es i wefan Casgliad y Werin a chael nifer o ryseitiau hanesyddol sy’n defnyddio amrywiaeth o gynhwysion.

Rysáit ar gyfer bara brith

• Mwydwch 1 pwys (450g) o ffrwythau cymysg dros nos mewn 12 owns hylifol (350ml; ½ peint) o de du cynnes (defnyddiwch ddau neu dri bag te) gyda 9 owns (250g) o siwgr coch meddal.

• Nithiwch 1 pwys (450gm) o flawd codi ar ben y ffrwythau, yna ychwanegwch 2 wy a 4 llond llwy fwrdd o laeth.

• Curwch y cymysgedd, yna defnyddiwch lwy i roi’r cytew i mewn i dun pobi wedi’i iro’n dda neu dun nad yw’n glynu: bydd y cytew yn dyblu o ran maint wrth goginio, felly mae angen tun 2 bwys o leiaf ar gyfer y rysáit hon, neu ddau neu fwy o duniau 1 pwys. Gallech hefyd ddefnyddio dysgl gaserol neu unrhyw ddysgl bobi arall i greu siâp gwahanol i’r arfer. Bydd y meintiau uchod yn rhoi mwy na digon i lenwi tun 2 bwys, felly fe fydda i’n gwneud un dorth draddodiadol ac un dorth gron.

• Pobwch ar 180°C/Nwy 4 am 1 i 1.5 hours neu nes bod sgiwer wedi’i gwthio i’r canol yn dod allan yn lân. Os gwnewch y dorth gron hefyd, bydd honno angen tua 40 munud, a phan dynnwch hi allan o’r popty gall fod yn syniad da i chi roi ffoil dros y dorth fawr i’w hatal rhag llosgi wrth iddi barhau i goginio.

• Tynnwch y dorth o’r popty a rhowch hi ar resel oeri. Os dymunwch, defnyddiwch lwy i roi mêl, jam neu farmalêd, wedi’i deneuo ag ychydig o ddŵr cynnes, ar ben y dorth. Taenwch y cymysgedd â chefn y llwy.

Bydd arogleuon hyfryd y dorth yn coginio yn codi awch bwyd arnoch, ac mae’n debyg na fyddwch chi’n gallu gwrthsefyll y temtasiwn i fwynhau sleisen cyn gynted ag y bydd wedi oeri – pan fydd hi’n haws ei thorri. Os gwnewch ddwy dorth, gallwch chi a’ch plant fwyta’r un fach yn syth a rhoi’r dorth fawr o’r neilltu i aeddfedu am ddiwrnod neu ddau.

Mae’r rysáit yn hyblyg iawn a byddaf yn ei gwneud heb fesur y cynhwysion weithiau – yn ôl synnwyr y fawd. Mae hyn yn hawdd ar ôl gwneud bara brith nifer o weithiau gan y dewch i wybod beth y dylai’r ansawdd fod a faint o hylif i’w roi. Fe fydda i’n bersonol yn defnyddio llai o siwgr neu’n ei hepgor yn gyfan gwbl er mwyn cael torth fwy iachus: mae’r ffrwythau sych yn ei gwneud hi’n ddigon melys. Gallwch wneud fersiwn feganaidd drwy hepgor yr wyau a defnyddio llaeth wedi’i wneud o blanhigion, a fersiwn di-glwten drwy ddefnyddio blawd gwenith yr hydd.

Defnyddir blawd codi a wyau i wneud y dorth hon, sy’n rhywle rhwng bara a theisen. Ond defnyddir blawd plaen a burum mewn ryseitiau hŷn (er enghraifft, y rysáit draddodiadol hon o’r Bala ac mae’r dorth yn debycach i fara ffrwythau. Dywed rhai mai dyma sut y ganwyd bara brith – ar ddiwrnod pobi byddai’r wraig tŷ yn cymysgu ffrwythau â thoes bara dros ben ac yn pobi’r cymysgedd i greu teisen flasus i de.

Gellir cyfoethogi’r rysáit sylfaenol drwy ychwanegu pinsiad o halen, 4 owns (112g) o ymenyn neu fargarin wedi’i doddi (neu hyd yn oed lard neu doddion), a 2 lond llwy bwrdd o driog melyn neu 1 o driog du, neu drwy ddefnyddio siwgr coch golau, coch tywyll, demerara neu Muscovado i gael amrywiaeth o flasau melys. Gallwch amrywio faint o ffrwythau sych sydd yn y cymysgedd drwy ddefnyddio rhesins, syltanas a chyrens a chandi pîl wedi’u cymysgu’n barod, neu ychwanegu datys a bricyll mân, sinsir grisialog neu geirios glacé. Mae llawer o ryseitiau’n cynnwys llond llwy de o sbeis cymysg a / neu sinamon, a sinsir sych weithiau. Mewn ryseitiau eraill ychwanegir afal gratiedig neu groen a sudd lemwn, ac mewn eraill cynhwysir un neu ddau lond llwy fwrdd o farmalêd.

Arbrawf

Eich dewis chi ydyw, ond cofiwch fod dywediad yng Nghymru (neu felly mae’n dweud ar Wicipedia) fod ‘rhoi gormod o sbeis yn y bara brith’ yn golygu gwneud rhywbeth i ormodedd.

Os bydd y blog hwn yn eich ysbrydoli i roi cynnig ar ryseitiau traddodiadol eraill o Gymru, cewch syniadau gwych ar dudalen Amser Bwyd gwefan Amgueddfa Cymru–National Museum Wales.

Christopher Catling

Grât newydd mewn hen le tân ym Mhlas y llan Eglwys bach ger Llanrwst

Ôl-nodyn: Er ein bod ni’n meddwl bod bara brith yn ddanteithfwyd oesol, mae’n bosibl nad yw’r dorth gyrens hon yn hŷn na’r bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddaeth y cynhwysion yn rhad a chyffredin a phan ddaeth poptai yn rhan hanfodol o gyfarpar y gegin. Yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru (Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein), sy’n ffynhonnell syfrdanol a dadlennol o wybodaeth, y cyfeiriad cyntaf at fara brith fel yr ydym ni’n ei adnabod yw 1888. Yn y ddeunawfed ganrif, mae’n ymddangos bod ‘bara brith’ yn dorth o rawn cymysg. Efallai bod ein darllenwyr yn gallu ein goleuo ymhellach.

Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru

Trafodir hanes datblygiad y gegin Gymreig yn ein llyfr darluniedig poblogaidd Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru / Inside Welsh Homes sydd allan o brint erbyn hyn ond ar gael fel eLyfr .

05/05/2020

guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x