CBHC / RCAHMW > Newyddion > Bedd Dorti: Bedd Gwrach Chwedlonol

Bedd Dorti: Bedd Gwrach Chwedlonol

Os byddwch yn cerdded yng ngogledd Meirionnydd, ar hyd glannau Llyn Tecwyn Uchaf i’r gogledd-orllewin o Landecwyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd gofal a’ch bod yn chwilio am dwmpath bach sydd wedi’i orchuddio â cherrig gwyn. Gallai hynny achub eich bywyd!

Yn ôl chwedloniaeth, roedd gwrach honedig o’r enw Dorti yn byw ger Llandecwyn ym Meirionnydd, flynyddoedd maith yn ôl. Yn anffodus, fel sy’n wir am lawer o fenywod modern cyntaf Cymru, gan gynnwys menywod a gâi eu cyhuddo o wrachyddiaeth, rydym yn gwybod mwy am farwolaeth Dorti nag am ei bywyd, ac mae’r hyn yr ydym yn ei wybod am ei marwolaeth yn deillio o’r traddodiad llafar ac o lên gwerin. Nid treial dan y Ddeddf Gwrachyddiaeth a arweiniodd at ei marwolaeth; cafodd ei hachosi’n hytrach gan bobl gyffredin a’i taflodd oddi ar ddibyn ar ochr ogleddol Llyn Tecwyn Uchaf, oherwydd eu bod yn ofni ei malais honedig a’i phŵer i achosi niwed. Cafodd ei chladdu yn y man lle glaniodd, sydd wedi’i alw yn ‘Bedd Dorti’ byth ers hynny.

Fodd bynnag, parhaodd pwerau honedig Dorti ar ôl ei marwolaeth. Yn ôl traddodiad, os byddwch yn mynd heibio i’w bedd, dylech wneud yn siŵr eich bod yn gadael carreg wen yno a dylech ailadrodd y rhigwm canlynol:

Dorti, Dorti,
Bara gwyn yn llosgi
Dŵr ar y tân
I olchi’r llestri

I ddial am y trais a ddioddefodd, mae ysbryd Dorti yn erlid unrhyw rai sy’n methu â gwneud hynny ac mae’r bobl hynny’n marw cyn pen blwyddyn.

Fel sy’n wir am lawer o Ewrop, roedd syniadau am hud a lledrith a’r goruwchnaturiol, gan gynnwys gwrachyddiaeth, yn agwedd bwysig ar ddiwylliant Cymru a chredoau’r Cymry drwy gydol dechrau’r oes fodern. Roedd hynny’n effeithio ar fywydau pob dydd pobl ac ar eu dealltwriaeth o’r byd a oedd o’u cwmpas. Fel rheol roedd cyhuddiadau o wrachyddiaeth yn gyhuddiadau llawn emosiwn, a oedd wedi’u gwreiddio mewn gwrthdaro cymdeithasol a chymunedol. Byddai cyhuddiadau o’r fath yn gyhuddiadau difrifol, fel sy’n amlwg yn yr achosion niferus o enllib a gafodd eu dwyn gan y sawl a ddioddefodd gyhuddiadau o’r fath. Fodd bynnag, ni wnaeth Cymru erioed ddioddef yr un obsesiwn â gwrachod ag a welwyd mewn mannau eraill megis Lloegr, yr Alban a threfedigaethau Prydain yng Ngogledd America. Er bod nifer syndod o fawr o gofnodion sy’n ymwneud â threialon gwrachyddiaeth Cymru yn Llys y Sesiwn Fawr wedi goroesi, dim ond 34 o achosion llys a oedd yn erlyn 41 o bobl sydd wedi’u nodi, ac maent yn dyddio o’r cyfnod rhwng 1588 a 1699. O’r menywod a’r dynion hynny a gafodd eu dwyn i dreial, dim ond wyth a gafodd eu dyfarnu’n euog a dim ond pump a gafodd ddedfryd o farwolaeth. Yn ystod cyfnod tebyg, ar draws y ffin yn Lloegr, cafodd tua 2,000 o bobl eu dwyn i dreial a chafodd 300 eu dienyddio. Fodd bynnag, nid yw’r diffyg erlyn ffurfiol hwn yn golygu na châi’r sawl yr amheuid eu bod yn wrachod eu herlid, a byddent hyd yn oed yn dioddef trais gan eu cymdogion eu hunain.

Er mai nifer fach o gyhuddiadau o wrachyddiaeth a gafodd eu dwyn i dreial, ac sydd felly wedi goroesi mewn cofnodion cyfreithiol, mae tystiolaeth o bŵer a phwysigrwydd y credoau hyn wedi’u cofnodi mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys yn yr amgylchedd adeiledig a hanesyddol y mae’r Comisiwn Brenhinol yn ymchwilio iddo. Mae’r ffyrdd hynny’n cynnwys nodweddion pensaernïol megis marciau gwarchod mewn cartrefi; darganfyddiadau archaeolegol, er enghraifft eitemau wedi’u cuddio mewn tai, megis ‘poteli gwrachod’ neu esgidiau; a hyd yn oed enwau lleoedd, fel sy’n wir am yr enw Bedd Dorti.

Rywbryd yn ystod dechrau’r ugeinfed ganrif cafodd Wilfred J. Hemp (1882–1962), tra oedd yn gwasanaethu fel Arolygwr Henebion cyntaf Cymru efallai, wybod am y safle a’r chwedl gan y Parch. J. C. Morrace a oedd wedi gweld bachgen yn taflu carreg ar Fedd Dorti tra oedd yn teithio i Eglwys Llandecwyn. Rhoddodd wybod i’r Comisiwn Brenhinol a chafodd y safle ei gynnwys, heb nodi’r union leoliad, yn ein rhestr o henebion ym Meirionnydd (Inventory of the Ancient Monuments in … Merioneth) (1921, t. 78). Ni chafodd unrhyw waith cloddio ei wneud ar y pryd, ond flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, tua throad yr unfed ganrif ar hugain, torrwyd i mewn i dir y twmpath yn ystod gwaith gan Dŵr Cymru, a gwelwyd mai cefnen greigiog naturiol oedd yno. Felly, wfft i’r stori!

Er hynny…

Yn 1943, tra oedd Hemp yn gweithio fel Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol o’i gartref yng Nghricieth, aeth am dro ar hyd glannau Llyn Tecwyn Uchaf gyda pherchennog Plas Llandecwyn gerllaw, a oedd wedi clywed y stori am Dorti pan oedd yn fachgen bach. Pwyntiodd at gasgliad o gerrig gwyn ar dwmpath ger yr argae ym mhen gogleddol y llyn, a dywedodd wrth Hemp nad oeddent yn eu safle gwreiddiol a’u bod wedi’u symud tra oedd yr argae’n cael ei adeiladu. Gobeithio, felly, p’un a yw’r cerrig wrth ymyl bedd Dorti neu beidio, eu bod nhw’n dal i’w galluogi i orffwys mewn hedd.

Adam N. Coward, Swyddog Llyfrgell ac Ymholiadau

Darllen Pellach

Cofnod y Comisiwn Brenhinol ar gyfer ‘Bedd Dorti’ (NPRN 800208) ar Coflein: https://coflein.gov.uk/cy/safle/800208/

Cofnod Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd ar gyfer ‘Bedd Dorti, Llyn Tecwyn Uchaf’ (PRN 1437) ar Archwilio: https://archwilio.org.uk/arch/query/page.php?watprn=GAT1437

W. J. Hemp, ‘Two Cairns’, Transactions of the Caernarvonshire Historical Society, 5 (1944), 101–102.

Richard Suggett, Welsh Witches: Narratives of Witchcraft and Magic from sixteenth- and seventeenth-century Wales (Atramentous Press: 2018).

27/10/2023

Subscribe
Notify of
guest

Security code *Time limit exceeded. Please complete the captcha once again.

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x