Bil Hanesyddol – Deddfwriaeth Newydd I Ddiogelu Hanes Cymru

Heddiw, mae’r ddeddfwriaeth Cymru-yn-unig gyntaf ar gyfer gwella sut y caiff amgylchedd hanesyddol unigryw’r genedl ei ddiogelu wedi cael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Pan ddaw’n gyfraith, bydd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn cyflwyno mesurau newydd i warchod amgylchedd hanesyddol Cymru.

Bydd yn ei gwneud yn anoddach i unigolion sy’n difrodi heneb warchodedig osgoi erlyniad drwy honni nad oedden nhw’n ymwybodol o statws neu leoliad yr heneb – hynny yw, amddiffyniad o anwybodaeth.

Hefyd, bydd y Bil yn cyflwyno pwerau newydd i weithredu ar frys i stopio gwaith heb awdurdod ar safleoedd hanesyddol ac i atal adeiladau hanesyddol rhag mynd i gyflwr gwael.

Er enghraifft, bydd yn esgor ar ddatblygu system o hysbysiadau diogelu a bydd yn rhoi ffyrdd newydd i awdurdodau lleol allu adennill pan fyddant wedi gorfod gweithredu’n uniongyrchol.

Unwaith y bydd y Bil yn gyfraith, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i roi cofnodion amgylchedd hanesyddol ar sail statudol – rhywbeth y mae grwpiau rhanddeiliaid wedi bod yn galw amdano ar draws y Deyrnas Unedig.

Mae’r cofnodion hyn yn galluogi i gyngor ar gyfer penderfyniadau gan awdurdodau cynllunio a rheolwyr tir gael ei seilio ar wybodaeth gywir a chynhwysfawr. Mae hyn yn wahanol iawn i’r argyfwng sydd, ym marn llawer, yn wynebu gwasanaethau archaeolegol ledled Lloegr wrth i awdurdodau lleol orfod gwneud toriadau llym.

Bydd y cofnodion hefyd yn darparu mynediad at restr newydd o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru – sy’n ddatblygiad arloesol arall.

Wrth groesawu’r ffaith fod y Bil wedi’i basio gan y Cynulliad, dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae amgylchedd hanesyddol Cymru yn golygu mwy na’n henebion enwog a’n adeiladau hanesyddol amlwg; mae hefyd yn cynnwys parciau a gerddi hanesyddol ac, wrth gwrs, enwau ein lleoedd hanesyddol. Caiff cofrestrau statudol eu creu yn awr ar gyfer y ddwy elfen bwysig hyn.

“Ein treftadaeth yw stori ein gorffennol – ac mae’n stori wych; daw yn ei sgil fuddion cymdeithasol a diwylliannol. Hefyd, mae’n gwneud cyfraniad sylweddol at ein heconomi, ar ffurf twristiaeth. Mae’n rhywbeth sy’n bwysig iawn i lawer o bobl – mae difrodi heneb neu adael i adeilad rhestredig fynd a’i ben iddo yn gwneud pobl yn ddig ac yn ofidus.

“Mae’r Bil yn ganlyniad trafodaethau helaeth gyda phobl broffesiynol ym maes treftadaeth, sefydliadau gwirfoddol a’r cyhoedd yn gyffredinol. Rhoddodd hyn syniad eglur inni o’r heriau a’r angen am fecanweithiau effeithiola hyblyg ar gyfer rheoli newid.

“Rwy’n falch iawn ein bod, drwy basio’r Bil, yn mynd i allu diogelu ein hamgylchedd hanesyddol yn well. Hefyd, byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd ac yn cefnogi’r gwaith o’i reoli mewn ffordd gynaliadwy. Mae angen diogelu ein safleoedd a’n hadeiladau hanesyddol yn y fath fodd – er mwyn iddynt barhau i ddiddori ac ysbrydoli pobl am ganrifoedd i ddod.”

Hefyd, bydd y Bil yn symleiddio rhai o’r systemau sydd ar waith i reoli henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig drwy alluogi perchnogion i ddod i gytundebau partneriaeth treftadaeth gwirfoddol gydag awdurdodau.

Bydd y Bil yn gwneud y canlynol hefyd:

  • Creu panel annibynnol i roi cyngor arbenigol i Weinidogion Cymru ar bolisi a strategaeth;
  • Cyflwyno proses ymgynghori ffurfiol gyda pherchnogion adeiladau neu henebion cyn i benderfyniad i’w diogelu gael ei wneud;
  • Ehangu’r diffiniad o beth y gellir ei ddiogelu fel heneb i gynnwys rhai meysydd brwydrau ac aneddiadau cynhanesiol.

Dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru:

“rydyn ni’n falch iawn o edrych ar ôl rhai o safleoedd hanesyddol enwocaf Cymru. Mae rhoi sail statudol i’r gwaith o ddiogelu ein hamgylchedd hanesyddol yn beth gwych, a bydd yn help mawr i’w sicrhau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae’r sector treftadaeth cyfan wedi cyfrannu at ddatblygiad y ddeddfwriaeth hon – credwn y daw yn ei sgil fuddion mawr o ran ein gallu i greu a chynnal diwydiant twristiaeth llewyrchus a swyddi, sgiliau ac adnoddau y gall bawb yng Nghymru fanteisio arnynt.

“Bydd cynnal a gwella ein hamgylchedd hanesyddol yn dangos i’r byd ein bod yn wlad falch ac ystyriol a’n bod hefyd yn wlad arloesol. Hyn ei dro, bydd hynny’n gwneud Cymru’n wlad y bydd pobol am ymweld â hi..”

I gyd-fynd â’r Bil, caiff polisi, cyngor a chanllawiau newydd eu cyhoeddi ar ôl cyfnod o ymgynghori.

Bydd y rhain yn helpu i gyflawni nodau’r Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) newydd, y Bil Cynllunio (Cymru) newydd a’r Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) newydd.

Daw Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn Ddeddf pan gaiff y Cydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2016.

Gwybodaeth Ychwanegol

Caiff dros 30,000 o swyddi eu cefnogi gan ein hamgylchedd hanesyddol ac mae’n ychwanegu tua £840 miliwn i economi’r wlad – sy’n cyfrif am un-rhan-o-bump o gyfanswm gwariant twristiaeth yng Nghymru.

Nid oes unrhyw achos yn dangos yn amlwg pa mor fregus a gwerthfawr yw ein hamgylchedd hanesyddol na’r difrod difrifol a wnaed i ran o Glawdd Offa yn 2013. Mae Clawdd Offa wedi bodoli ers mwy na 1200 o flynyddoedd, felly mae achos o’r fath yn dangos sut y gellir colli pethau hynafol gwerthfawr dros nos, bron.

Cofnodwyd 119 achos o ddifrod i henebion cofrestredig rhwng 2006 a 2012 – a dim ond un erlyniad llwyddiannus a gafwyd yn y cyfnod hwnnw.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Bil drwy glicio ar y ddolen isod: http://gov.wales/topics/cultureandsport/historic-environment/the-historic-env-wales-bill/?skip=1&lang=cy

02/10/2016

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets