
Ble’r Oeddynt yn Byw, yn Gweithio, yn Addoli? Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg Ffair Hanes Teuluol, 13 Hydref

Y Comisiwn Brenhinol yn Ffair Hanes Teuluol Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg 2011.
Ar Ddydd Sadwrn, 13 Hydref, bydd staff y Comisiwn Brenhinol yn mynychu Ffair Hanes Teuluol Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg, y ffair hanes teuluol fwyaf yng Nghymru. Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful, o 10 y bore tan 4 y prynhawn a bydd amrywiaeth eang o stondinau yno, gan gynnwys stondinau cymdeithasau hanes teuluol Cymru a Lloegr, hen gardiau post a siartiau achau. Bydd staff y Comisiwn Brenhinol, Nicola Roberts a Helen Rowe, swyddog Casgliad y Werin, wrth law drwy’r dydd i ateb cwestiynau ac arddangos Coflein, ein cronfa ddata a chatalog ar-lein, ac i roi cyngor ar sut i ymchwilio a dod o hyd i ddelweddau o ble’r oedd ein hynafiaid yn byw, gweithio ac addoli. Dewch i stondin y Comisiwn Brenhinol i gael cymorth gyda’ch ymholiadau a gostyngiad o 10% ar bris ein holl gyhoeddiadau. I gael manylion pellach, ewch i wefan Cymdeithas Hanes Teuluol Morgannwg.
10/05/2012