CBHC / RCAHMW > Newyddion > Blog teithio mewn amser
Boundaries like these, at the Radnorshire Wildlife Trust's Gilfach Nature Reserve, have been difficult to date in the past: they could be medieval or more recent. The use of data from historic maps overlaid on the Ordnance Survey master map might enable us to pin down the date of the boundary more precisely, though of course the boundary itself could be much older than the stone slabs that have been used for fencing and that now support a host of rare lichens.

Blog teithio mewn amser

Os ydych chi wedi bod yn gwrando ar Radio 3 neu Radio 4 yn ddiweddar mae’n siwr eich bod chi’n gwybod bod 7 Ebrill yn nodi dyddiad geni William Wordsworth 250 o flynyddoedd yn ôl. I anrhydeddu’r bardd a ddathlai agweddau mwy dinod y byd naturiol (ei hoff flodyn oedd llygad Ebrill nid y genhinen Bedr!) byddaf yn ysgrifennu am ffosydd, cloddiau, gwrychoedd a choed.

Dyma nodweddion y dirwedd nad ydynt yn cael eu cofnodi’n aml yn ein rhestrau o henebion archaeolegol neu hanesyddol, ac eto fe all y terfynau maen nhw’n eu marcio fod yn hynafol iawn.

Mae cerdd Wordsworth sy’n dechrau ‘I wandered lonely as a cloud’ yn dathlu’r ‘hosts of golden daffodils’ sy’n tyfu o amgylch ei gartref, Dove Cottage, yn Grasmere, ac yn ‘fluttering and dancing in the breeze’, ond yn ei gerdd ‘To the Small Celandine’ mae’n dweud bod yn well ganddo’r ‘little Celandine’ na’r un blodyn arall sy’n blodeuo yn y gwanwyn gan ei fod, er yn ‘scorned and sighted’, yn proffwydo dyfodiad y gwanwyn a dyddiau cynhesach: ‘telling tales about the sun, when we've little warmth, or none’. Felly’r blodau hyn yw’r ‘prophet of delight and mirth’.
Mae cerdd Wordsworth sy’n dechrau ‘I wandered lonely as a cloud’ yn dathlu’r ‘hosts of golden daffodils’ sy’n tyfu o amgylch ei gartref, Dove Cottage, yn Grasmere, ac yn ‘fluttering and dancing in the breeze’, ond yn ei gerdd ‘To the Small Celandine’ mae’n dweud bod yn well ganddo’r ‘little Celandine’ na’r un blodyn arall sy’n blodeuo yn y gwanwyn gan ei fod, er yn ‘scorned and sighted’, yn proffwydo dyfodiad y gwanwyn a dyddiau cynhesach: ‘telling tales about the sun, when we’ve little warmth, or none’. Felly’r blodau hyn yw’r ‘prophet of delight and mirth’.

Ffiniau hanesyddol

Hyd yn awr, bu’n anodd dyddio’r nodweddion hyn yn fanwl, ond mae’r Comisiwn Brenhinol wedi bod yn gweithio ar ffiniau hanesyddol a’u datblygiad, o’u gwreiddiau yn yr Oesoedd Canol – y cantref a’r cwmwd – i’r terfynau plwyfi a ddangosir ar fapiau Arolwg Ordnans canol y 19eg ganrif.

Mae mapiau AO wedi’u harolygu’n fanwl gywir ac maen nhw’n cwmpasu Cymru gyfan. Roedd mapiau cynharach ar y llaw arall yn fwy argraffiadol neu fe gawsant eu creu at ddiben penodol, er enghraifft, cynlluniau cau tiroedd gellir gweld enghreifftiau da ar flog prosiect cau tiroedd Sir Ddinbych a mapiau degwm sy’n hygyrch ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Serch hynny, ceir arnynt lawer o wybodaeth am derfynau caeau ac eiddo, ac mae meddalwedd fodern yn gallu plotio’r dirwedd a ddangosir ar y mapiau cynharach hyn ar ben prif fap AO i ddarganfod y ‘ffit orau’ â’r dirwedd fodern. Yn y modd hwn gallwn ychwanegu gwybodaeth werthfawr, sef dyfnder amseryddol, at ddimensiynau gofodol cyfarwydd y map.

Mae tipyn o arbrofi wedi’i wneud â’r feddalwedd hon, ac os gallwch adnabod ffiniau tir cyn i diroedd gael eu cau, mae siawns dda y bydd rhai ohonynt yn llawer iawn hŷn ac y gallwch hyd yn oed adnabod nodweddion tirweddol a ddisgrifir yn nhestunau cartwlarïau mynachaidd neu grantiau a siarteri tir. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gallu rhoi amrediadau o ddyddiadau ar gyfer nodweddion cyffredin yn y dirwedd na allwn ond dyfalu beth ydynt – ffosydd, gwrychoedd, coed, muriau, ysguboriau a ffermydd, cyrsiau dŵr, corsydd, coetiroedd a phorfeydd. A thrwy ddefnyddio’r hyn a elwir yn ‘atchweliad map’, gallwn weithio’n ôl o’r presennol ac olrhain newidiadau a nodweddion newydd – ffyrdd, llwybrau porthmyn, tiroedd caeedig, coetiroedd, gwrychoedd, ffermydd, chwareli, anheddiadau a thai.

Yn y gorffennol mae wedi bod yn anodd dyddio ffiniau fel y rhain yng Ngwarchodfa Natur Gilfach Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed gallent fod yn ganoloesol neu’n fwy diweddar. Efallai y bydd defnyddio data o fapiau hanesyddol wedi’u troshaenu ar y prif fap Arolwg Ordnans yn ein galluogi i ddyddio ffiniau’n fwy manwl gywir, er, wrth gwrs, y gallai’r ffin ei hun fod yn llawer hŷn na’r slabiau o garreg a ddefnyddiwyd i greu ffens ac sydd bellach yn gartref i lu o gennau prin.
Yn y gorffennol mae wedi bod yn anodd dyddio ffiniau fel y rhain yng Ngwarchodfa Natur Gilfach Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed gallent fod yn ganoloesol neu’n fwy diweddar. Efallai y bydd defnyddio data o fapiau hanesyddol wedi’u troshaenu ar y prif fap Arolwg Ordnans yn ein galluogi i ddyddio ffiniau’n fwy manwl gywir, er, wrth gwrs, y gallai’r ffin ei hun fod yn llawer hŷn na’r slabiau o garreg a ddefnyddiwyd i greu ffens ac sydd bellach yn gartref i lu o gennau prin.

Mae gwneud hyn yn ein helpu i ateb rhai o’r cwestiynau mawr am ein gorffennol. Mae rhai haneswyr wedi dadlau na fu llawer o newid yn y dirwedd ar hyd yr oesoedd, ac na fu llawer o newid mewn arferion ffermio a defnydd tir rhwng yr Oes Efydd (c. 2000 CC) a’r mudiad cau tiroedd a ddechreuodd yn yr 16eg ganrif, gan gyflymu yn y 18fed ganrif. Mae eraill yn dadlau bod y dirwedd wedi newid yn barhaus wrth i fewnfudwyr ddod ag arferion newydd: er enghraifft, y syniad bod anheddu cnewyllol a ffermio maes agored yn ddatblygiadau arloesol a gyflwynwyd gan gyfaneddwyr Germanaidd o’r cyfandir agos yn y cyfnod canoloesol cynnar.

Ymchwil diweddar

Mae ymchwil diweddar yn tueddu i ffafrio’r syniad o barhad, ac mae’r gwaith maes a wnaed gan y Comisiwn Brenhinol yn abaty Ystrad Fflur ar hyd y blynyddoedd yn tystio i hirhoedledd ffiniau eiddo. Ym marn yr Athro David Austin, a fu’n astudio ystâd yr abaty Sistersaidd helaeth a chyfoethog hwn am flynyddoedd lawer fel academydd ym Mhrifysgol Llambed, mae rhai o’r ffiniau rydym wedi’u mapio yma yn wirioneddol hen. Yn groes i’r syniad y byddai’r Sistersiaid yn sefydlu mynachlogydd mewn lleoedd anial ac yn troi tir anghynhyrchiol yn adnodd economaidd, mae’n debyg iddynt gymryd o leiaf rai ffermydd ac ystadau drosodd pan sefydlwyd y fynachlog yn 1201.

Amrywiaeth o ffiniau o wahanol gyfnodau, o gloddiau pridd i’r ffensys stanciau-a-weiren sydd i’w gweld ymhobman heddiw. Mae’n bosibl bod hyd yn oed ffensys modern yn dilyn llwybr ffiniau llawer hŷn.
Amrywiaeth o ffiniau o wahanol gyfnodau, o gloddiau pridd i’r ffensys stanciau-a-weiren sydd i’w gweld ymhobman heddiw. Mae’n bosibl bod hyd yn oed ffensys modern yn dilyn llwybr ffiniau llawer hŷn.

Ymhellach i ffwrdd, darganfu’r archaeolegydd Tim Tatton-Brown rai blynyddoedd yn ôl nad yw nifer o derfynau plwyf yng Nghaint wedi newid ers yr Oesoedd Canol cynnar. Pan aethpwyd ati yng Nghaergaint ym 1988 i nodi mil o flynyddoedd ers  marwolaeth Sant Dunstan (909–88), Archesgob Caergaint (960–88), cofia Tim iddo ef a’r diweddar Harold Gough gerdded y terfynau a ddisgrifir yn Siarter Reculver, OC 949, a darganfod eu bod yn cyd-fynd yn rhannol â’r terfyn plwyf a ddangosir ar y map AO o Westanae (pen gorllewinol Ynys Thanet).

Mae Tim yn awgrymu mai hwn yw’r terfyn plwyf dyddiadwy cynharaf ym Mhrydain ac mae’n gofyn pa mor bell yn ôl mae’n mynd mewn gwirionedd. Y daearyddwr H P R Finberg oedd y cyntaf i awgrymu (yn Roman and Saxon Withington: a study in continuity, 1955) i ystadau fila Brythonig-Rufeinig yn y Cotswolds barhau yn eu cyfanrwydd fel ystadau mynachaidd a sylfaenwyd yn y 7fed ganrif, ac iddynt barhau wedyn yn ystadau teuluoedd bonheddig y Cotswolds ar ôl Diddymiad y Mynachlogydd. Yn nes at adref, mae’n hollol bosibl bod trigolion y fila Frythonig-Rufeinig a gloddiwyd yn Abermagwr gan Toby Driver o’r Comisiwn Brenhinol a  Jeff Davies yn ffermio’r un tiroedd a ddaeth yn ddiweddarach yn ystâd y teulu bonheddig Tuduraidd yn Nhrawsgoed.

Felly os gallwch fynd am dro o bryd i’w gilydd i gadw’n heini yn ystod y cloi-lawr presennol, rhowch fwy o sylw i’r ffosydd a chloddiau distadl hyn – ac os oes gennych fap Arolwg Ordnans o’ch ardal leol, rhowch sylw arbennig i unrhyw nodweddion tirwedd sy’n marcio terfyn y plwyf – mae’n bosibl eu bod nhw’n llawer hŷn nag yr ydych chi’n ei feddwl. Ac nid yng nghefn gwlad yn unig chwaith – gall dilyn ffiniau mewn trefi a dinasoedd fod yn ddadlennol hefyd ac efallai yr  hoffech ofyn i chi’ch hun pa mor hen yn union yw’r muriau gardd ac eiddo rydych chi’n cerdded heibio iddynt.

Trowch eich tro dyddiol yn gyfle i ddarganfod ffiniau hynafol mae’r ffin hon yn un sydd tua’r un uchder â phalis parc, y ffos a chlawdd a amgylchynai barc ceirw, gyda phalisâd cadarn o goed ar ben y clawdd o bosibl. Cysylltwn barciau ceirw â’r cyfnod canoloesol fel rheol, ond roeddynt yn boblogaidd yn y 18fed ganrif hefyd pan oedd yn ffasiynol i berchenogion ystadau aristocrataidd gadw ceirw ‘addurniadol’.
Trowch eich tro dyddiol yn gyfle i ddarganfod ffiniau hynafol mae’r ffin hon yn un sydd tua’r un uchder â phalis parc, y ffos a chlawdd a amgylchynai barc ceirw, gyda phalisâd cadarn o goed ar ben y clawdd o bosibl. Cysylltwn barciau ceirw â’r cyfnod canoloesol fel rheol, ond roeddynt yn boblogaidd yn y 18fed ganrif hefyd pan oedd yn ffasiynol i berchenogion ystadau aristocrataidd gadw ceirw ‘addurniadol’.

RoeddWordsworth wrth ei fodd yn cerdded yn y ddinas yn ogystal ag yng nghefn gwlad. Mae ei farddoniaeth yn dathlu pleserau gweledol dinesig yn ogystal â harddwch Tyndyrn, Dyffryn Gwy ac Ardal y Llynnoedd. Dywedodd ‘Earth has not anything to show more fair’ na’r olygfa o Bont Westminster ar doriad dydd ar 3 Medi 1802, er y byddwn ni yng Nghymru yn dadlau bod gennym lond gwlad o lecynnau a allai gystadlu â Westminster am y teitl ‘golygfa decach y ddaear’.

Christopher Catling


Ychwanega Richard Suggett:

Mae sawl astudiaeth Gymreig yn dangos mor hirhoedlog yw ffiniau eiddo. Rhoddodd argraffiad Graham Thomas o Charters of the Abbey of Ystrad Marchell sylw arbennig i enwau lleoedd a therfynau tiroedd a oedd yn eiddo i’r abaty Sistersaidd Ystrad Marchell ger Y Trallwng, a sylfaenwyd yn OC 1170 gan Owain Cyfeiliog, tywysog de Powys. Dangosodd Thomas (er enghraifft) fod y fossa nigri (‘ffos ddu’) a enwir ar y siarter dyddiedig 9 Mai 1185 ac sy’n marcio ffin tenement o’r enw Hafod Owain (yn Llanbrynmair, Sir Drefaldwyn heddiw) yn parhau i fodoli fel nodwedd archaeolegol. Mae ffynonellau eraill ar gyfer terfynau o’r cyfnod cyn y Goresgyniad wedi goroesi, yn enwedig siarteri cymhleth Llyfr Llandaf.

Rhaid tynnu sylw arbennig at y memoranda Cymraeg yn Llyfr Sant Chad, a gafodd ei ysgrifennu yn yr wythfed neu’r nawfed ganrif mae’n debyg. Roedd Heather James, Cadeirydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru (Cambrian Archaeological Association), yn gallu dangos mai terfynau ‘guon hen llan’ a enwir yn y memoranda oedd yr ardal a adwaenir o hyd fel Gwaun Henllan ger Llandybïe yn ne Sir Gâr. Ym 1993, cafodd cais cynllunio Celtic Energy ar gyfer cloddio glo brig yng Ngwaun Henllan ei wrthod yn rhannol oherwydd yr enw lle hynafol hwn; cafwyd apêl, ond cadarnhaodd yr arolygydd y ddadl fod hon yn dirwedd greiriol o ddiddordeb neilltuol – gan brofi bod enwau lleoedd hynafol yn parhau’n berthnasol yn yr oes fodern.

Enwau wedi’u codio o’r gorffennol yw enwau lleoedd, ac ni ellir eu gwahanu oddi wrth derfynau a nodweddion topograffig eraill. Yn The Uses of Place-names (1988, gol. Simon Taylor) roedd y diweddar Terry James, o’r Comisiwn Brenhinol gynt, yn gallu dangos bod gan yr elfennau ‘sarn’ ac ‘eglwys’ gryn botensial archaeolegol. Dangosodd hefyd fod gan rai o’r termau a ddefnyddir ar gyfer anheddiadau ddosbarthiad rhanbarthol cyfyngedig sy’n awgrymu bod iddynt wreiddiau hynafol: er enghraifft, yr enw lle ‘r(h)ath’ (= anheddiad amddiffynedig) a geir yn rhannau o dde-orllewin Cymru.

Mae cronfa ddata ar-lein arloesol a chynyddol y Comisiwn Brenhinol yng Nghymru bellach yn adnodd unigryw ar gyfer ymchwilio i enwau lleoedd a therfynau – a byddwn yn dod yn ôl at y pwnc hwn mewn blog arall.

28/04/2020

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x