
Bod yn wirfoddolwr gyda CBHC
Mae unrhyw beth yn ymwneud ag archaeoleg yn llawn rhyfeddodau, ac nid yw bod yn wirfoddolwr gyda’r Comisiwn Brenhinol yn eithriad. Gall tasgau syml, fel dod o hyd i stoc ddyblyg, gymryd dimensiwn tra gwahanol pan fydd llythyr diffuant mewn llawysgrifen yn disgyn allan wrth i chi roi pentwr o bamffledi dinod mewn trefn, gan agor y drws i fyd newydd o brofiad. Mae’n debyg i ymbalfalu i mewn i ystafell lle mae cyfeillion yn cael sgwrs breifat a chynnes. Neu byddwch chi’n gweithio’ch ffordd i waelod blwch o gylchgronau a gyhoeddwyd ddeugain mlynedd yn ôl ac yn darganfod ffolder plaen cyffredin. Mae’r hyn a ddarganfyddwch y tu mewn yn eich syfrdanu wrth i chi sylweddoli eich bod chi’n edrych ar set o ysgythriadau argraffiad cyntaf, wedi’u dylunio’n goeth a’u llunio’n gain. Syllwch arnynt yn syn. Bydd cerdyn post yn disgyn allan o lyfr, gan fynd â chi yn ôl i drefi glan môr Cymru yn y 1950au, ac arogl gwymon a heli a blas melys candi-fflos. Ar adegau fel hyn byddaf yn teimlo bod gennyf gysylltiad arbennig â gwaith archifol y Comisiwn, lle cymerir gofal i warchod a rhoi cartref newydd i fywyd y genedl hon drwy gofnodi profiadau ei thrigolion o’r gorffennol. Yn y fan hyn rydw i’n ymwybodol o fywydau pobl eraill a theimlaf eu bod yn siarad â mi, gan gyfoethogi fy mywyd fy hun. Dyma’r syndod mwyaf annisgwyl, ac efallai’r syndod mwyaf oll.
Carmen Mills, un o wirfoddolwyr CBHC
Ymgeisydd PhD mewn Celfyddyd Gain
Prifysgol Aberystwyth
24/11/2016