Brwydr yn erbyn llong danfor Almaenig ar Noswyl Nadolig yn arwain at suddo’r llong-Q y PENSHURST

Arfogi llongau masnach a’u defnyddio’n abwyd oedd un o strategaethau’r Morlys Prydeinig a ddatblygwyd i ddenu llongau tanfor yr Almaen i’r wyneb ac ymosod arnynt. Y gobaith oedd y byddai’r llong danfor yn teimlo’n ddigon diogel i godi i’r wyneb yn agos at y llong fasnach er mwyn mynd ar ei bwrdd cyn ei dinistrio. Yna byddai’r llong fasnach yn tanio ar y llong danfor wrth iddi nesáu. Câi’r llongau masnach arfog hyn eu galw’n llongau-Q – efallai gan fod canolfan llongau-Q pwysig yn Queenstown, neu efallai gan mai’r signal amser rhyfel ar gyfer ‘llong fasnach anhysbys’ oedd ‘QQQ’.

Roedd yn hollbwysig i’r capteiniaid a’u criwiau fod yn ddisgybledig ac iddynt weithredu a meddwl yn gyflym ar eu traed. Byddai’n rhaid i’r criwiau aros yn llonydd, hyd yn oed os oedd yr Almaenwyr yn tanio atynt, wrth i’r ‘llongwyr masnach’ adael yn gyflym a rhwyfo i ffwrdd mewn badau achub – gan gymryd arnynt eu bod yn gadael llong fasnach gyffredin. Câi’r rhain eu galw’n ‘griw panig’.  Pe arhosent yn agos at y llong, byddai’r llong danfor yn dynesu atynt i ofyn am bapurau’r llong ac i’w chymryd drosodd. Wedyn fe ddefnyddiai ei gynnau bach i suddo’r llong fasnach.

Mae’r llun hwn yn dangos y PENSHURST ar ymarfer hyfforddi, gyda’r ‘criw panig’ yn rhwyfo i ffwrdd yn un o fadau’r llong.

Mae’r llun hwn yn dangos y PENSHURST ar ymarfer hyfforddi, gyda’r ‘criw panig’ yn rhwyfo i ffwrdd yn un o fadau’r llong.

 

Bu nifer o longau-Q yn gweithredu yn nyfroedd Cymru yn ystod y rhyfel. Defnyddid Doc Penfro, yn arbennig, i’w harfogi neu eu hatgyweirio. Cafodd y PENSHURST ei hadeiladu gan Gwmni Llongau Montrose ym 1906 ac roedd yn agerlong cludo cargo nodweddiadol ar yr adeg honno. Dan yr enw ‘Q7’, ymladdodd y llong a’i chriw o leiaf saith brwydr dros gyfnod o ddwy flynedd, gan suddo dwy long danfor Almaenig. Ei chapten cyntaf oedd Henry Grenfell, ac olynwyd ef gan Cedric Naylor. Cafodd ei hanfon sawl gwaith i Fôr Iwerddon.

Ei harfau gwreiddiol oedd dau wn 3-phwys a dau wn 6-phwys ar bob ochr i ddec isaf y bont, a gwn 12-pwys ar yr ôl-hatsh, wedi’i orchuddio i edrych fel bad llong. Byddai trefniant y gynnau’n cael ei newid yn nes ymlaen: câi’r gynnau 6-phwys eu symud ymhellach ymlaen a’r gynnau 3-phwys eu symud i safle lle gallent danio ymhellach i’r tu ôl. Y ddamcaniaeth oedd y byddai gynnau ar hyd y llong wedyn i danio ar y gelyn.

Mae’r ddau lun hyn yn dangos y dull dyfeisgar a ddefnyddiwyd i gelu’r gwn 12-pwys – wedi’i fowntio ar y brif hatsh – y tu mewn i fad ffug. Roedd y beipen lais o’r bont i’r ddau wn ôl wedi’i chlymu wrth y deric ac wedi’i chelu felly rhag y gelyn.

Mae’r ddau lun hyn yn dangos y dull dyfeisgar a ddefnyddiwyd i gelu’r gwn 12-pwys – wedi’i fowntio ar y brif hatsh – y tu mewn i fad ffug. Roedd y beipen lais o’r bont i’r ddau wn ôl wedi’i chlymu wrth y deric ac wedi’i chelu felly rhag y gelyn.

Ar 24 Rhagfyr 1917, roedd y PENSHURST yn agosáu at ben deheuol Môr Iwerddon, gyda’r bwriad o fynd i’r afael â llong danfor Almaenig oddi ar y Smalls. Ddeng munud ar ôl canol dydd gwelwyd llong danfor ddau bwynt oddi ar y blaen chwith, Lledred 51.31 G a Hydred 5.33 Gn, 5 milltir i ffwrdd, yn llywio ar onglau sgwâr i’r PENSHURST ac yn dechrau dynesu. Roedd Naylor, y morlywiwr, y signalwr ar y bont, y swyddog cyflenwi wrth y llyw, dyn ar ben y tŷ gwn ôl, a chriw’r gwn, i gyd ar eu gwyliadwriaeth.

Erbyn hyn roedd y PENSHURST yn mynd 8 not a, pan blymiodd y llong danfor am 12.12pm, dechreuodd igam-ogamu wrth geisio gwneud i’r gelyn ddod i’r wyneb eto ac ymosod gyda’i ynnau. Am 1.31pm taniodd yr Almaenwyr dorpido o 300 llath i ffwrdd, hanner pwynt  i’r blaen ar yr ochr chwith. Er troi’r llyw yn ffyrnig tua’r chwith, fe drawodd y torpido rhwng y boeleri ac ystafell yr injan. Stopiodd y PENSHURST yn stond a dechreuodd y starn suddo.

Roedd y torpido wedi ysgwyd y llong gymaint fel bod caeadau cuddio ar gyfer y gwn 4-modfedd yng nghanol y llong a’r tŷ gwn ôl wedi dymchwel. Roedd gynnau’r bont yn dal wedi’u cuddio. Er gwaethaf hyn, aeth y criw ati i adael y llong gan ddilyn y drefn arferol ar gyfer llongau masnach, ac aeth y criw panig i mewn i’r bad achub a rafftiau achub olaf.

Bu’r llong danfor yn mynd o amgylch y PENSHURST yn araf am awr cyn codi i’r wyneb am 2:40pm, 250 o lathenni oddi ar y blaen chwith, a dechrau tanio. Gan fod y starn wedi suddo, nid oedd yn bosibl gostwng y gwn ôl ddigon i danio ar y llong danfor. Serch hynny, manteisiodd criw’r gwn ar symudiad y llong gyda’r tonnau i danio chwe ergyd at y gelyn. Trawodd yr ail ergyd du blaen y llong danfor ar ochr dde’r dec, a thrawodd y bedwaredd ergyd y tu cefn i’r tŵr rheoli. Plymiodd y llong danfor a chododd i’r wyneb eto am 3:47pm ar yr ochr dde 5 milltir i ffwrdd. Ar yr adeg hon fe ymddangosodd llong-P a gadawodd y llong danfor.

Suddodd y PENSHURST am 8:05pm. Roedd y criw wedi’u hachub o’r llong. Yn sgil ymchwiliad, penderfynwyd bod yr holl griw wedi bod mor effro ag oedd bosibl, a derbyniodd Naylor ail far i’w DSO yn ddiweddarach. Derbyniodd yr Is-gapten E. Hutchinson DSO hefyd. Cafodd Arthur Reginald Marlton ac Albert Brewer, Taniwr Dosbarth 1af, eu lladd yn y frwydr. Mae Marlton wedi’i goffáu ar Gofeb Lyngesol Plymouth a Brewer ar Gofeb Lyngesol Chatham.

Geoffrey Hickling, Gwirfoddolwr CBHC

 

Darllen pellach:

  • Bridgland, Tony. Sea Killers in Disguise: The Story of the Q-Ships and Decoy Ships in The First World War. (Barnsley, 1999)
  • Chatterton, E Keble. Q-Ships and their Story. A History of Decoy Vessels. Argraffiad 1af. (London,  1922)
    http://archive.org/stream/qshipstheirstory00chat#page/108/mode/2up/search/109
  • Stearns, Patrick. Q-Ships, Commerce Raiders and Convoys.  (2004, Spellmount)
  • Ritchie, Carson. Q-Ships. (Lavenham, 1985)

Partneriaeth rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor  a’r Gymdeithas Archaeoleg Forwrol yw Coffáu’r Rhyfel Anghofiedig yn erbyn Llongau Tanfor yr Almaen ar hyd Arfordir Cymru 1914-18:  Archwilio, Mynediad ac Estyn-allan.

Ariennir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n caniatáu i’r Gronfa fuddsoddi arian i helpu pobl ar hyd a lled y Deyrnas Unedig i archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth y mae ganddynt feddwl mawr ohoni . www.hlf.org.uk. Dilynwch Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #HLFsupported.

December 22, 2017

Leave a Reply

avatar

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets