Castell Nadolig hillfort, Ceredigion

Bryngaer Castell Nadolig, Ceredigion

Ar 5 Mawrth, a’r tywydd yn braf, roedd y Comisiwn Brenhinol yn gallu cynnal ei arolwg drôn a gwaith cofnodi ar y ddaear cyntaf ar safle bryngaer Castell Nadolig yn ne Ceredigion. Y fryngaer 3.7 hectar hon ar dir fferm preifat yw’r man lle darganfuwyd ‘Llwyau Penbryn’, arteffactau prin o’r Oes Haearn, sy’n cael eu harddangos yn Amgueddfa’r Ashmolean, Rhydychen. Mae arolwg geoffisegol diweddar yn awgrymu bod sawl tomen gladdu yn y fryngaer ac o’i chwmpas hefyd.

Bryngaer Castell Nadolig, Ceredigion
Bryngaer Castell Nadolig, Ceredigion

Mae’r safle hynafol hwn yn gorwedd yng ngofod awyr rheoledig Maes Awyr Gorllewin Cymru ac mae mewn Ardal Beryglus filwrol, felly bu Toby Driver yn trafod â staff traffig awyr parod eu cymorth MAGC er mwyn cael caniatâd i hedfan y drôn.

Gwyliwch y man hwn am fanylion sgwrs leol am ein holl ymchwil newydd y gaeaf hwn! #dyddmercherbryngaerau

Ffotograffiaeth drôn bryniau bryn Castell Nadolig
Ffotograffiaeth drôn bryniau bryn Castell Nadolig
Rhagfur Bryngaer Castell Nadolig
Rhagfur Bryngaer Castell Nadolig

11/03/2020

Subscribe
Notify of
guest

Security code *

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments

MYNNWCH Y NEWYDDION DIWEDDARAF AM DREFTADAETH CYMRU

Ymunwch â’r rhestr e-bostio i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Mae’n rhad ac am ddim!

Tweets

0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x