
Bryngaer Dinas Dinlle, Gwynedd
Mae bryngaer arfordirol Dinas Dinlle yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae wedi’i lleoli ar fryn o waddodion drifft rhewlifol (marian gwth-floc yn benodol) sy’n edrych dros y môr a gwastadedd arfordirol sir Gaernarfon. Mae’r fryngaer a’r ffos ‘wylan’ o’r Ail Ryfel Byd ar lethrau gogleddol y gaer wedi’u diogelu fel Henebion Cofrestredig gan Cadw, ac mae’r bryn wedi’i ddynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar sail pwysigrwydd ei waddodion rhewlifol, y gellir eu gweld yn glir yn y rhannau wedi’u dinoethi o glog-glai, tywod a graean yn wyneb y clogwyn. Cafodd y rhain eu dyddodi pan ymledodd iâ o’r y war o’r cap iâ Cymreig tuag at Ffrwd Iâ Môr Iwerddon yn ystod dadrewlifo ar ddiwedd y rhewlifiant diwethaf, y cyfeirir ato fel y cyfnod Defensaidd, tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Drwy ddefnyddio dyddio OSL (Ymoleuedd wedi’I Ysgogi’n Optegol) I ddyddio’r gwaddodion hyn, gobeithiwn ddarganfod pa mor bell yn ôl yn union y cawsant eu rhoi I lawr.
1. Pa mor hen yw’r fryngaer?
Ni wyddom fawr ddim am yr heneb. Credwn ei bod yn perthyn i’r cyfnod cynhanesyddol diweddarach (yr Oes Haearn) ond mae darganfyddiadau drwy siawns, megis darnau arian Rhufeinig, intaglio (gemfaen cerfiedig mewn modrwy) a chrochenwaith yn awgrymu bod y gaer yn cael ei defnyddio yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Mae posibilrwydd mai olion adeilad neu dŵr yw’r twmpath sgwaraidd amlwg y tu mewn i’r gaer; a allai hwn fod yn y war neu oleudy Rhufeinig? Mae’n debygol iawn hefyd fod pobl yn y war y safle yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar – mae’r enw Dinas Dinlle i’w gael yn chwedl Math fab Mathonwy a Lleu Llaw Gyffes yn y Mabinogi lle ceisir esbonio’r enw Dinlle fel cyfuniad o ‘din’, hen air Cymraeg am gaer, a ‘Lle’, ffurf fer ar Lleu.

2. Hanes diweddar
Yn gynnar yn yr 20fed ganrif roedd y fryngaer yn rhan o faes golff, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe gafodd pilbocs, ffos ‘wylan’ a gwylfa eu hadeiladu ar y llethrau gogleddol i amddiffyn RAF Llandwrog gerllaw (Maes Awyr Caernarfon bellach).
3. Faint o’r gaer a gollwyd ar hyd y canrifoedd?
Mae mapiau cynnar a siâp yr amddiffynfeydd sydd wedi goroesi yn awgrymu bod y fryngaer wedi’i chau’n gyfan gwbl ar un adeg, ond heddiw mae’r rhan fwyaf o’r amddiffynfeydd gorllewinol wedi’u colli i’r môr o ganlyniad i flynyddoedd o erydu. Mae’n anodd dweud faint yn union o’r gaer sydd wedi’i golli ers iddi gael ei chodi, ond drwy ddefnyddio mapiau’r Arolwg Ordnans i fesur safle pen y clogwyn ar hyd y blynyddoedd, rydym yn cyfrifo bod rhwng 20 i 40 metr o’r ochr orllewinol wedi’u colli ers 1900. Os cymerwn y bydd y cyfraddau erydu yn y dyfodol yn fwy nag a welwyd yn ystod y 117 o flynyddoedd diwethaf, oherwydd newid hinsawdd, gallai Dinas Dinlle gael ei cholli’n llwyr mewn llai na 500 mlynedd.


4. Ailgreu’r amgylchedd yn Ninas Dinlle yn y gorffennol – Bryngaer wedi’i golchi gan y tonnau yn ystod yr Oes Haearn ddiweddar?
Mae dyddodion mawn sydd wedi dod i’r golwg yn yr ardal rynglanw ar y blaendraeth tua 100m i’r gorllewin o waelod y clogwyn islaw bryngaer Dinas Dinlle wedi’u dyddio i 4,000 o flynyddoedd yn ôl yn fras ac maen nhw’n cadarnhau bod amgylchedd deltaidd dŵr croyw / lled hallt yma bryd hynny. Amcangyfrifwyd bod y môr oddeutu 1km i ffwrdd ar yr adeg honno. Hefyd mae presenoldeb y mawn yn rhoi amcan i ni o hyd a lled mwyaf y bryn rhewlifol yr adeiladwyd y gaer arno. Wrth i lefel y môr godi a boddi’r amgylchedd hwn, fe ddechreuodd y gwaddodion rhewlifol erydu.

Mae gwaith sy’n cael ei wneud gan Birkbeck, Prifysgol Llundain, gyda Phrifysgol Aberystwyth a CHERISH, i ddyddio Morfa Dinlle, y tafod tywod i’r gogledd o’r gaer (gan ddefnyddio dyddio OSL), yn awgrymu ei fod yn dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid yn unig. Felly mae’n bosibl bod y môr – neu forfa heli – yn ymestyn o odre gogleddol Dinas Dinlle (lle mae’r pentref yn awr) yn yr Oes Haearn ddiweddarach.
Bu’r tîm CHERISH hefyd yn cymryd creiddiau a samplau yn y gwlyptiroedd a arferai fod i’r dwyrain o’r fryngaer ac mae’r canlyniadau cychwynnol yn addawol. Cymerwyd creiddiau gwaddod o ddau leoliad y gobeithir y byddant yn darparu cyd-destun palaeoamgylcheddol ar gyfer y cyfnod y bu pobl yn meddiannu’r gaer. Mae oedrannau radiocarbon yn awgrymu bod y cofnod yn ymestyn yn ôl tua 3,000 o flynyddoedd ac mae gwaith yn cael ei wneud ar hanes llystyfiant a hanes hydrolegol y safle.
5. Ym mha ffyrdd mae newid hinsawdd yn effeithio ar y safle?
Mae Rhagamcaniadau Hinsawdd y DU (UKCP2018) yn cynnig yr asesiad mwyaf cyfoes o sut y gall hinsawdd y DU newid yn ystod yr 21ain ganrif. Y tueddiadau presennol yw:
• Tymereddau cymedrig cynhesach
• Hafau poethach a sychach
• Gaeafau cynhesach a gwlypach
• Mwy o dywydd eithafol
Bydd gan y tueddiadau hyn ganlyniadau amrywiol – codiadau yn lefel y môr; plâu, afiechydon a rhywogaethau ymledol yn mudo ac yn amlhau; priddoedd yn sychu; llifogydd a stormydd mwy mynych – a bydd Dinas Dinlle yn gorfod dygymod â’r holl heriau ac effeithiau hyn.
Effeithiau’r môr: Bydd codiadau yn lefel y môr ac ymchwyddiadau storm yn peri i wyneb y clogwyn a’r heneb erydu’n gyflymach.
Effeithiau glaw trwm a sychder: Sylwyd yn ddiweddar fod dŵr is-wyneb yn llifo oddi ar wyneb y clogwyn mewn mannau ar ôl cyfnodau o law trwm. Gallai’r llifoedd is-wyneb hyn arwain at symudiadau pridd mawr iawn ac mae’n ymddangos bod ffosydd deheuol y fryngaer yn cyfeirio peth o’r llif wyneb ac is-wyneb tuag at wyneb y clogwyn pan fydd hi’n bwrw’n drwm. Mae’r ffosydd yn gweithredu fel cwteri i bob pwrpas.
Gallai glaw trymach o ganlyniad i newid hinsawdd gynyddu’r erydiad hwn, yn enwedig pan geir hefyd gyfnodau hwy o sychder sy’n sychu priddoedd bregus yr arfordir, gan arwain at erydiad gan y gwynt a chreu craciau sy’n caniatáu i bibellau pridd naturiol ffurfio o dan yr wyneb.
![]() | ![]() |
Ffos ddeheuol y fryngaer cyn (chwith) ac ar ôl (de) i ran o’r clogwyn ddymchwel (cofnodwyd ar 14 Chwefror 2019), yn rhannol wrth i law trwm beri i ddŵr lifo ar hyd y ffos
6. Beth mae CHERISH yn ei wneud ar y safle:
Monitro man cychwyn uwch-dechnolegol: 2017-2021
Un o safleoedd monitro man cychwyn CHERISH yw Dinas Dinlle. Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys casglu data 3D hynod fanwl (centimetr ac is-gentimetr) er mwyn monitro ymyl erydol y clogwyn, gan ddefnyddio technegau fel laser-sganio daearol ac arolygon drôn (UAV). Bydd hyn yn darparu man cychwyn manwl gywir ar gyfer monitro yn y dyfodol, a thrwy ddadansoddi dogfennau hanesyddol fel awyrluniau a mapiau byddwn yn gallu cyfrifo cyfraddau erydu’r 150 o flynyddoedd diwethaf. Bydd staff CHERISH a thîm o drigolion lleol ymroddgar yn ymgymryd ag ymweliadau monitro cyson hyd 2021 i weld sut mae’r tymhorau a stormydd yn effeithio ar yr heneb.

7. Ymchwiliadau i wella gwybodaeth am y fryngaer 2017-2021
Yn ogystal â monitro Dinas Dinlle, un o nodau gwaith y Prosiect CHERISH yw gwella ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r fryngaer. Yn yr ardal o’i chwmpas, bydd cymryd creiddiau gwaddod o’r gwlyptiroedd amgylchynol a defnyddio OSL i ddyddio’r tafod tywod ym Morfa Dinlle o gymorth i ailgreu amgylcheddau’r gorffennol a chanfod newidiadau yn yr hinsawdd (gweler uchod) drwy astudio’r dystiolaeth ffisegol, fiolegol a chemegol sydd wedi’i dal yn yr haenau o waddod.
Yn yr heneb ei hun, mae arolygon geoffisegol newydd ac arolygon newydd o’r gwrthgloddiau wedi cynyddu’n ddirfawr ein dealltwriaeth o’r olion archaeolegol: darganfuwyd llawer o dai crwn posibl a nodweddion eraill yn y gaer a’r cae i’r de, ac mae’r rhain yn cael eu cloddio ar hyn o bryd.
Dan oruchwyliaeth lawn, ac yn dilyn misoedd o gynllunio a hyfforddi, bu archaeolegwyr CHERISH a daearyddwyr y Comisiwn Brenhinol a Phrifysgol Aberystwyth yn cynnal ymchwiliadau ar ddechrau Mehefin 2019 i gofnodi a dyddio nodweddion sydd wedi’u dinoethi yn wyneb erydol y clogwyn, gan gynnwys ffos ddeheuol y fryngaer a ddaeth i’r golwg pan ddymchwelodd rhan o’r clogwyn ym mis Chwefror 2019. Cymerwyd creiddiau o’r rhagfuriau deheuol hefyd i ddarganfod mwy am adeiladwaith y fryngaer.
Mae’r canlyniadau cychwynnol yn eithriadol o ddiddorol ac yn codi amheuon ynghylch sut yr adeiladwyd Dinas Dinlle. Prin iawn yw’r olion archaeolegol a ddarganfuwyd ar wyneb y clogwyn ac yn y creiddiau, ac roedd hynny’n annisgwyl. Mae’n ymddangos na chafodd y ffos ddeheuol ei ‘hadeiladu’ ond iddi gael ei ffurfio’n naturiol gan brosesau hydrolegol cymhleth ar ddiwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae defnyddiau caregog a ddarganfuwyd mewn creiddiau a gymerwyd o’r rhagfuriau yn awgrymu, fodd bynnag, i beth gwaith adeiladu gael ei wneud. Mae’n ddigon posibl i’r bobl a oedd yn gyfrifol am adeiladu Dinas Dinlle fanteisio ar nodweddion naturiol a oedd yn bod eisoes, gan eu cryfhau drwy greu llethrau mwy serth ac adeiladu cloddiau.
Efallai mai’r ‘rhagfuriau’ ac ‘amddiffynfeydd’ naturiol hyn – ynghyd â’r safle amlwg ar yr arfordir – a ddenodd pobl yma yn y lle cyntaf.


22/08/2019