
Bryngaer Pendinas: Cyfle i ddysgu mwy am brifddinas y canolbarth yn yr Oes Haearn drwy brosiect newydd cyffrous
Ddydd Mercher 15 Mawrth rhwng 4pm a 6pm, bydd prosiect archaeolegol cyffrous newydd yn cael ei lansio yn Hwb Cymunedol Penparcau, Aberystwyth, Ceredigion. Bydd y digwyddiad yn cynnwys bwffe am ddim a gweithgareddau i blant, yn ogystal ag anerchiadau byr gan yr arbenigwyr Ken Murphy (o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed) a Dr Toby Driver (o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru). Bydd canlyniadau’r gwaith cloddio cyfyngedig yn 2021 yn cael eu datgelu gan Fran Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed. Bydd yna sesiwn holi ac ateb hefyd yn ogystal â chyfle i gwrdd â swyddog allgymorth newydd y prosiect, Beca Davies. Bydd yna groeso cynnes i bawb.
Er i’r safle gael ei gloddio yn y 1930au, mae rhyw ddirgelwch yn perthyn o hyd i’r fryngaer drawiadol hon, fel cymaint o rai eraill ar draws bryniau Cymru. Ai er mwyn dangos grym y gymuned leol yn yr Oes Haearn y cafodd y fryngaer ei hadeiladu, neu a oedd iddi ddiben ymarferol fel lle i gadw gwartheg a grawn yn ddiogel? Beth yr oedd y bobl a oedd yn byw yma’n ei wneud ar y safle hwn ar y bryn?
Bydd y prosiect yn ceisio cael atebion i gwestiynau tebyg i’r rhain, gan weithio gydag aelodau o Grŵp Hanes a Threftadaeth Penparcau a grwpiau cymunedol eraill yn yr ardal. Bydd y prosiect 18 mis yn cynnwys arolwg geoffisegol a gwaith cloddio a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i ni am strwythur y safle a’r modd y câi ei ddefnyddio. Ymhlith darganfyddiadau blaenorol o’r safle y mae darn o arian o ddiwedd yr Oes Rufeinig, o gyfnod yr ymerawdwr Maximian (AD 307), a ddarganfuwyd yn y 1930au. Mae darganfyddiadau diweddarach yn cynnwys glain cywrain o wydr, crochenwaith o’r Oes Haearn, a nifer o ffyn tafl i daflu cerrig crwn. Bydd darganfyddiadau o’r gwaith cloddio diweddar yn 2021 i’w gweld yn y digwyddiad.
Dyma brosiect partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw. Bydd y prosiect yn cydweithio’n agos â chymuned Penparcau ac yn dibynnu ar gefnogaeth a brwdfrydedd gwirfoddolwyr lleol. Cafodd y syniad ar gyfer y prosiect ei gynnig gan aelodau o’r gymuned leol sydd am gael gwybod mwy am y fryngaer a’i gweld yn cael ei chynnal a’i chadw yn well. Mae amryw weithgareddau cymunedol wedi’u cynllunio, a fydd yn cynnwys gwaith cloddio archaeolegol a gweithio gydag arbenigwyr lleol ar fywyd gwyllt er mwyn clirio rhedyn ac eithin a gwella’r safle ar y bryn ar gyfer y planhigion, yr adar, y mamaliaid bach, y pryfed a’r anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill prin sy’n byw ar lethrau Pendinas, sydd hefyd yn Warchodfa Natur Leol i Benparcau!
Bydd gwneud ffilmiau, creu crochenwaith, prosiectau ysgolion, teithiau tywys a gweithgareddau adrodd straeon i gyd yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn, a phenllanw’r cyfan fydd gŵyl ar benwythnos yn nes ymlaen yn yr haf i ddangos canlyniadau’r holl weithgareddau hyn.
Y gweithgaredd cyntaf yw gwaith cloddio archaeolegol dros gyfnod o bedair wythnos, rhwng dydd Llun 27 Mawrth a dydd Gwener 21 Ebrill. Dyma gyfle i chi gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli yn ystod y gwaith cloddio, mae croeso i chi fynegi eich diddordeb drwy gysylltu â Ken Murphy (k.murphy@dyfedarchaeology.org.uk) neu dewch draw i’r digwyddiad lansio ddydd Mercher 15Mawrth rhwng 4pm a 6pm i gael gwybod mwy!
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â swyddog allgymorth prosiect Pendinas, Beca Davies (beca.davies@rcahmw.gov.uk).
Capsiynau:

© Hawlfraint y Goron Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, (CBHC).

© Hawlfraint y Goron Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, (CBHC).

© Hawlfraint y Goron Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, (CBHC).

© Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed.

© Hawlfraint y Goron Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, (CBHC).
Rhaid i bob erthygl ar-lein gynnwys dolenni cyswllt amlwg â gwefan CBHC (https://cbhc.gov.uk) a chronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (https://coflein.gov.uk).
02/27/2023